Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. LXIIL] MAWRTH, 1852. [Llyfr VI. ẅrtjrnta n #ntiPtot!jíHL TRUGAREDD DUW. Peegeth a draddodwtd oddlie Salm xltiil 9. " Meddyliasoni, 0 Dduw, am dy dmgaredd yn nghanol dy deml." Mae yn anhawdd pendei-fynu yn hollol ar ba achlysur y cyfansoddwyd y Salm hon. Barna rhai iddi gael ei chanu ar yr achlysur o agoryd yr ail deml;— ac ereill mai yn amser y deml gyntaf y cyîansoddwyd hi, gyda chyfeiriad at ryw amgylchiad penodoL pan y gwar- edwyd Jerusalem oddiwrth ymosodiad- au gelynion Israel. A ni a gawn hanes fod hyny wedi cymeryd lle, ar rai ach- lysuron, mewn modd tra nodedig, megys yr amser yr aeth Resin brenin Syria, a Phecah brenin Israel i gynghrair â'u gilydd, ac yr aethant i fynu tua Jerusa- lem i ryfela arni, yn nyddiau Ahaz, ond ni allasant ei gorchfygu ; neu fel y mae'r ymadrodd yn arwyddo, ni allasant ym- laddyn ei herbyn, Mae ereill yn barnu fod cyfeiriad yn y Salm at yr amser yr aeth meibion Ammon, a meibion Moab, ac ereill, i fynu i ryfela yn erbyn y brenin duwioi Jehosaphat, fel y cawn hanes yn 2 Cron. xx ; a phan y gwared- odd yr Arglwydd y ddinas a'r genedl trwy wyrth ryfeddol, ac y dyryswyd ac y dyfethwyd y breninoedd oedd wedi nryned i gynghrair â'u gilydd. Pan glybu Jehosaphat fod tyrfa fawr wedi ymgynull i'w erbyn, efe a ofnodd, ac a gyhoeddodd ympryd, ac a gasglodd y bobl i gyntedd tŷ yr Arglwydd i ofyn cymhorth yr Arglwydd. Ac wedi i Jehosaphat weddi'o, disgynodd yr Ys- bryd ar un o'r Lefiaid y'nghanol y gy- tiuìleidfa,a dywedodd yr Arglwydd wrth ŷ bobl trwy hwnw am fyned allan dra- Ctfhes Newydd. noeth i gyfarfod â'r gelynion ; ond nid oeddynt i ryfela dim, eithr i sefyll yn llonydd, ac edrych ar yr ymwared a roddai'r Arglwydd iddjmt. Ac felly y bu; ac erbyn i Jehosaphat a'r bobl fyned allan yn y boreu hyd at Mispah yn yr anialwch, hwy a gawsant eu gel- ynion yn gelaneddau meirwon ar wyneb y ddaear. Yr oedd yr Arglwydd wedi gosod cynllwynwyr yn eu herbyn, a hwythau wedi troi i ddyfetha pawb eu gilydd ; ac felìy yn lle rhyfela â'u gel- ynion, cafodd Juda ddigon o waith am dridiau i ysglyfaethu yr yspail. Os hyn oedd yr amgylchiad ar ba un y cyfan- soddwyd y Salm, yr oedd yn briodol iawn glodfori'r Arglwydd fel hyn am ei nawdd a'i swccwr i S'ion ei ddinas sanct- aidd. Ond beth bynag oedd yr am- gylchiad neillduol y cjŵirir ato, mae'n hawdd deall fod gelynion S'ion wedi gwneyd ymosodiad cryf iawn yn ei her- byn, a bod dinystr disymwth a llwyr wedi eu gorddiwes. Ac fel hyn y mae hi wedi bod, ac yn sicr o fod eto, gyda holl elynion eglwys Dduw, canys ni lwydda un offeryn a lunier i'w herbyn hi;—ie, " pyrth uffern nis gorchfygant hi." A bu y waredigaeth y cyfeirir ati yn foddion i gryfâu ffydd yr eglwys yn ei Duw, 'Meg}rs y clywsom,' &c. A dyma fel y mae yn briodol i eglwys Dduw ddyweyd yn mhob oes. Y mae pob cenedlaeth o'r saint wedi cael prawf o ffyddlondeb digyfnewid eu Duw, yr hwn sydd wedi addaw siciâu Sion yn