Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

226 NODIADÀÜ MISOL. idog ar eglwys Dylife, lle y magwyd Mr. Stephens. Pregethwyd nos Fercher a dydd Iau gan y Parchn. Robert Jones a John Hughes. BRYNAMMAN. Cynnaliwyd Cyfarfod Pregethu yn y lle hwn, 8ul, Ebrill 17eg, y Parchn. Thomas Davies, Treorci, a John Davies, Llandilo, yn gwasanaethu. LLANGENNECH. Y Sul a'r Llun, Ebrill 24 a'r 25ain, cynnaliwyd y Cyfarfod Blynyddol, pryd y gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. John Davies, Llandilo, a David Lewis, Llanstephan. AMMANFORD. Cynnaliwyd Cyfarfod Pregethu yn y lle uchod, y Sul a'r Llun, Mai laf a'r 2il, pryd y pregethwyd gan y Parchn. John Davies, Llandilo, a H. Barrow Williams, Llandudno. ABERDAR. Cynnaliodd Eglwys Bethania ei Chyf- arfod Pregethu Blynyddol y Groglith a'r Pasg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. W. E. Prydderch, Goppa; T. James, M.A., Llanelli; a S. T. Jones, Rhyl. * TREHERBERT. Cynnaliwyd Cyfarfod Pregethu Blyn- yddol y lle hwn Sabboth a Llun, Mai laf a'r 2il. Y pregethwyr oeddynt y Parchn. Francis Jones, Abergele, a Phillip Jones, Abergwaen. Gwnaed casgliadau ymhob oedfa i gynnorthwyo eglwys a chynnull- eidfa Blaenrhondda i gyfarfod y golled drom a gawsant trwy y niwed a wnaed i'w capel gan yr ystorm yn y gauaf diweddaf. MANCHESTER. Cynnaliwyd Cymanfa Flynyddol y Groglith a'r Pasg yn y ddinas hon fel arferol. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Hughes, D.D., Caernarfon; William James, Aberdâr; J. J. Roberts, Porth- madog ; a William Lewis, Pontypridd. MARWOLAETHAU PREGETHWYR. Y PARCH. ROBERT HUGHES, UWCHLAW'R- FFYNNON. Mai y 3ydd, bu farw yn ei breswylfod, Uwchlaw'rffynnon, ger Llanaelhaiarn, Lleyn, y gweinidog hybarch hwn, wedi gadael ei un a phedwar ugain mlwydd oed. Yr oedd Mr. Hughes yn ddyn o athrylith wreiddiol, yn berchen meddwl cryf ac annibynol, ac yn bregethwr add- ysgiadol a dyddorol i'w wrando, er na byddai ganddo fawr i'r rhai sydd â'u bryd ar hwyl a theimladau cyffrous. Yr oedd yn fardd o fri ddeugain mlynedd yn ol a mwy, ac yn gyfaill mawr i Eben Fardd. Ei fîugenw oedd Robin Goch. Ennillodd y wobr mewn Eisteddfod am Gywydd ar Ddinystr Sodom a Gomorrah. Y mae dwy linell o'r cywydd hwn yn anfar- wol:—■ " 'E luchiai Duw luwch o dân I'w diefiig dai aflan." Pan yn driugain oed, trôdd ei sylw at arluniaeth, a chyrhaeddodd ragoriaeth yn y gelfyddyd oedd yn destyn syndod dan yr amgylchiadau. Diau ei fod yn ẃr Duw ac yn wir was i Grist. Cladd- wyd ef ddydd Sadwrn, Mai y 7fed. jloötaòatt j&ufol. YR UNDEB CYNNÜLLEIDPAOL A'R YSGRIP- ENYDD. Nos Lun, Mai 9fed, cynnaliwyd cyfar- fod cynhyrfus a brwdfrydig yn y Memor- ial Hall, yn Llundain, yn yr hwn yr etholwyd y Parch. W. J. Woods, B.A., yn Ysgrifenydd yr Undeb Cynnulleidfaoí am y flwyädyn nesaf, gyda chyflog o £700, a £100 am olygu y Dyddiadur. Y mae Mr. Woods i roddi hanner ei Sab- bothau o leiaf i wasanaethu yr eglwysi gweiniaid. Penderfynwyd i'r Parch. D. Burford Hooke wasanaethu fel o'r blaen hyd y flwyddyn nesaf, pan yn ol pob tebyg yr etholir ef yn barhaus i fod yn fath o Is-ysgrifenydd; ac felly, fel y syl- wa un papyr (gydag ergyd sly o wawd- iaeth, gellid meddwl) bydd gan yr Undeb ddau Ysgrifenydd, un i gynnorthwyo eglwysi gweiniaid a'r llall i wneyd gwaith y swyddfa. Cyfarfod cynhyrfus oedd y cynnulliad hwn, a hollol annheilwng o urddas yr Undeb Cynnulleidfaol. Dywedir fod pawb yn teimlo o'r dechreu fod yr awyr- gylch yn Uawn o elfenau terfysg. Yr un cwestiwn " llosgedig " oedd etholiad Ys- grifenydd, i olynu y diweddar Dr. Han- nay. Y mae yn hysbys fod Pwyllgor yr Undeb wedi ethol dau neu dri yn olynol o weinidogion enwog a thra chymhwys i lanw y swydd, i'w cynnyg i Gyfarfod Blynyddol yr Undeb, yn eu plith Dr.