Skip to main content

X DETSOEFA. Ehif 746.] BHAGFYE, 1892. [Llyfr LXII. Y PAECH. D. SAUNDEES, D.D. GAN Y PARCH. W. JAMES, ABERDAR. I. Braslun o'i Hanes. " Anhawdd credu fod Dr. Saunders wedi marw, o herwydd yr oedd mor fyw," ebai un o'i gyfeillion ddiwrnod y claddedigaeth. Ychydig o waith marw mewn cymhariaeth sydd gan rai dynion, ond am dano ef, yr oedd yn fyw drwyddo, ac yn fyw iawn; ond er mor fyw, bu farw cyn bod yn ddwy a thriugain oed. Dywedai un o'r gweinidogion yn y gwasanaeth ang- laddol—" Gwelais ef yn codi a llawen- ychais yn ddirfawr; ni feddyliais ei weled yn machlud, oblegid yr oeddwn dair-ar-ddeg o flynyddoedd yn henach nag ef; ond yr wyf wedi byw i weled ei fachludiad. Ehwng y codiad a'r machhidiad cafwyd diwrnod dysglaer a gogoneddus." Cymharol fer fu ei oes, ondllanwydhi â gwaith, a hwnwy gwaith mwyaf gogoneddus y gallai dyn ymafly djnddo; ugain mlynedd o ddar- paru ar gyfer gwaith mawr y weinid- ogaeth, a deugain mlynedd lawn o bregethu yr Efengyl yn y pulpud Cymreig, a hyny yn lleoedd amlaf y bobloedd. Y teimlad cyffredinol hedd- yw ydyw mai da fuasai cael ei gadw ynhwy; ond efe a weithiodd yn dda, a chyflawnodd eî weinidogaeth cyn myned i orphwys, a " gorphen ei yrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniodd gan yr Arglwydd Iesu, j dystiolaethu Ef engyl gras Duw." Nid yw yn bosibl adolygu ei fywyd o fewn cylch yr ysgrif hon, ond goddefer i mi gymeryd trem frysiog ar y prif am- gylchiadau a rhai o'r nodweddion a berthynai i'w weinidogaeth. 1. Ei Enedigaeth. Granwyd ef yn Nghastellnewydd yn Emlyn, Mai 20fed, 1831. Nis gwydd- om am ddhn neillduol yn ei enedig- aeth a'i fabandod, ac ni theimlid fod y ffaith yn werth i'w chofnodi, oni b'ai yr enwogrwydd a ennillodd ar ol hyny, a'r lle mawr a gafodd yn marn a theimlad ei gyfundeb a'i genedl. Ceir fod swyn arbenig mewn olrhain sefyd- liad pwysig yn ol i'w ddechreu dinod, neu ddilyn afon fawr, fel y Mississippi, yn ol i'w tharddiad cyntaf, a'i gweled yn ymwthio trwy yr hesg a'r brwyn i oleuni'r dydd, a byddai hyfrydwch neillduol mewn camu drosti yn ol ac ymlaen pan yn nant fechan y myn- ydd. Er fod y dechreu yn fychan mewn gwirionedd, mae y ffaith mai dechreu afon fawr fordwyol ydyw yn cyfreithloni aros am enyd o gwmpas ei tharddiad. Felly am fabandod dyn mawr fel Dr. Saunders, dyddorol fu- asai aros am enyd o amgylch ei gryd a'r lle y ganwyd ef ynddo, a chysylltiadau a nodweddion ei rieni. Dichon y cawn hamdden i hyn rywbryd eto, ond yn awr rhaid brysio ymlaen at ei fywyd cy- hoeddus. Yn fuan ar ol ei ened- igaeth, symudodd ei rieni i Lan. bedr Pont Stephan, Sir Aberteifi, ac oddiyno, pan oedd eu mab unig- 2 L.