Skip to main content

Y DEISOEFA. Ehif 736.] CHWEFEOE, 1892. [Llyfr LXII. BLWYDDYN EIN HAEGLWYDD, 1892. GAN Y GOLYGYDD. Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr y Drysorfa yn fyw ynihen wyth mlyn- edd. Y dyddiad ar bob llythyr a bill y pryd hwnw fydd 1900. G-ŵyr pawb mai ystyr y ffigyrau hyn ydyw Oed Crist, neu Blwyddyn yr Arglwydd. Dengys hyn y fath warogaeth anym- wybodol y mae y byd yn ei dalu i ddylanwad digyffelyb Iesu Grist, pan y mae yn rhaid iddo ei ddwyn i mewn, yn y ffurf hon, i'w holl drafodaethau. Dyma dystiolaeth ddystaw, ond nerth- ol, i'r gwirionedd fod Cristionogaeth yn ddadblygiad newydd mewn hanes- yddiaeth, yn gychwyniad newydd i'r hil ddynol. O enedigaeth Sylfaenydd Cristionogaeth y mae amser ei hunan bellach yn cael ei gyfrif. Y mae y Hythyrenau c.c. ac o.c. yn dj^stiolaeth fod ymddangosiad Crist ar y ddaear wedi rhanu oes y byd. Dyma Berson digon mawr i fod yn ganolbwynt hanesyddiaeth. Un prawf o hyny ydyw, ei fod trwy gydsyniad dystaw a chyfîredinol wedi dyfod yn ganol- bwynt amseryddiaeth. Cyfrifir pob amgylchiad yn ol fel y byddo yn sefyll o fiaen neu ar ol ei ymddangos- iad Ef. Y mae newid y ffigyr yn y fiwyddyn o oedran yr Arglwydd, fel yr ydys yn gwneyd ar bob dydd cyntaf o Ionawr, yn awgrymu amryw ystyriaethau pwysig. Heblaw yr ystyriaeth ddif- rifol i bob un yn bersonol gyda golwg ar ei oedran ef ei hunan—fod un flwyddyn wedi ei chwanegu at y rhan a aeth heibio o'r einioes, ac felly wedi ei thynu oddiwrth y rhan sydd yn ngweddill, y mae ystyriaethau eraill o bwys a dyddordeb cyffredinol. Dwy ystyriaeth o'r natur yna a awgrymir gan y dyddiad newydd ydyw Oedran Cristionogaeth a'i Sefyllfa bresennol. I. Oedran Cristionoöaeth. Y mae Cristionogaeth mewn un ys- tyr mor hen a'r greadigaeth. Nid ail feddwl ydyw, a achlysurwyd gan am- gylchiadau nad oedd modd eu rhag- weled. Ffrwyth cynllun tragywyddol ydyw a gymerai bobpeth i mewn. Y mae yr Oen yn un " a laddwyd er dechreuad y byd." Ond y mae Crist- ionogaeth fel ffaith hanesyddol, erbyn hyn, yn tynu yn agos at ddwy fil o flynyddoedd o oed. Y mae hyn y drydedd ran o Oes y Byd. Y mae y grefydd hon yn ddigon hen bellach i fod wedi ennill iddi ei hunan safle yn y byd, a Ue mewo hanesyddiaeth. Nis gellir ei gadael allan o unrhyw gyfrif a gymerir o hanes ysbrydol y ddynol- iaeth. " Dinas ar fryn " yd^-w ; nis gellir ei chuddio, na pheidio ei gweled. Y mae Iesu Grist y ffigiwr mwyaf yn hanes y byd, a'i grefydd y dylanwad mwyaf a ddaeth i mewn erioed i gym- deithas. Nis gellir gwadu y ffaith yna, pa gyfrif bynag a roddir am dani. Ac erbyn hyn, nis gall neb ddyweyd mai newydd-beth ydyw, yn tynu sylw byr-