Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 502.] AWST, 1872. [Llyfr XLII. ADDOLIAD AC YMARFERIAD; NEU WASANAETH CREFYDDOL A BYWYD DÜWIOL. GAN Y PAECH. T. J. WHELDON, B.A. Y mae eglwys Dduw ymhob oes mewn sefyllfa o obaith ac ofn, gan fod yn ei hamgylchiadau le ëang i'w haelodau weithredu ffydd yn Nuw, ac i goleddu ofa o'u herwydd eu hunain. Trwy eu hofni eu hunain, ac ymddiried yn yr Hwn sydd yn Geidwad iddynt, y maent yn gorchfygu ac i orchfygu. Pa agwedd fydd ar yr eglwys pan wisga y galluoedd sydd yn dylanwadu arni yn awr eu hunain aîlan nis gwyddom, gan nas gallwn fesur nerth yr achos ond yn ol maint y canlyniadau ; byddant yn agored, i lygaid haneswyr yr oes a ddaw. Y mae Cristionogaeth fel ag y mae yn ddynol yn cyfranogi o gymer- iad dyn ; a chyda dyn, yr unig beth unghyfnewidiol ydyw ei gyfnewidiol- cleb ; a bydd y cyfnewidiadau hyn yn ein sỳnu am nas gwelsom eu ffurfiad. Mam y syndod ydyw anwybodaeth. Pa fath. bynag fydd ei gwêdd, sicr ydyw, gan y gwyddom pwy yw ei Brenin, y bydd yr eglwys byw pan y bydd dyîanwadau gwrthwynebol yr oes hon, megys oesoedd eraill, wedi eu rhifo ymhlith y pethau a fu. Dŵg gyda hi arwyddion yr ymdrech y bu ynddi, y rhai yn lle ei hacru a'i hardd- ant, gan fod ei gwirionedd yn dragy- wyddol; ac fel y gàreg, po fwyaf y treiglir hi gan íifogydd, harddaf yr ymddengys. Ymysg y dylanwadau hyn, nid oes un yn fwy peryglus i lwyddiant eglwys Dduw na'r un sydd yn gweithredu ar y duedd naturiol sydd mewn dyn i wahanu rhwng gwasanaeth addoliadol crefydd â'r ymarferiad o honi mewn bywyd. Y mae yn naturiol, am ei bod yn ymddangos ymhob oes ar wahanol agweddau, y rhai sydd yn cymeryd eu ffurf oddiwrth ysbryd yr oes. Y mae dyn ger bron Duw, a'r un dyn ger dynion, i fod yn un. Y mae yr addol- iad a'r ymarferiad i fod yn un, megys enaid a chorff—egwyddor a dadblygiad yr egwyddor—yr hedyn a'r ŷd yn llawn yn y dywysen. Duw a'u cysyÉt- odd; a'r hyn a gysylltodd Duw na wahaned dyn. Y mae eu gwahanu yn dinystrio y ddau ; nis gellir cadw un heb gadw y llaÚ; pwysant ar eu gilydd. Y mae byw crefydd yn cadw y gwasanaeth crefyddol i'r holl aelodau rhag myned yn rhagrith, ac felly yn flîeidd-dra yn ein dwylaw. "Pwy a esgyn i fynydd yr Argjwydd, a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef ? Y glân ei ddwylaw, a'r pur ei galon, yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo; efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawn- der gan Dduw ei iachawdwriaeth." Heb y gwasanaeth addoliadoL y mae moesoldeb gwlad heb sail iddo, yn gwywo ac yn ymlygru. Nid ydyw rheolau moesol heb Dduw ond hâd ar greigleoedd, yr hwn dros ychydig a ymddengys, ac yn ebrwydd a wywa am nad oes iddo wreiddyn. Dirywia moesoldeb yn foesau allanol, y rhai nad ydynt ond cochl malais ; gwisg o sidan yn amgylchu llaid. Çorff ydyw moes- oldeb a lygra yn fuan os na chynysg- aeddir ef âg egwyddor uwch nag ef ei hun i'w fywhâu. Duw a all anadlu ynddo anadl einioes; ac yna y corff oedd yn farw a ä yn enaid byw. Nis gellir ei gadw ond trwy ei ddyrchafu