Skip to main content

Y DEYSOEFA. Ehif 739.] MAI, 1892. [Llyfr LXII. Y PEOFION O DDILYSBWYDD EFENGYL IOAN. GAN Y PAECH. WILLIAM WILLIAMS, GLYNDYFEDWY. Un o'r cwestiynau sydd mewn dadl rhwng Cristionogion ac ammheuwyr yr oes hon yw, pa un a ysgrifenwyd y Pedair Efengyl yn yr oes apostolaidd gan y rhai y mae eu henwau wedi eu cysylltu â hwy, ynte yn ddiweddar- ach gan rywrai eraill. Yn neillduol y mae y cwestiwn wedi ei godi gyda golwg ar y Bedwaredd Efengyl—a ysgrifenwyd yr Efengyl hon gan Ioan yn agos i ddiwedd ei oes, ynte gan rywun arall gan' mlynedd yn ddiw- eddarach ? Y mae y cwestiwn hwn yn ein harwain ychydig i diriogaeth yr hyn a elwir yn Higher Criticism; er hyny ni a hyderwn na fydd hyd yn nod darllenwyr oe lranus y Drysorfa yn anfoddlawn i ni ymaflyd ynddo, ac y bydd rhai o'i darllenwyr ieuainc yn gwerthfawrogi hyn o gynnorthwy i ddeall yn weddol glir beth sydd i'w ddeall wrth yr enw hwn y disgyno eu llygaid yn achlysurol arno. Ni raid bod yn ddysgedig i wneyd defnydd o ffrwyth ymchwiliadau dyfal dynion tra dysgedig. Hyna yw esgus- awd yr ysgrifenydd dros ymaflyd mewn mater sydd yn gofyn un o gyr- haeddiadau uwch nag ef i wneyd ym- chwiliadau annibynol iddo. Cred yr Eglwys trwy yr oesoedd oedd mai Ioan—yr Ioan a arferai bwyso ar fynwes ei Arglwydd—oedd awdwr y Bedwaredd Efengyl. Ond yn niwedd y ganrif o'r blaen dechreu- wyd dal gan ryw nifer o bersonau y syniad mai yn ddiweddarach nag am- ser Ioan yr ysgrifenwyd hi. Tua hanner can' mlynedd yn ol dechreu- wyd traethu y syniad gyda mwy o eofndra, o herwydd yn y flwyddyn 1835 fe gyhoeddodd Strauss ei lyfr ar Fyw- yd Iesu, yr hwn a dynodd sylw cyff- redinol trwy Ewrop. Yn y flwyddyn 1844 ymaflwyd yn egniol yn y pwnc gan Baur, sylfaenydd yr ysgol feirn- iadol a elwir y Tubingen School, a'r hwn a wnaeth y syniad mai nid Ioan yw awdwr yr Efengyl hon yn rhan bwysig o'i gyfundrefn. Yr oedd Baur yn ddyn galluog a dysgedig, a daliai ef mai yn rhan olaf yr ail ganrif yr ysgrifenwyd Efengyl Ioan. Dilynwyd ef gan liaws yn yr Almaen, ac y mae Eenan, un o ysgrifenwyr mwyaf pobl- ogaidd Ffrainc yn yr oes hon, yn cymeryd yr un ochr i'r cwestiwn. Er fod y flwyddyn 1845 yn ddechreuad cyfnod yn hanes llenyddiaeth a duw- inyddiaeth Cyniru, ni chawn gyfeiriad at y ddadl hon oedd yn dechreu cyn- hyrfu yr Almaen mewn mirhyw gy- hoeddiad Cymreig. Ond ni bu llyfr nodedig Baur o flaen y cyhoedd am fwy na blwyddyn cyn i Ebrard ddyfod allan yn yr Almaen i bleidio yr hen olygiad. Ac ymhen ychydig o flyn- yddoedd, yn y flwyddyn 1849, cy- hoeddwyd yn Lloegr yr argraffiad cyntaf o Esboniad Alford ar y Testa-