Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEPA. Ehif. 735.] IONAWE, 1892. [Llyfr LXII. OFFEIEIADAETH CEIST A'E SAINT. GAN Y PAECH. D. EYANS, M.A., ABEBMAW. Er y gellir trafod swyddau cyfryngol ein Gwaredwr yn gwbl annibynol y naill ar y llall, eto nid ydym un amser i anghofio fod cysylltiad hanfodol ac anwahanol rhyngddynt â'u gilydd. Felly, wrth ymdrin â'r tair yn eu cysylltiad a'u perthynas â'u gilydd, y mae pwysigrwydd hanfodol yn perthyn i drefn dilyniad y naill a'r llall. Nid dibwys yw yr ystyriaeth, pa un ai fel Prophtuyd, Offeiriad, a Brenin, ai fel Offeiriad, Prophiayd, a Brenin, ai yn ol rhyw ddilyniad arall, y mae i ni edrych arno. Wrth edrych ar berth- ynas y swyddau cyfryngol â'r adran fwyaf ymarferol o dduwinyddiaeth gyfundraethol (Dogmatics), sef Iach- awd-ddysg (Soteriology), rhaid mai y dilyniad cjmtaf,—Prophwyd, Offeiriad a Brenin, yw y mwyaf rhesymol a naturiol. Oblegid yn nghymhwysiad trefn yr iachawdwriaeth at sefyllfa a chyflwr pechadur, fel Prophwyd yn gyntaf y mae'r Gwaredwr yn ei oleuo a'i ddysgu, am ei gyfrifoldeb i Dduw, a'i euogrwydd yn ngwyneb ei ddeddf; drwy hyny y daw i weled ei werth fel Offeiriad wedi cyflwyno un aberth an- feidrol i foddloni cyfiawnder ar ei ran ; a'r diwedd fydd dymunojiddo deyrnasu fel Brenin arno, darostwng ei holl nwydau a'i flysiau o dan ei awdurdod, a chael ei ddeddf yn rheol buchedd ac ymarweddiad iddo ymhob peth. Ac nid yn unig yn ol y dilyniad yma y cym- hwysir y drefn at gyflwr pechadur, felly hefyd yr ydym yn cael y bu dad- blygiad hanesyddol y drefn o dan yr Hen Destament, yn gystal a'i gweith- iad allan yn mywyd a marwolaeth y Meichiau mawr ar y ddaear. Moses y Prophwyd a gawn ni gyntaf o dan yr Hen Oruchwyliaeth yn dysgu ynghylch y deddfau a'r barnedigaethau, cyn neillduo Aaron a'i feibion i wneuthur cymmod am droseddiad o honynt drwy'r aberthau ; ond yr amcan eithaf oedd cael y bobl i gadw'r deddfau fel deiliaid o'r ddwyflywiaeth (theo- cracy), yn gystal pan oedd Duw ei hunan yn eu llywodraethu yn union- gyrchol a phan yn ddiweddarach yn gwneuthur hyny drwy'r barnwyr a'r breninoedd. Yr un modd yn rnywyd a marwolaeth y Gwaredwr—yn Bro- phwyd " yn dysgu fel un âg awdurdod ganddo," drwy bregethau a dammegion, y cawn ni ef gyntaf yn ei fywyd cyhoeddus; wedi hyny yn niwedd ei oes, y mae fel Archoffeiriad mawr yn offrymu ei hun yn ddifai i Dduw ; ond nod eithaf y cyfan oedd ei sefydliad fel Brenin, i allu dyweyd, " Ehoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear," er mwyn gallu casglu deiliaid ewyllys- gar i'w deyrnas, i symud ymaith bob rhwystrau ar ôbrdd ei llwyddiant; a darostwng ei holl elynion i fod " yn droedfainc i'w draed." Ond wrth edrych ar berthynas y swyddau â Duwinyddiaeth briodol (Theology), sef yr addysg am Dduw