Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 504.] HYDREF, 1872. [LLYFR^Uiír P RHWYMEDIGAETH CRISTIONOGION FEL Y CYFRYW I WEITHGARWCH GYDAG ACHOS CREFYDD. ANER0HIAD Y PARCH. THOMAS CHARLES EDWARDS, M.A., TN NGHYMANFA GYFFREDINOL ABERDAR. Y mae rhwymedigaetli pob dyn i roddi y cwbl o'i frŷd ar lafurio, a gwneuthur y defnydd goreu o'i amser, yn un o ymad- roddion ystrydebol pob esgynlawr. Y dull cyffredin o drafod y pwnc mewn colegau a chyfarfodydd llênyddol ydy w dangos fod llwyddiant dyfodol gŵr ieu- anc yn ymddibynu ar ei ddiwydrwydd ei hun, a bod llafur yn sicr o dalu yn dda yn gynt neu yn hwyrach. Neill- duolrwydd y testun sydd yn dyfod dan ein sylw heddyw ydyw, rhwymedigaeth cristionogion fel y cyfryw, yr hyn sydd yn cynnwys fod creîydd yn gosod rhwymau newyddion nas gall neb ond y cristion deimlo eu dylanwad. Pan awn i chwilio beth yw y rhwym- edigaeth newydd hwn, y mae yn rhaid i ni gydnabod nad oes y fath beth yn ystyr manwl y gair, ac na ofynir dim ar ddwylaw cristionogion ond sydd ddyledus ar bawb eraill. Y mae yn bwysig i ni synied mai nid deddf yw cristionogaeth, ond efengyl. Nid gosod ar ddynion rwymedigaeth newydd y mae crefydd Crist, ond rhoddi gras a nerth newydd ynddynt: "canys y gyfraith a reddwyd trwy Moses, ond y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grisf." Neillduolrwydd rhwymedig- aeth y cristion i weithgarwch ydyw ei allu i weithio. Y mae hon yn un o egwyddorion ein crefydd, fod rhwym- edigaeth wedi ei osod ar bob dyn i ddefnyddio pob gallu a roddwyd ìddo. Ei allu ydyw mesur ei gyfrifoldeb : "I'r hwn a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod yw iddo." (Iago iv. 17). " I bwy bynag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo." (Luc xiii. 48). Os derbyn- iodd y cristion allu goruchnaturiol, yna y mae rhwymedigaeth wedi ei osod arno i gyflawni yn ei oes ar y ddaear waith goruchnaturiol. Yn wir, y ffordd oreu i gynnyrchu ynddo deimlad dwys o'i rwymedigaeth ydyw, ei ddwyn i ymdeimlo â'i nerth; a dichon mai un o ddiffygion penaf eglwys Dduw ar y ddaear bob amser ydyw ei hanallu i sylweddoli yn llawn ei nerth Dwyfol i ddarostwng egwyddorion yr oes dan awdurdod Crist. Wrth synfyfyrio uwchben agwedd bresennol y byd, y miliynau lawer na chlywsant eto am y Gwaredwr, sefyllfa resynol y tlodion yn ein trefydd mawrion, hyfdra an- nuwioldeb hyd yn nôd yn Nghymru, gwrthwynebrwydd i grefydd ysbrydol a gwirioneddau dadguddiad ymysg cy- nifer o ysgrifenwyr a dysgawdwyr yr oes, ac yn anad dim, bydolrwydd a di- faterwch cynifer a broffesant fod yn ddilynwyr Crist, nid rhyfedd fod yr enaid ystyriol yn ymderfysgu mewn tristwcn, ac ar ymollwng i anobaith. Ond nid yw yn Uwfrhâu heb deimlo euogrwydd. Prophwyd i Dduw ydyw, ac y mae digalondid mewn çrophwyd yn bechod yn erbyn y neb a'i hanfon- 2 K