Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. LXIL] CHWEFROR, 1852. [Llypr VI. îépgraM, Y PARCH. RICHARD JONE3, GARN, SIR GAERNARFON. Hir ddysgwyliwyd am gofìant cryno a theilwng am y brawd ffyddlawn, Kich- ard Jones, o'r Garn, a phenodwyd ar gyfaill galluog i ymgymeryd â'r gorch- wyl ; ond gan na chafodd hyny ei gwbl- hâu, erfynir hynawsedd y darllenydd yn ngwyneb anmherfFeithiau y cofiant presennol, yr hwn a gyfansoddwyd yn frysiog gan un a dderbyniodd lawer o lês oddiwrth gynghorion difrifol a gaf- odd yn fynych gan wrthrych y cofiant pan yr ydocdd yn nhir y rhai byw. Ganwyd Richard Jones yn mis Awst, 1799, mewn lle o'r enw Hôn-s/top, yn mhlwyf Dolbenmaen, Sir Gaernarfon. Ei rieni ydoedd Richard a Janet Jones, y rhai oeddynt yn dal tyddyn bychan o dir, ac iddynt air da am hynawsedd a gonestrwydd, ac yn aelodau dichlynaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu iddynt ddeg o blant. Un o honynt yw y Parch. Moses Jones, Dinas, yr hwn sydd frawd anwyl, a gweinidog tra adna- byddus yn mysg y Methodistiaid Cym- reig trwy Gymru a Lloegr. Gwrth- ddrych y cofiant hwn ydoedd y nawfed plentyn. Yr oedd rhywbeth yn hynod yn Rich- ard er yn blentyn o ran dwysder ei feddwl. Yr oedd symlrwydd yr henaf- gwr i'w ganfod ynddo pan yn fachgen. Er na ddygwyd ef i íjtiu o'i fabandod yn yr eglwys, canys y fraint hon ni chaniateid i hüd credinwyr yn ein cyf- undeb yn dyddiau hyny, eto ni byddai i'w gael ymhlith cyfoedion llygredig, nac yn dilyn campau anweddus ac an- nuwiol. Wedi bod dan ofal crefyddol ei dad a'i fam nes y cyrhaeddodd ei Cyfues Newjtdd. unfed flwyddyn ar ddeg, bu yn gwasan- aethu gyda thyddynwyr yn y gymydog- aeth nes bod ýn bedair ar ddeg oed, a'r pryd hyny prentisiwyd ef dros ddwy tìynedd gydag un Mr. W. Roberts, crydd, Garn. Yn yr ystod hwn, yr oedd yn wrandawr cyson ar yr efengyl, a'i ym- arweddiad yn fucheddol, a chíod iddo gan bawb o'i gydnabod. Ar ol dyfod yn rhydd o'r ymrwyniiad uchod, arosodd gyda yr un meistr am ddwy eraill o tìwyddi. Ar derfyn yr amser hwnw, pan bellach yn llawn deunaw mlwydd oed, symudodd ef, gyda dau o'i gyd- weithwyr, i dref Manchester. Caí'odd yno le gyda Chymro, mewn màn ar y dref hynod fanteisiol i wrandaw yr ef- engyl yn Gymraeg. Yn ol iddo fod yno yn wrandawr dyfal ac ystyriol am yn agos i ddwy fLynedd, yrnunodd ág eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Manchester ; a chafodd yr eglwys bob boddlonrwydd ynddo oherwydd add- fedrwydd ei brotìad cristionogol. Yr oedd y pryd yma yn ymioi i lafur- io mewn gwybodaeth a deall yn gyffred- inol, ac yn enwedig yn egwyddorion duwinyddiaeth. Yr oedd yr eglwys yn llygadu arno, a'r bobl graftaf ynddi yn gweled ynddo gymhwysder at waith mawr y weinidogaeth. Yr oedd yn gyd- nabyddus iawn yn mhethau y Bibl, yn feddiannol ar gof da, ei brofiad ysbrydol yn ddwfn, ac yn barod beunydd i ym- ddyddan am faterion crefyddol. Yr oedd ganddo feddwl cadai-n a sefydlog ; cyfarfyddai âg anffyddwyr a gelynion crefydd gyda y fath hyfdra a doethineb, fel nad oedd dichon ei wrthddywedyd.