Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEPA. Rhif 741.] GOEPHENAF, 1892. [Llyfe LXII. DAMMEG Y GWEITHWYR YN Y WINLLAN. (Mat. xx. 1—16.) (Gan D r. Sanday.) Cyfieithiedig GAN Y PARCH. R. CEINWENYDD OWEN, BARROW. Gan Matthew yn unig yr ydym yn cael dammeg y Gweithwyr yn y Winllan, ac y mae efe yn ei dodi mewn cyd-destyn sydd yn amlwg yn dwyn perthynas uniongyrchol â hi. Y mae rhyw " lywodraethwr" ieuanc, cy- foethog (h.y., fel ag y gallwn dybied, cyffelyb i Jairus, llywodraethwr neu arolygwr y Synagog), wedi ei feddiannu gan ysbryd deddfoldeb Iuddewaidd, gan dybied y gallai yr Athraw newydd ei gynnysgaeddu â rhyw reol newydd nad oedd ef, hyd yn hyn, wedi clywed am dani, yn dyfod at yr Iesu, ac yn gofyn iddo yn awyddus—" Pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragywydd- ol ? " Dywedwyd wrtho, mewn ateb- iad, os oedd yn ewyllysio bod yn berffaith—os oedd yn dymuno cyr- haedd y safon uchaf—fod yn rhaid iddo ranu ei holl gyfoeth ymhlith y tlodion, a bwrw ei goelbren yn ddi- wrthwynebiad ymysg y fyddin o bysg- otwyr crwydredig gwlad Galilea, y rhai a welir yn sefyll gerllaw. Y mae ein Harglwydd, oblegid rhyw reswm nas gallwn ni yn awr aros i chwilio i mewn iddo, yn rhoddi gwedd mor lem ac anhawdd ar ddyledswydd i'r gŵr ieuanc hwn, fel nad yw yn bresennol, pa fodd bynag, yn gyfartal iddo. Pa un a ddarfu iddo mewn amser dyfodol dderbyn y telerau a gynnygiwyd iddo, nis gwyddom; ond, pa fodd bynag, nis gallasai wneuthur ei feddwl i fyny ar unwaith, ac felly aeth ymaith yn siomedig a phruddaidd. Ac ar ol iddo fyned ymaith y mae yr ymddyddan yn troi ar y rhwystr y mae cyfoeth yn ei roddi ar y ffordd i unrhyw un i fod yn wir ddysgybl i Grist. Y mae Pedr, ac nid heb beth hun- anfoddhad, yn cyferbynu yr aberth y mae ef a'i gyd-ddysgyblion wedi ei wneuthur, gydag anmharodrwydd y llywodraethwr ieuanc i ymadael â'i gyfoeth, ac yn gofyn pa beth a fyddai iddynt hwy. Y mae yn amlwg fod yn rhaid i atebiad i'r f ath gwestiwn dori bob ffordd. Ar un Uaw, y mae yn rhaid iddo haeru y gwirionedd nad ydyw y golled ymddangosiadol y rhaid i'r dysgybl ei 4yoddef yn golled mewn gwirionedd, ond yn hytrach yn ennill. Nid ydyw Duw yn gofyn i'w weision roddi dim i fyny, na bydd iddynt gael llawn cymaint yn ei le, a llawer iawn mwy. Ac ar y Uaw arall, y mae yn rhaid cywiro uchelgais ac ymhon- iad Pedr. Y mae yr amcan cyntaf yn cael ei gyfarfod yn yr adnodau olaf yn y bennod o'r blaen, a'r ail yn y ddammeg sydd yn ffurfio agoriad i'r rhan gyntaf o'r bennod hon (Mat. xx). Y mae y naill yn cael ei gysylltu wrth y llall gydag ymadrodd sydd yn golygu cuddio, neu gadw yn ol, yn cael ei ychwanegu at yr addewid o wobr.