Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEPA. Rhif 743.] MEDI, 1892. [Llyfr LXII. ENW YR ARGLWYDD IESU. GAN Y PARCH. JOHN ROBERTS, TAIHEN, MON. Y Ctnghor a draddodwyd yn y Gwasanaeth Ordeinio, yn Nghymdeithasfa Amlwch, Mehefin 29ain, 1892. (Wedi ei barotoi i'r Drysorfa gan yr Awdwr). Actau iii. 16: " A'i enw ef, trwy fîydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll." Anwyl gyfeillion ieuainc a pharchus gynnulleidf a,—Wrth deimlo f y aimheil- yngdod i sefyll yn y lle hwn, a cheisio traddodi Cynghor ar amgylchiad mor bwysig, yr wyf wedi cael fy nhueddu i feddwl nas gallwn wneyd dim gwell na cheisio troi eich sylw at Enw un "sydd uwchlaw pawb,"—" Enw" y mae yn gweddu i'r mwyaf gystal a'r lleiaf o honom wylaidd edrych i fyny wrth feddwl am dano. Fy anwyl frodyr ieuainc, yr wyf yn gobeithio yn fawr nad oes un o honoch heb deimlo eich bod heddyw wedi cael eich gosod mewn sefyllfa bwysig, a bod y gwaith yr ydych wedi ymgy- meryd âg ef yn gofyn difrifwch mawr. Hwyrach y bydd y syniad yn rhyw ymwthfo i'ch meddyliau, eich bod yn awr wedi myned trwy yr arholiadau celyd, a bod eich cyfnod prawf yn rhywbeth yr ydych wedi myned trwy- ddo; ond os meddyliwch y fath beth, chwi wnewch y camgymeriad mwyaf. Y mae yr holi mawr, er gwybod pa beth sydd ynoch, a'r prawf pwysig arnoch chwi fel gweinidogion Crist, eto yn eich aros. Fe allai i chwi ddarllen ysgrifeniadau dynion a fyn- ent i chwi dybied fod y Bibl ar ei brawf, Cristionogaeth ar ei phrawf, ac enw goruchel yr Arglwydd Iesu ar ei brawf; ond y gwir yw, y ni, a'r oes anianol ac anghrediniol yr ydym.yn byw ynddi, sydd yn cael eu profi. Y Bibl ar ei brawf! Gallwch chwi, fy nghyfeillion, deimlo yn bur dawel gyda golwg ar y Bibl. Gall yr hen Fibl yma ddyweyd gyda mwy o wir ac mewn mwy o hyder na Job, " Gwreiddyn y mater a gaed ynof," ac, "Wedi iddo fy mhrofi, mi a ddeuaf allan fel aur." Oes, y mae gan y Nefoedd law yn y goruchwyliaethau sydd yn foddion i ddwyn dyfnder a gogoniant gwirioneddau y Bibl i fwy o eglurdeb; a gellir teimlo yn bur sicr y bydd i higher criticism dynion dysg- edig y blynyddoedd diweddaf hyn, er fod llawer o hono yn hynod arwyn- ebol, ateb dybenion pwysig iawn. Wrth iddynt hwy brofi a chwalu syn- iadau dynol mewn perthynas i'r Bibl, fe ddaw yn fwyfwy eglur fod gwirionedd Duw " wedi ei sicrhau yn y nefoedd." Nid ydyw pob cyfun- 2 B