Skip to main content

Y DEYSOEFA. RniF. LXL] IONAWR, 1852. [Llyfr VI. ẅrtjioìiflii a <ÉTn|iítetfJríra. BEDYDDIO DROS Y MEIRW. CRYNODEB 0 BREGETH A DRADDODWYD AR 1 CORINTHIAID XV. 29. " 0.< anigen, beth a wna y rhai a fedyddir dros y rneu-w, os y rneirw ni chyfodir ddim? pahani ynto y bedyddir hwy'dros y meirw í" Mab yr efengyl, er pan y dechreuwyd ei thraethu trwy yr Arglwydd, wedi cyfarfod âg ymosodiadau íliosog ac am- rywiol, ac wedi parhâu a llwyddo er eu gwaethaf. Yn aruserau boreuol Crist- ionogaeth, gwrthwynebid hi yn ffyrnig gan gyfeiliornadau proffeswyr gau, yn gystal â chan erlidiau ci gelynion cy- hoeddua. Ac y mae yn fanteisiol i ni fod yr Arglwydd Iôr wedi goddef i gy- nifer o heresiau ymddangos ar y pryd yr oedd llyfr ysbrydoliaeth eto heb ei gau i fynu, 'oherwydd trwy hyny estyn- wyd i'r oesau dyfodol arfogaeth anffael- edig i'w gorchfygu. Mae ysgrifeniadau yr apostol Paul yn dangos fod gwrth- ddadleuwyr haerllug wedi dyfod allan y pryd hyny yn erbyn athrawiaethau pen- af yr efengyl. Felly ni a welwn yn y bennod hon fod yr erthygl fawr hono niewn Cristionogaeth—adgyfodiad y meirw—yn cael ei hanghrcdu a'i gwrth- wynebu. _ Ymddengys fod rhai yn eg- lwys Corinth wedi myned mor bell ag i wadu yr adgyfodiad yn ddigywilydd. "Pa fodd y dywed rhai yn ei'ch plith chwi nad oes adgyfodiad y meirw '?" Ac amcan yr apostol yn ysgrifenu y ben- nod ryfeddol hon, ydoedd ymlid ymaith y fath gyfeilioraad dinystriol o'r eglwys hono, a thrwy hyny gadarnhâu medd- yliau cristîonogion ymhob oes yn ngWir- ionedd athrawiaeth yr adgyfodiad. Ac fe welir ei fod yn cyflawni ei amcan yn y modd mwyaf medrus ac anorchfygol. Cyfres Newydd. .* Mae efe ymlaenaf yn proíì yn ddiam- mheuol adgyfodiad Crist oädiwrth y meirw, ac oddiar hyny yn sicrhau ad- gyfodiad holl eiddo Crist. Fe ragddy- wedodd Crist yn ei fywyd am ei adgyf- odiad ; ac fe g}rfododd fel y dywedodd. Wele, dywedocíd efe hefyd am bob gwir ddysgybl iddo, " Mi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf;" a chan itìdo ddywed- yd, mae yn rhaid y cymer hyny le, cany.i dangosodd, jti ei adgyfodiad eihun, fod ei awdurdod yn hollalluog, a'i athraw- iaeth yn wirionedd di fêth. Ac yn ei adgyfodiad, gwnaed ef "yn flaenflrwyth y rhai a hunasant;" ac y mae yn hysbys fod y blaenffrwyth wedi ei gynmül, ei offrymu i Dduw, a'i dderbyn ganddo, yn wystl sicr y ceid yr holl gynauaf i mewn, Addef fod Crist wedi adgyfodi, a gwadu adgyfodiad i'r meirw yn Nghrist, sydel wrthddywediad. Os ydych yn gwadu y naill, medd Paul, byddai cystal i chwi ar unwaith wadu y llall hefyd. " Os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith." Yn adnod y testun, a'r aduodaii di- lynol, mae yr apostol yn ymresymu dro.s bwysigrwydd athrawiaeth yr adgyfod- iad, gan ddangos y gwrthuni a'r niwed o'i gwadu, oddiwrth ei dylanwad ar'y1 broftes gristionogol, fel y mae yn rhoddí cymhelliad a chalondid i bob aberth ac ymroddiad dros enw yr Arglwydd- Iesu. "Os amgen, beth a wna y rhai a fedỳddir dros y meirw ? Os y meirw ni chyfodir