Skip to main content

Y DBYSORFA. Rhif. cxxi.] IONAWR, 1841. [Llyfr XI COFIANT Y PARCH. GRIFFITH SOLOMON, Awdwr" Esboniad ar Lyfr y Pregethwr," Sçc.j gynt o Lanbedrog, Sir Gaernarfon; Gwein- idog defnyddiol gyd â'r Trefnyddion Caljînaidd, yr hwn afufarw Tach. 9,1839. Griffith Solomon ydoedd fab i So- lomon Jones, o blwyf Llandwrog, yn Arfon, yr hwn ydoedd yn byw mewn tyddyn bychan ar dir Tal-y-sarn; ac wrth ei alwedigaeth yn Chwarelwr. Ganwyd G. Solomon oddeutu y fl. 1774. Cafodd ychydig ysgol, a dysg- odd ddarllen yn dda. Pan oedd yn ieuanc cynnwysai feddyliau sobr am grefydd yn wastadol; ac yn ddeuddeng mlwydd oed ymunodd â'r gymdeithas grefyddol yn Bryn-yr-odyn; ond caf- odd ei dynu a'i lithio ar ol hyny gan demtasiynau y byd ârẃg presennol i rodio yn ol helynt yr oes. Pan ydoedd oddeutu 16 oed teiml- odd rym cenadwri yr efengyl yn eíFeith- iol iawn dan weinidogaeth y Parch. J. Jones, o Edeyrn, gynt. Wedi hyny cymmerodd yr iau arno yn ewyllysgar hyd ddiwedd ei oes. Am nad oedd yn meddu cymmwys- derau naturiol i weithio yn y Chwarel- au, aeth i ysgol a gedwid yn Bryn-yr- odyn; ac er cael ychwaneg o addysg bu gyda'r Parch. E. Richardson, yn Nghaerynarfon, a Mr. D. Wilson, yn Llandegai; felly, trwy ychydig o fan- teision, a llawn ddiwydrwydd, cyn- nyddodd mewn dysg a gwybodaeth yn fwy na llawer. Bu wedi hyny yn cadw ysgol ei hun- an mewn gwahanol fanau yn Arfon, sef Waunfawr, Bryn-yr-odyn, ac Aber- pwll: a decbreuodd bregethu yn y lle olaf, yn nhŷ Mr. William Evans. Oddeutu y flwyddyn 1800 daeth i Leyn i gadw ysgol. Cartrefodd gyda pherthynas iddo yn Llanbedrog ; ac yn Lleyn y bu terfynau ei breswylfod hyd ddiwedd ei oes. Bu tros ychydig am- ser yn Tydweiliog, gyda Mr. Roberts, o Gaergybi, yn cael ei ddysgu er ychwan- egu ei ddefnyddioldeb. Teitbiai lawer yn y dyddiau byny i gyflawni ei gyhoeddiadau, ac hefyd i wrando pregetbau, a hyny ar ei draed. Rhoddodd gwbl ddiwydrwydd i wran- do'r gair megys y gwnai eraill o'i gyf- oedion yn yr amser hwnw. Yr oedd efe yn rhagori er byny mewn tri pheth; sef 1. Ei weddiau taerion. Dyrchafai ddwylawsanctaiddynycynulleidfaoedd heb na digter na dadl, a disgynai rhyw ddylanwadau tra effeithiol ar y cynull- eidfaoedd wrth ei glywed. 2. Yn ei gof. Gallai ddal yn ei gof swm yr hyn a glywai yn y pregethau, ac hefyd yn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfâau; heb gofnodi nac ysgrifenu. 3. Ynghywirdeb ei olygiadau ar yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Gwrthwynebai bob cyfeiliornad yn gad- arn yn y ffydd. Goruwch-adeiladwyd ef ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen. Yn mhen ychydig ar ol iddo ddyfod i lieyn priododd, a ~bu iddo bedwar o blant, tri mab ac un ferch. Wedi bod yn cadw'r ysgol yn Pig Street, ac yn cyflawni ei deithiau Sab- bathawl am yspaid o amser, trefnwyd ef gan y corph i gadw yr ysgol rad a gynhelid yn Lleyn: a gadawai yr ysgol ar amserau gan fyned trwy ranau o Siroedd y Gogledd, yn ol galwad ei frodyr, i bregethu efengyl y deyrnas. Yr oedd ei gynydd yn eglur i bawb, yn enwedig yn ei ddawn a'i fedrus- rwydd i esbonio yr ysgrythyrau, rhodd- ai allan y syuwyr mewn modd eglur wrth eu darílen; dywedai ychydig er eglurhàd ar yr hyn a ddarllenai; a dyma ydoedd ei ddull cyffredinol o bre- gethu, sef agoryd i ni yr ysgrythyrau. Dywedodd un gwr dysgedig wrthyf, yn ddiweddar, sef y Parch. J. Parry, Caerlleon, ei fod yn rhagori fel esbon- iwr, yn ol ei farn ef, ar y cyffredinol-