Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhip. 500.] MEHEFIN, 1872. [Llyfr XLII. LABAN, A JACOB, A DUW JACOB. PREGETH GAN Y DIWEDDAR BARCH, JOHN JONES 0 EDEYRN. Genesis xxxi. 29: "Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eieh tad a lefarodd wrthyf neithiwyr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg." Llefarodd Duw fel hyn wrth Laban ìnewn breuddwyd liw nos. "Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd/ ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan o honot wrth Jacob na da na drwg (adn. 24)." Yr oedd Jacob, gyda ei deulu a'i anifeil- iaid, wedi myned ymaith oddiwrth Laban heb ýn wybod iddo. Ac wedi i Laban glywed am ymadawiad ei fab yn nghyfraith, wele'r crëadur diserch a bydol yn myned ar ei ol, a chwmni cryf yn ei gynnorthwyo, gyda'r bwriad, hwyrach, i'w yspeiUo o'i eiddo, neu ynte i'w orfodi i ddyfod yn ol i wasan- aethu ei bwrpas ef fel o'r blaen. Dyna efe yn goddiweddyd Jacob yn mynydd Gilëad; ond yr oedd Duw Jacob yn well na mûr o greigiau o'i amgylch. Yr oedd yr Arglwydd yn gwylio Jacob i'w amddiffyn ddydd a nos ; oedd ! ac yn gwylio eielynion hefyd i'w rhwystroi wneyd dim niwed iddo. Efe a siaradodd â Laban mewn breuddwyd liw nos, heb wneyd dim twrf i ddeffro neb, ond yn ddigon uchel ac eglur a grymus i Laban ddeall mai nid neb llai na'r Duw byw oedd yn rhoi rhybudd iddo : " Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg." Paid a dyweyd yr un gair mewn ffordd o addaw na bygwth i rwystro Jacob yn ei flaen ; nid yw efe i fod yn slâf i ti byth eto. Mae Duw yn siarad weithiau â dyn- ìon dyeithr iddo, rhai heb fod yn gyfeiUion iddo,nid o'u ihan hwy euhun- ain, ond o ran ac er mwyn ei bobl. Dyna efe yn gwneyd i bentrulliad a phenpobydd Pharaoh freuddwydio yn rhyfedd ill dau yr un noson, ac ymhen dwy flynedd yn peri i Pharaoh freudd- wydio rhywbeth hynod iawn ; nid o gyfeillach atynt hwy, ond o gariad at Joseph, y rhoes Duw y breuddwydion iddynt. Grisiau oedd y breuddwydion hyny i godi Joseph eu dehonglydd o'r carchar i farchogaeth yn yr aU gerbyd. Felly breuddwydion y brenin Nebu- chodonosor ; am ddangos yr oedd Duw fod ei ddirgelwch ef gyda Daniel, y bachgen duwiol o Iuddew. Nid yw bod Duw yn siarad â rhywun yn un prawf ei fod mewn heddwch â hwnw ; y pwynt ydyw, pa beth y mae efe yn ei siarad. Mae genym hanes Duw yn siarad â Satan (Job i., ii.); ond Satan oedd Satan er hyny. Bydd yr ustus ar y fainc yn cyfeirio ei eiriau at y troseddwr a saif o'i flaen ; ond fe allai mai dywedyd wrtho y bydd raid ei grogi y mae. Beth y mae Duw yn ei lefaru yw'r cwestiwn. " Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw," ebe'r Salmydd. Cymer yn araf; ni wyddost ar ddaear beth a ddywed efe ; hwyrach mai llefaru yn ddigllawn a wna ; paid bod yn rhy awchus i glywed ei leferydd. Na, y mae genyf amcan go sicr beth fydd natur ei genadwri at Sion: "Canys efe a draetha heddwch i'w bobl ac i'w saint." Ymha le yr ydym ni ] ai ymysg pobl Dduw ai ynte ymysg ei elynion? Y mae tuedd Ueferydd Duw yn troi ar hyny. A welwcn chwi mor rhyfedd y mae Duw yn amddiffyn ei bobl ar finion