Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEPA. Rhif 740.] MEHEFIN, 1892. [Llyfr LXII. DARLUN 0 UN 0 HEN BREGETHWYR YR OES O'R BLAEN. (Neu Adgofion am William Lewis, Trelogan, Sir Fflint.) GAN Y PARCH. B. HUGHES, LLANELWY. Nid llawer o'r to presennol o ddar- llenwyr y Drysorfa a glywodd arn yr hen bregethwr hynod hwn, canys y mae wedi marw er Rhagfyr 3, 1856. Brodor ydoedd o gymydogaeth Am- lwch, a bu yn gweithio yn nyddiau ei ieuenctyd yn nghloddfeydd Mynydd Paris yn y cwr hwnw o wlad Môn. Gŵr dysyml ydoedd, heb fod dim yn olygus yn ei berson yn allanol. Dyn lled eiddil, gwallt cringoch, a chroen melynwyn yn ymddangos dipyn yn hagr, ac yn wir yr oedd ei holl allan- olion yn edrych braidd yn anneniadol. Ymddengys iddo yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd rodio yn ol helynt y byd hwn, a dilyn y lhaws i wneuthur drwg, ond iddo rywbryd, pan yn nghanol ei afiaeth pechadurus, gael ei arwain i wrandaw ar y Parch. David Jones o'r Dwyran yn pregethu ar yr adnod hono, " Os y Mab gan hyny a'ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir." Cyn traethu ar y rhyddid y mae y credadyn yn ei gael yn Nghrist, gwnaeth y gweinidog sylwadau fel yr oedd y pechadur yn rhwym gan y ddeddf a chyfiawnder, a soniodd am Isaac yn cael ei rwymo ar yr allor, a'r gyllell yn Uaw Abraham ei dad yn myned i'w aberthu: yn gyffelyb i hyny, meddai, yr oedd deddf Duw yn rhwymo ei throseddwyr i ddyoddef byth yn uffern. Bu W. Lewis dan argyhoeddiad dwys iawn, a mynych y cyfeiriai ar hyd ei fywyd am " y daith i Sinai," ac am " filiau trymion y ddeddf " a'r " treial mawr," ac am y Barnwr cyfiawn " yn gwisgo y cap du " i gyhoeddi y ddedfryd, ac " offis y cyfammod gras," a'r " Meichiau tru- garog," a'r " settlo a'r c^-tuno," &c. Symudodd yn y flwyddyn 1824 o ardal Amlwch i Mostyn yn Sir Fflint, a bu yn gweithio yn galed i lawr yn y pyllau glo yn y gymydogaeth hono. Yr achos iddo symud i Sir Fflint, fel y dywedai efe ei hun, oedd er mwyn cael llonydd gan y cymhelliadau cryf- ion a deünlai i bregethu yr efengyl. Mostyn oedd y Tarsis, i'r hwn le y ffodd y Jonah hwn rhag traethu yr iachawdwriaeth trwy Grist i'w gyd- bechaduriaid. Yn fuan wedi dechreu gweithio yn y pyllau glo fe ennillodd barch gan y glöwyr annuwiol. Yr oedd ei symledd a'i onestrwydd cref- yddol yn canmol eu hunain yn nghyd- wybodau y rhai mwyaf anystyriol oedd yn yr ardaloedd. Yr oedd y glöwyr yn tehnlo eu bod yn ddiogel oddiwrth ddamweiniau os caent fyned i lawr i'r pwll yn yr un cibl a W. Lewis, ac yr oeddynt yn Ued dawel na ddygwyddai iddynt unrhyw niwed oddiwrth y llosgnwyon, ac oddiwrth gwympiadau y glo i lawr yn nyfnderau y ddaear, os byddent yn gweithio yn