Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. clxviii.] RHAGFYR, 1844. [Llyfr XIV. CYNGHOR, (Charge)* A draddodwyd gan John Pahry, Caerlleon, i ddau bregeihwr ieuainc, wrth eu hordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth, yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 14, 1843, yn y Cyfarýod dydd Mercher, am 11 o'r gloch. Mae yn debygol mai am fy mod yn tynu yn hen, ac mewn gwth o oedran, y galwodd fy mrodyr arnaf at y gorchwyl pwysfawr hwn, o roddi Cynghor i'r ddau frawd hyn ar eu neillduad i gyflawn waith y weinidog- aeth. Fodd bynag, wedi i mi ddeall eu penderfyniad i mi wneuthur hyny, rhedodd fy meddyliau ar eiriau a welir yn y 4ydd bennod o epistol Paul at y Colossiaid, a'r ail adnod ar bymtheg, ' A dywedwch wrth Ar- chippus, edrych at y weinidogaeth a dder- byniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyf- lawni hL* Yn y lle cyntaf, gallem ymholi pwy a allai yr Archippus hwn fod ? Ac yn ail, sylwn ar gynnwysiady Cyngor (charge) ag y mae yr Apostol Paul yn ei roddi iddo. 1. Pwy oedd yr Archippus hwn ? Dywed rhai mai Esgob Colossa ydoedd efe. Hyny nis gwn i; ond mi a feddyliwn os Esgob oedd, nad oedd efe yn Lord Bishop; oblegid, pe buasai felly, mi dybygwn y buasai yr apostol Paul yn ysgrifenu ato ef, ac yn gofyn iddo roddi Cynghor (charye) i'r eglwys, yn Ile gorchymyn i'r eglwys i ' ddywedyd wrtho ef.' Dwywaith y mae crybwylliad am y gwr hwn yn yr Ysgrythyrau; sef yma, ac yn Epistol Panl at Philemon, adn. 2., 'ac at Apphia ein hanwylyd, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di.' Mi feddyliwn wrth y coffa a wneir yno am dauo, mai mab i Philemon oedd efe, neu o leiaf, rhyw berthynas agos iddo, ag oedd yn byw yn ei deulu ef, yr hwn deulu oedd mor reolaidd a duwiol, fel y mae Paul yn ei alw, 1 jr eglwys sydd yn dy dŷ di.' Yr oedd Ar- * Yr ydys yn cymeryd yr hyfdra o ddodi y pyngor a'draddodwyd, ar gais y brodyr, yn %hymdeithasfa y Bala, i mewn yn y Drys- wfa hon. Wrth ei draddodi, gorfuwyd jalfyru, mewn rhai pethau, o herwydd byr- dra amser, ond yr ydys yn ei roddi yuaa íel y bwriadwyd ei draddodi ar y cyntaf. chippus yn aelod o'r teulu hwnw, ac yn aelod o'r eglwys oedd yn Colossa. Ond hyn sydd amlwg, sef mai gweinidog yr efengyl oedd efe, canys geilw yr apostoí ef yn ' gyd-filwr,' a'i fod ef wedi * deroyn y weinidogaeth yn yr Arglwydd.' Meddylia rhai mai hen weinidog oedd ; ond llawer mwy tebygol yw mai gweinidog ieuanc oedd, a'i fod newydd ei osod yn y weinidogaeth, a'i fod wedi arwyddo rhyw radd o ofnau, llwfrdra, neu esgeulusdra gyda'r weinidog- aeth ag oedd efe newydd dderbyn ; a bod yr apostol yn dymuno ar yr eglwys yn f" »ssa ei annog i fod yn ddiesgeulus a onog yn y gwaith pwysig ag yr oedd. wedi ymaflyd ynddo, gan ddywedyd, ' dywedwch wrth Archippus, edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Ar- glwydd, ar i ti ei chyflawni hi.' Yn ail, ystyriwn gynwysiad y Cynghor ag y mae Paul yn ei roddi i'r gweinidog ieuanc hwn, gyda bwriad at ei gymhwyso at fy mrodyr, y rhai sydd ger ein bron, newydd eu galw yn gyflawn i waith y weinidogaeth. ' Edrychwch at y weinidog- aeth a dderbyniasoch yn yr Arglwydd, ar i chwi ei chyflawni hi.' Edrychwch, frodyr, ar i chwi ei chyflawni hi yn yr holl ddyled- swyddau perthynol i'rawydd bwysfawr hon. A hyny, 1. Gyda diwydrwydd. Dywedir am Apolos yn Act. 18. 24. ' Hwn wedi dechreu dysgu iddo ffordd yr Arglwydd ; ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaeth- odd yn ddiwyd y pethau a berthynant i'r Arglwydd.' Mae Paul yn gorchymyn i Timotheus, gan ddywedyd, «pregetha y gair, bydd daer, mewn amser, allan o am- ser,' 2 Tim. 4. 2. 2. Gyda ffyddlondeb. ' Felly,' medd yr apostol,' cyfrifed dyn nyni, megys gweinid- ogion i Grist. a goruchwylwyr ar ddirgeled- igaethau Duw. Am ben hyn, yr ydys yn dvsgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffỳddlon,* 1 Cor. 4. 1,2. A Christ a ddy- w"ed wrth angel eglwys Smyrna,'Bydd flydd- lon hyd angeu, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd,' Dat. 2.10. O, am allu o honynt