Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. LXX.] HYDIIEF, 1852. [LlYFR VI. SpgntM. Y PARCHEDIG ROBERT DAYIES, SIR DREFALDWYN. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fen- digedig." Y mae coffadwriaeth y rhai cyfìawn yn cael lle arbenig yn yr Ys- grythyran Sanctaidd. Y mae crefydd yn ei natur a'i heffeithiau yn cael ei gosod allan yn muchdraeth ei meddian- wyr. Yma y gellir ei gweled yn byw ac yn gweithredu. Y mae eu histori yn dangos gwaith gras yn adferu ac yn llunio dyn syrthiedig i fynegu moliant Duw ; ac y mae hanes gweithrediadau eu crefydd yn brawfreol i ni i brofi ein crefydd wrthi. Gan hyny y mae hanes by wyd saint yr Ysgrythyrau yn fantais nodedig i bob ymgeisydd am fywyd tragywyddol trwy oesau y byd. Y mae eu colliadau wedi eu nodi er rhy- budd i'r oesau dyfodol, a'u hedifeirwch a'u hadferiad wedi eu nodi er dangos daioni Duw, ynghyd a gweithrediadau deddf y meddwl. Y mae llafur eu car- iad wedi ei roi i lawr yn ofalus er bod yn esiampl i'w ddilyn. Yr oedd ys- grifenwyr yr Ysgrythyrau yn nodi pob dygwyddiad tan arweiniad anffaeledig yr Ysbryd Glân; ac felly y mae yn ddiau eu bod wedi nodi colliadau ag y buasai yn gweddu i bawb arall eu puddio ; ac eto y mae yn sicr i lawer o wendidau a gwaeleddau gael eu cuddio gan y rhai oedd yn ysgrifenu tan ar- weiniad ' yr Ysbryd. Ni chafodd yr ysgrifenwyr ysbrydoledig ond UN i ysgrifenu ei hanes heb ddim allan o'i le ynddo ; eto y mae yn y Bibl hanes amry w 'heb ddim drwg yn cael ei ad- rodd am danynt. Eithriad yn mywyd y credadyn yw syrthio i bechod ; y mae ei fywyd cyffredin wrth fodd Duw ; ac nid eithriadau sydd yn cyf- ansoddi nodweddiad tìyn, ond ei fywyd Cyfres Newydd cyffredin. Nid wyf finnau yn proffesu fod gwrthddrych y Cofiant canlynol yn lân heb fai ynddo ; ond eto yr wyf yn dywedjd yn hyf fod ei rodiad cyffred- in yn ol y deddfau a'r barnedigaethau yn ddiargyhoedd, a bod ei rinweddau a'i ddaioni yn gorbwyso pob gwendid a bai, a bod ei wendidau yn fwy o ofid iddo ef ei hun nag i neb arall. Yr oedd tystiolaeth yn mynwes pawb o'i gydnabod mai Israeliad yn wir ydoedd, a'i fod yn ŵr Duw. Ychydig yw y wybodaeth am ei rieni, nac am fore ei oes. Ganwyd Robert Davies mewn lle o'r enw Ty'n- yr-wtra, yn mhlwyf Cemmaes, Sir Dre- faldwyn. Nid oeäd ei rieni ond tlod- ion, ac nid oedd a fynent â chrefydd. Bu farw ei dad pan yr oedd ein cyfaill yn fiwydd oed, ac nid yw yn ymddan- gos iddo gael dim manteision mewn dysgeidiaeth na chrefydd oddiwrth ei fam ychwaith ; ac yr oedd hyn yn golled fawr iddo. Y mae yr hyn a ellir ei wybod am ei ddyddiau boreuaf wedi ei ysgrifenu gan gyfaill o'i enau ef ei hun ychydig o wythnosau cyn ei farw- olaeth:— "Dygwyd fi i fynu (meddai) yn fy nydd- iau boreuaf dan weinidogaeth y brodyr yr Annibynwyr, a chanddynt hwy y cefais hyny o ysgol ag a gefais. Dysgais Gatecism o'r eiddynt hwy, canys nid oedd yr enwad parchus hwn o Gristionogion y pryd hwnw yn gwrthod Catecismau. Yr wyf yn teim- lo yn rhwymedig hyd heddyw i'r rhai a'm hannogodd i ddysgu y Catecism. Yr oedd y pryd yr oeddwn ieuanc ddosbarth o bregethwyr cryfion yn perthyn i'r enwad hwn; ac y mae genyf barch neillduol i'w coffadwriaeth, sef Dr. Lewis, a Jones,- Pwllheh, yn y Gogledd, ac eraill yn y De- E e