Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DETSOEFA Ehif 744.] HYDEEF, 1892. [Llyfr LXII. C A N I A D SOLOMON. GAN Y PAECH. R. H. MORGAN, M.A., MENAI BRLDGE. Clywsom am flaenor yn y dyddiau gynt, yr hwn a arferai bob aniser ddarllen ar gyhoedd lle bynag y dy- gwyddai y Bibl agor. Yr oedd hyny yn rhan o'i grefydd. Un noswaith agor- odd y Bibl yn yr Apocrypha, a dar- llenai yr hen frawd yn ei flaen yn weddol gysurus, ac ar y diwedd dy- wedodd, " Felly darllenwyd rhan o lyfr To------;" ie, meddai gan edrych braidd yn syn, " ie, llyfr Tobit, mi dybygwn;" ac yna ychwanegai fel math o esgusawd, " mae Tobit yn dyweyd Uawer o bethau buddiol." Teimla llawer yn y dyddiau hyn fod anghen rhyw esgusawd cyffelyb dros lyfr y Caniadau. Ychydig a ddarllenir arno, anfynych y pregethir ar destyn o hono, perchir ef am ei fod yn ffurfio rhan o'r Ysgrythyrau Sanctaidd, ond cred aml un yw mai camgymeriad yw ei fod yn y Canon, ac mai y ganmol- iaeth uwchaf a ellir ei roddi iddo ydyw " mae ynddo lawer o bethau buddiol." Ceir yn y llyfr amryw o ymadroddion sydd yn taro clustiau yr oes hon fel rhai anghoeth ; ond " i'r pur pobpeth sydd bur," a phwnc o chwaeth yw materion o'r fath : ac y mae chwaeth yn beth sydd yn newid o oes i oes ac mewn gwahanol wledydd. Dichon f od geiriau a brawddegau yn y Caniadau hollol wrthwynebus i chwaeth y gen- edlaeth bresennol; ond ni cheir ynddo un frawddeg dramgwyddus i rinwedd, na dim sydd yn sawru o'r masw a'r ammliur. Mae y farddoniaeth o radd uchel a hynod brydferth ; yr oedd gan ei hawdwr — nid Solomon, mae'n debyg—lygad i weled anian, a chalon i'w theimlo. Prin, ni dybiwn, y mae llawer wedi ystyried, mai o lyfr y Caniadau y cymerwyd yr ymadroddion hyny a ddefnyddir mor fynych fel desgrifiad o Grist a'r Eglwys: " Ehosyn Saron, a lili y dyffrynoedd ydwyf fi; " " Tyn ni, a ni a redwn ar dy ol;" " Y mae efe oll yn hawddgar;" " Fy anwylyd sydd wyn a gwridog yn rhagori ar ddeng mil;" " Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog ? " Ni fu ammheuaeth gan yr eglwys Iuddewig na Christionogol parthed hawl y Caniadau i gael ei gyfrif yn ysbrydoledig, a'i gynnwys ymhlith llyfrau y Canon. Oblegid yr ymad- roddion y cyfeiriwyd atynt, pa rai sydd yn ymddangos yn fwy an- chwaethus yn y cyfieithiad Cymraeg a Saesoneg, nag ydynt, meddir, yn yr Hebraeg, dywed yr hen Thomas Coke, "Ac yn moreuddydd Cristionogaeth blaenoriaid yr eglwys, hyd yr oedd ynddynt, a waharddent ei ddarllen i'r rhai cnawdol, a'r rhai ni fedrent am- gyffred yr ehediadau ysbrydol a dir- gelaidd o ba rai y mae'n llawn." Edrychid arno gan y rhan fwyaf o'r 2 B