Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. clxii.] MEHEFIN, 1844. [Llyfr XIV. GYNGHOR I BREGETHWYR. Yr hwn a draddodwyd mewn Cymanfa yn Remsen, Talaeth Caerefrog Newydd, America, gan y Parch. W. Rowlands, ar'neillduad daufrawd i gyflawn waith y | 1. Mae y swydd yn un oruchel a phtoysig. ! Nid rhyw gennad cyffredin a olygir yn y I gair gwreiddiol a gyfieithir yma cennad, sef presbeno: arwydda hynafiaeth ac anrhyd- edd; mae y cyfieithiad Saesonaeg yn dangos y meddwl yn well—ambassador, sef cennad dros deyrnas neu wladwriaeth. Un o'r swyddi uchelaf a phwysiccaf y'mhlith dyn- ion ydyw, yr hon ni ymddiriedir ond i'r rhai ffyddlonaf a chymhwysaf gan lyw- iawdwyr daearol. Ond mae'r anrhydedd yn fwy—y pwys yn fwy, a'r perygl o gam- ymddwyn yn fwy, wrth fod yn gennad dros Gríst, cygymaint ag yw Achos Duw yn fwy nag achosion dynion—yr enaid yn werth- fawroccach na'r corph, a sefyllfa dragy- wyddol dynion yn bwysiccach na'u sefyllfa amserol. Ystyriwch, fy mrodyr, bod y pregethwr yn gennad—nid oddiwrth y naill ddyn at y llall, ond oddiwrth Dduw at ddynion ; nid o'r naill ran o'r ddaear i ran arall, ond o'r nefoedd i'r ddaear; o barthed —nid amrafaelion sydd rhwng creaduriaid a'u gilydd, ond yr amrafael sydd rhwng y Creawdwr a'i greaduriaid ; yn dwyn perth- ynas nid â dyn yn ei letty dros funudyn, ond â dyn yn ei arosfa dragywyddol! 2. Mae anfoniad yn angenrheidiol tuag at fodyn gennadawdurdodedig. Anfoniad sydd yn gwneyd dyn yn gennad. Geill fod yn feddiannol ar gymhwysderau mawrion heb ei anfon, ond nìs geill fod yn gennad heb anfoniad. Felly yma, aufoniad sydd yn gwneyd y naill ddyn duwiol yn hytrach na'r llall yn gennad. Yr Anfonwr yw yr hwn dros ba un y maent yn gweinyddu y swydd, sef yr Arglwydd Iesu Grist. Efe a osodwyd yn ben uwchlaw pob peth i'r Eglwys; a chanddo bob cyflawnder ar gyfer anghènion ei Eglwys, « efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon ; i berffeithio y saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corph Crist.' Ephes, iv. 11, 12, a 1 Tim. i. 12. Eto, trwy ei Ysbryd y mae yn anfon ac yn cymhwyso y rhai a anfonir, o herwydd hyny y dywedai wrth ei ddysgyblion, mewn cyfeiriad at yr Ysbryd Glán, ' Atolygwch i Arglwydd y Anwyl Frodyr.—Nid oddiar dybiaeth fy mod yn deall yn well, llawer llai ymarferu yn well, ddyledswyddau pwysig y Weinid- ogaeth fawr, yr wyf yn ymgynnyg ar y gorchwyl o'ch cynghori chwi ; nage, yn wir, yr wyf yn ddwys-ystyriol o'm gwaeledd a'm ffaeleddau, a bod arnaf eisiau fy nghy- nghori genych chwi; eithr ar gais yr Eglwys yn unig, gyda graddau o arswyd a phryder- wch meddwl, yr wyf yn gosod o'ch blaen ychydig o nodiadau cyssylltiedig â'r Swydd oruchel, er hyny ofnadwy, y galwyd chwi i gymeryd rhau ynddi heddyw, Gallwyf dystio hyny, mai nid pethau a fenthyciais at yr achlysur ydynt yr hyn a gynnygiaf i chwi, ond pethau gan mwyaf oll, sydd wedi bod yn destynau dwysion fy myfyrdodau, o bryd i bryd, yn awr er ys mwy na phymtheg mlynedd. Sylfaenaf y Cynghor ar 2 Cor. v. 20.—' Yr ydyin ni yn genhadau dros Grist.' Dangosir yma mewn ychydig eiriau pa beth yw swydd Gweinidog yr Efengyl. Gwelir— I. Natür y swydd :—' Yr ydym ni yn genhadau. II. Dros bwy y maent yn gweinyddu y swydd :—' Yr vdvm ni yn genhadau dros GrisL' I. Natür y swydd : ' Yr ydym ni yn genhadau.' Os gofynir pa beth ydynt gweinidogion yr Efengyl ? Ceir yma yr atebiad : ' Yr ydym ni yn genhadau.' Cen- nad oedd Paul, a chenhadau oeddent ei frodyr yn y weinidogaeth; a chenhadau ydynt holl weinidogion yr Efengyl, yn mhob oes ac yn mhob gwlad. Nid oes yr un yn eu plith hwynt oll yn feistr, nac yn arglwydd—nid oes yr un uwchlaw bod yn j gennad, ac nid oes yr un islaw bod yn gen- nad, yn yr holl fintai amryddawn. An- rhydeddir chwithau, fy mrodyr, heddyw, a lle yn y rhês ardderchog hon. Cofiwch eich swydd ! Cenhadad. Dengys yr enwad hwn— bod y swydd yn oruchel a phwysig—bod anfoniad iddi yn angenrheidiol—bod cen- nadwri yn ofynol- a bod yn rbaid traddodi y gennadwri yn ffyddlon.