Skip to main content

Y DIIYSORFA. Rhip. LXXII.] RHAGFYR, 1852. [Llyfr VI. ẅarijiata a ẅjfriiiarfta* CYSYLLTIAD GWEDDI A GWEINIDOGAETH Y GAIR. Y CYNGHOR A DRADDODWYD TN NGHYMDEITHASFA PwLLHELI, MEDI 9FED, 1852, ar Neillduad Gweinidogion, GAN Y PARCH. LEWIS EDWARDS, M.A. Y mae yn debyg, fy mrodyr, ar yr achlysur presennol, mai gwell fyddai galw eich sylw at un mater, a dim ond un, yn lle eich dyrysu gyda gor- mod o amrywiaeth. V mater yr ydwyf am ei roddi o'ch blaen ydyw,— CysyUtiad Gweddi a Gweinidogaeth y Gair. Fel sail i'n cynghor, darllenwn y geiriau sydd yn Actau vi. 4 :— "Eithr ni a barhâwn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair." Yr Apostolion oedd y rhai a lefaras- ant fel hyn; ac y maent yn dywedyd hyn fel rheswni dros ymryddhâu oddi- wrth bob gorchwylion eraill oedd yn niyned â'u hamser. Nid oeddynt hwy yn foddlawn i roddi eu hamser hyd yn nod i ymdrin â materion allanol yr eglwys. Ac os felly, pa faint mwy y dylai gweinidogion y gair fod yn rhydd oddiwrth negeseuau y bywyd hwn ì Nid dyma y pwnc yr ydwyf yn awr am sefyll amo ; ond gan ei fod yn gorwedd mor amlwg yn y geiriau, buasai yn gam â'r gwirionedd i ni fyned heibio heb ei grybwyll. Nid hen draddodiad a ddy- lai fod ein rheol gyda hyn, na chyda dim arall; y Bibl yw y rheol, ac y mae yn bendant ar y mater. Gallem feddwl, pe byddai Iesu Grist yn dyfod o'r nef- oedd i lefaru yn ddigyfrwng ar y pwnc hwn, y byddai rhywrai yn barod i'w ateb, "Nid fel hyna y gwelsom ni gyda'r hen Fethodistiaid." Ond, o ran hyny, mae Crist ìpedi dywedyd ar hyn: "Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r Cyfres Newydd. rhai sydd yn pregethu yr efengyl, fyw wrth yr efengyl." Gobeithio y cawn ninnau galon i wrandaw ar ei leferydd. Ond mae y geiriau, ni a welwn, yn dangos fod cysylltiad, neu berthynas agos, rhwng gweddi a phregethu : "Ni a barhâwn mewn gweddi a gweinidog- aeth y gair." Dyna pa fath rai oedd yr Apostolion. Ar ol esgyniad Crist i'r nefoedd, yr oeddent yn Jerusalem " yn parhâu yn gyttûn mewn gweddi ac ymbil;" a thra yr oeddent yn yr agwedd hono, y daeth addewid y Tad arnynt. Un fel hyn yn arbenig oedd Iesu Giist. Os oes rhyw- beth yn fwy amlwg na'i gilydd yn ei hanes, hyn ydyw,—yr oedd yn weddiwr anghyffredin. Pan yr oedd yn gweddio ar ol ei fedyddio, yr agorwyd y nefoedd uwch ei ben, ac y disgynodd yr Ysbryd fel colomen arno. Mewn canlyniad i hyn, ar ol iddo ganu cloch fawr y gre- adigaeth, fel y dywedodd John Foster, yn Cana ac yn Jerusalem, i alw sylw trwy ei wyrthiau, yr ydym yn ei gael yn myned i ddechreu pregethu i Naza- reth, ei ddinas ei hun; ac efe a bre- gethodd ei bregeth gyntaf ar y testun hwnw, "Ysbryd yr Arglwydd sydd ar- naf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i'r tlodio^n yr anfonodd fi, i iachâu y drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb; i bregethu blwyddyn l 1