Skip to main content

-• Y DEYSOEFA. Ehif 737.] MAWRTH, 1892. [Llyfr LXII. YE ACHOSION SEISONIG. GAN Y PAECH. T. J. WHELDON, B.A., BLAENAU FFESTINIOG. Ymddengys oddiwrth Adroddiad Pwyllgor y Drysorfa er sefydlu a chyn- nal Eglwysi Seisonigyn Ngogledd Cym- ru, fel pe byddai argyfwng pwysig yn ei hanes sydd yn galw am sylw difrifol caredigion yr Achos hwn a'n Cyfundeb yn gyffredinol. Y mae y maes wedi eangu yn ddirfawr, a'r cyfrifoldeb yn fwy nag erioed, pan nad yw y symiau a gyfrenir i'r Drysorfa o'r Siroedd yn ymeangu yn gyfartal. Anhawdd ydyw darllen Adroddiad sydd, ar y naill law, yn dangos mwy o weithgar- wch a ffyddlondeb ar ran y rhai a gynnorthwyir, ac, ar y llaw arall, yn dangos diffyg ysbryd cyfatebol yn yr eglwysi cynnorthwyol. Nid oes a wâd fod Methodistiaeth wedi colli tir lawer yn Nghymru, a hyny yn anadferadwy, o herwydd esgeulusdra yn y rhan hon. Y mae yr un mor eglur i lawer fod tir eang nas gallwn fyned a'i feddiannu eto heddyw yn aros. Sicr yw fod achos o hyn yn rhywle. Ni wyddai y Meth- odistiaid cyntaf am wahaniaeth iaith. Pan yn llosgi gan awydd i wneuthur daioni, pregethent fel y byddai yr anghen. Byddai Howel Harris mor gartrefol yn Lloegr ag yn Nghymru, ac feUy lîaws o'i gydoeswyr a chyd- weithwyr. Deuai Whitfield a'i gyf- eillion i Gymru gyda'r un genadwri fawr ag oedd ganddynt i'r Saeson, heb wahaniaeth, oddigerth yr hyn a godai o anghenrheidrwydd amgylch- iadau. Ar eu hol hwy daeth cyfnew- idiad er gwaeth, yr hwn a achosid weithiau gan ddifìyg dysgeidiaeth yn y gweinidogion a'r pregethwyr: gan nas gallent yn rhwydd lefaru yn Saes- oneg, nis gwnaent o gwbl. Mewn achosion eraill yn ddiweddarach, deuai y gwrthwynebiad rhwng cenedl a chenedl i mewn, gan greu rhagfarn; eto gan mwyaf ymhob oes y prif reswm ydoedd difrawder ysbrydol, trwy na oleuid cydwybodau ar hyn, ac na ddysgid y ddyledswydd a orphwysai arnom fel Eglwys. Pe gallem ddwyn ein swyddogion i ddarllen a sylwi ar yr Adroddiad, byddai hyny yn dysgu y dysgawdwyr, a buan y gwelid y casgliadau yn chwyddo niewn canlyn- iad. Y mae y gwaith a wnaed yn ystod y chwarter canrif diweddaf trwy offerynoliaeth y Drysorfa hon yn ddirfawr, a thoraeth o ffeithiau wrth law i ddangos y daioni a wnaethpwyd trwy ymdrechion y Pwyllgor a'r Ys- grifenydd ymroddgar sydd yn ei was- anaeth. Bu darogan ar gychwyniad y gwaith, ac wedi hyny, na byddai les o'r gwaith hwn i'n Cyfundeb. Y mae eglwysi wedi eu gwreiddio yma a thraw, a'r rhai hyny yn llawn o yni ieuenctyd; disgyna galwadau newydd- ion am gynnorthwy ar glust y Pwyll- gor, gan eu gosod mewn trallod, a'r Cyfundeb ynddynt hwy mewn golyg- iad na phâr Iawenydd ond i wrthwyn-