Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 506.] RHAGFYR, 1872. [Llypb XLII. GWASANAETH FFYDD MEWN GWEDDI. GAN Y PARCH. GEORGE WILLIAMS, TYDJDEWI. Y fath bwys sydcl yn cael ei roclcli ar i ftÿdd yn y JBibl, a'r fath le mawr sydd : yn cael ei roddi icldi yn nhrefn iach- j awdwriaeth! Hon sydd yn gwneyd y j cwbl, braidd. Ac nid yn unig y mae ! yn gwìieyd llawer, ond y mae hi mor i owysig a hanfodol fel y ciy wedir mai hi j ydyw llawer—hi " yn wir yw sail y ! pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicr- ! wydd y pethau nid ydys yn eu gweled." j Pethau heb sail na sicrwydd—heb han- J fod na bodolaeth icldynt, a fycìdai pob j peth i ni, ond yn unig yr ychydig ! bethau—ychydig mewn cymhariaeth— I yr ydym yn eu gweled. Y mae | " ehangder " mewn ffydd ; nid oes ond j culni mewn anghrediniaeth. Trwyddi hi yr ydym yn derbyn Crist ; " Crêd ......a chadwedig fyddi." Trwyddi hi y mae "cyfiawnhâu," a "phuro y galon," a "byw," a "rhodio," a "gorchfygu y byd," a " diffoddi holl bicellau tânllyd y fall," a "marw" yn y diwedd. "Heb ftydd, anmhosibl yw rhyngu bodd" Duw mewn dim. Ffydd ydyw yr oll mewn gweddi, ac yn ein dyfodiad at Dduw mewn addol- iad. " Rhaicl i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ; a'i focl yn Wobr- wywr i'r rhai sydd yn ei geisio." Hyn ydyw dyfod at Dduw—dyfod i ymwyb- odolrwydd o'i bresennoldeb. Daeth llawer un i deimlo hyn, pan na ddys- gwyliodd am y fath beth; daeth y meddwl i wybod a phrofi ei fod yn ymyl Duw, a cher bron ei wyddfod, a bod y Presennoldeb Dwyfol yn llenwi y lle. Pan brofir hyn, ni a ddywedwn fel Jacob pan yn deffro o'i gwsg, "Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i. Mor ofnadwy yw y lle hwn ! nid oes yma ond tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd." (Gen. xxviii. 16, 17.) Hon yw yr unig ddyfodfa at Dcluw sydd yn bosibl i ni—dyfod ato drwy ddyfocl i "gredu ei fod." Nid dyfod yn nês ato, canys ynddo yr ydym eisoes, "yn byw, symud, a bod"—nid yw efe yn "nepbell," eithr yn llenwi pob man â'i bresennoldeb. Eto, i'r di-ffydd, nid ydyw efe yn bod, canys, " Nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef." Hwn yw y pellder y mae ftydd yn ei ddilëu. Y mae y dyn yn dyfod at Dduw drwy ddyfod i gredu ei fod, ac i deimlo a chyfaddef fel Jacob : Y mae Duw yma, loned pob man ; ac mor ynfyd oeddwn na buaswn wedi gwybod hyny o'rblaen! Sonir weithiau am "bresen- noldeb grasol" ýr Arglwydd yn ei dŷ, neu gyda ei bobl mewn dirgel fanau. Pa beth bynag sydd yn gynnwysedig yn y Presennoldeb hwnw, di'au mai dyna ydyw rhan fawr o hóno, bod_ yr _ Ar- glwydd yn galluogi ei bobl i deimlo ei fod ef a hwythau wedi cyfarfod â'u gilydd ; ei fod ef yno mor wirioneddol â hwythau. Ystyriai yr Arglwydd lesu ei bresennoldeb ef gyda ei bobl fel yn cynnwys pob peth arall, ac nad oedd eisieu addaw mwy : " Yno yr wyf fi yn eu canol." Nid oedd eisieu sôn am fendithio; os medrent hwy drwy ffydd sylweddoli yr addewid, ac ym- deimlo i sicrwydd fod eu Harglwydd gyda hwy, gwnai hyny lenwi eu llestri hyd yr ymylon, fel na byddai yno le i ragor o fendith. Y mae arnom eisieu ffydd gyda'n gweddíau, nid yn unig wrth eu cyf- 2 L