Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. 505.] 'TACHWEDD, 1872. [Llypr XLII. RHWYMEDIGAETH CRISTIONOGION FEL Y CYFRYW I WEITHGARWCH G7DAG ACHOS CREFYDD. ANEECHIAD Y PARCH. THOMAS CHARLES EDWARDS, M. A., YN NGHYMANFA GYFFREDINOL ABERDAR. (Parhâd o tu dalen 378> Amcan ein sylwadau blaenorol oedd ceisio dangos focl prif neillduolrwydd gweithgarwch cristionogol yn gorwedd yn yr undeb dirgeledig sydd rhwng y credadyn â'r Arglwydd Iesu Grist. Dyma sylwedd a bywyd pob gwir waith gydag achos crefydd. Ond y mae y testun sydd genym dan sylw yn sôn am gydweithrediad y credinwyr. Y mae hyn yn ein harwain i sylwi fod yr ail brif neillduolrwydd mewn gweithgar- wch cristionogol yn codi o'r berthynas sydd rhwng gwaith pob cristion â gwaith eglwys Crist ar y ddaear. Os ei undeb â Christ yw bywyd ei weithgarwch, ei undeb â'r eglwys sydd yn gosod fl'urf ar y bywyd hwnw. Yr eglwys sydd megys yn tòri gwely i'r afon. Yr eglwys yw y gorsen yn yr hon y cedwir y íflam, os mỳn neb ddwyn tân y nefoedd i lawr i'r ddaear. Os goddefir i mi fenthyca ymadroddion nad ydynt yn hollol ddyeithr yn Nghyniru, y mae y nerth ysbrydol sydd yn gweithio yn y credadyn yn ddiderfyn ; ac y mae yn anghenrheidiol, tuag at ei wneyd yn ddefnyddiol, osod cwmpawd arno, a thỳnu terfyn yn y diderfyn hwn. Y mae anfeidroldeb yn y cyflawnder o ras sydd yn tarddu o Beraon Crist. Yr undeb rhwng y credadyn â'r eglwys sydd yn ei osod dan reol, yn penderfynu ei gyfeiriad, ac yn sicrhâu y cyrhaeddir yr amcan goruchel a esyd y credadyn yn nôd i'w fywyd. Y mae pwys yn hyn ; oblegid y mae gweithgarwch cristionogol yn darfod yn ebrwydd os collir golwg ar y syniad o eglwys er mwyn dyrchalu crefydd bersonol; ar y llaw arall, y mae gwreithgarwch cristionogol yn marw ac yn rhoi lle i weithgarwch bydol ac anianol, os anghofir y syniad o grefydd bersonol y credadyn er mwyn dyrchafu yr eglwys. EdrycliAvch, ar y naill law, ar y Pabyddion, ac eraill, y rhai a wnânt yr eglwys yn bob peth, a'r cristion yn ddim. Beth y\v y canlyniadì Bod gweitbgarweh cref- yddol yn dirywio i fod yn weithgarv ch gwladol a chymdeithasol. Etfaith i n- iongyrchol yr athrawiaeth hon yd%\ w dilëu pob neillduolrwydd a berthyna i weithgarwch cristionogol. Y mae yr ysbrydol yn ymgolli yn yr anianol; y mae yr amcan o achub a sancteiddio dynion yn rhoi lle i'r amcan o sefydlu cyfundrefn o wleidyddiaeth eglwysig. Fel y mae cysylltiad athrawiaethoi rhwng Morganiaeth a Phabyddiaeth, felly hefyd y mae cysylltiad mewn ymarferiad rhwng Pabyddiaeth a Chymedrolaeth (Moderatism), neu ddifaterwch ynghylch pethau y byd tragywyddol. Hyny ydyw, fel y mao 2 H