Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. LXXI.] TACHWEDD, 1852. [Llyfr VI. Crtójínte n dpnlirtiitfíljim. TRUGAREDD I'R AMDDIFAD. Preseth a draddodwyd yn Llanidloes, Sabbath, Awst Iaf, 1841, GAN Y DIWEDDAR BaRCH. WlLLIAM HaVARD. Hosea XIV. 3: " Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd." C yfodwyd y prophwyd Hosea gan yr Ar- glwydd ar adeg pan yr oedd y bobl oedd mewn cyfaramod âg ef wedi troi yn an- ftÿddlawn iawn iddo, ac wedi ymroddi i eilunaddoliaeth. Dyma ddrwg niawr : ymadael â Duw, a throi at eilunod. Yr wyf yn ofni y gall fod llawer proffeswr yn ein dyddiau ni, er nad ydyw wedi troi at eilunod o bren a maen, eto wedi troi at rywbeth gwaharddedig, nes y mae cymylau duon a thewion rhyngddo â Duw. Ond y mae yr Arglwydd yn dirion yn galw ar ol Israel. Mae car- edigrwydd mawr yn hyn. Yn lle talu iddynt yn ol eu haeddiant, dyma efe yn anfon cenadwri i'w gwahodd ato yn ol o'u holl waeleddau a'u gwrthgiliadau. Buasai yn beth mawr i'r Arglwydd dderbyn dyn euog mewn canlyniad iddo ddychwel ato yn ostyngedig a begian ei bardwn. Ond y mae pechadur yn rhy falch i wneyd hyny. Y mae hyn yn chwithig iawn. Pe buasai rhywun yma wedi insultio gŵr boneddig mawr, a hwnw, yn ei beryglu yn ddirfawr, mae yn bur debyg y buasai y dyn yn anfon rhywun at y gŵr mawr i erfyn ei ffafr. Ond nid felly y gwna pechadur yn erbyn Duw. Eithr os na feddylia pechadur- iaid am ddychwelyd eu hunain, fe enfyn Duw genadwri atynt i'w gwahodd. Felly yn nechre y bennod hon: " Ym- chwel,Israel, at yr Arglwydd dy Dduw;" mae yn llwyr anghenrheidiol i ti wneyd ^7ny» yn wir; "canys ti a syrth- iaist trwy dy anwiredd." Ac y mae yr Cyfres Newydd. Arglwydd yn rhoddi cyfarwyddyd idd- ynt pa fodd i droi ato ; mae yn rhoddi geiriau yn eu genau : " Cymerwch eiriau gydâ chwi, a dychwelwch at yr Ar- gíwydd : dywedwch wrtho, Maddeu yr holl auwiredd." O ryfedd ras ! Ni wn i ddim pa fodd y buasech chwi; ond yr wyf yn meddwl na buaswn i byth yn troi at Dduw gan ofyn iddo faddeu yr holl anwiredd, oni buasai iddo ef ei hun fy annog i hyny yn gyntaf. Pe gallaswn dalu yr hanner, hwyrach y gallaswn anturio gofyn i Dduw am iddo faddeu yr hanner arall. Ond, heb ddim i dalu, ni buasai genyf wyneb i ddyfod ymlaen. Ond, fel yr ydym, dyma Dduw yn ein cyfarfod, ac yn ein dysgu i ofyn iddo, " Maddeu yr holl anwiredd." Yn wir, nid â caredigrwydd Duw heibio heb adael rhyw effaith arnom. Os na thy- wysa i edifeirwch yn nydd gras, bydd yn poethi y gydwybod â'r euogrwydd mwyaf poenus yn uffern byth. " Derbyn ni yn ddaionus." Dyna beth arall sydd i ni ei ofyn. Nid fel y mae llawer o ddynion yn maddeu y mae Duw yn maddeu. Gofynwch i lawer dyn," A wyt ti ddim wedi maddeu i hwn a hwn ?" ac fe ddywed, "0 ydwyf; yr wyf wedi maddeu iddo." " Wel, onid oeddech chwi yn ffryndiau mawr er ys llawer dydd ?" " Oeddem, ond fe gês fy siomi mor fawr ynddo, fel, er fy mod wedi maddeu iddo, ac na fynwn wneyd dim drwg iddo, nas gallaf er hyny ei fynwesu a gwneyd cyfeillach gynhes âg h h