Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 499.] MAI, 1872. [Llyfr XLII. HOPHNI A PHINEES. GAN Y PARCH. THOMAS HUGHES, EENCHESTER. 1 Samtjel ii. 34: " A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hophni a Phinees : Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau." Hophni a Phinees oeddynt feibion Eli. Eli oedd archoffeiriad a barnwr yn Israel. Yr oedd wedi hanu o Ithamar, mab ieuengaf Aaron. Bu yn barnu Israel am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn ŵr anrhydeddus a gwir dduwiol. Yr oedd ei gymeriad ef, fel cymeriad pob dyn duwiol arall, yn anmherffaith— yn gynnwysedig o rinweddau a gwen- didau. Un nodweddiad perffaith yn unig a fu yn y byd wedi y cwymp; nodweddiad y dyn Crist Iesu. Mae diffygion ac anmherffeithderau lawer yn nodweddu bywyd holl blant dynion. " Heb ei fai, heb ei eni." Yr oedd Hophni a Phinees yn offeiriaid i'r Arglwydd. Yr oeddynt yn cyflawni dyledswyddau yr offeiriadaeth yn y tabernacl yn Siloh. Ond trist yw meddwl, " meibion Eli oeddynt feibion Belial, nid adwaenent yr Arglwydd." Er eu bod wedi eu dwyn i fyny yn nghynteddau yr Arglwydd, wedi eu cysegru i fod yn offeiriaid i'r Arglwydd, yr oeddynt yn anwybodus o gymeriad sanctaidd yr Arglwydd, ac yn hollol amddifad o gariad tuag ato. Ceid hwynt yn ddynion o ysbryd anufudd a gwrthryfelgar iawn. Cyilawnasant y gweithredoedd mwyaf drygionus ac anfad. Halogasant a gwarthruddasant ordinhadau y cysegr. Yspeiliasant yr offrymwyr. Nid oedd y rhan o'r offrwm oedd yn disgyn yn gyfreithlawn iddynt yn eu boddhâu (Lef. vii. 31, 32), ond yr oeddynt yn hòni hawl hefyd yn y rhan oedd at wasanaeth yr offrymwyr. Ac yspeibiasant Dduw hefyd, canys yn ol eu gorchymyn hwy, eu gwas a gymerai y ihan oedd i'w gyflẅyno yn aberth i'r Arglwydd. Gwrthdystiai yr offrymwyr yn erbyn y fath weithred- oedd drygionus a rhyfygus, ond yn hollol ofer; ni wneid un sylw o'u gwrthdystiad. Ac yn ychwanegol at y cyfryw gysegrladradau, cyflawnasant y pechodau mwyaf erchyll a fliaidd. Ennynodd y fath ymddygiadau gwar- adwyddus ddigofaint Duw i'w herbyn, a pharasant i'r bobl flìeiddio offrwm yr Arglwydd. Ceryddodd Eli hwynt am eu hanfad- rwydd, ond nid gyda'r llymdra ag y dylasai. Yn ddiammheu, ei ddyled- swydd oedd eu cosbi yn llym, a'u troi ar unwaith o'r offeìriadaeth. Tystiodd wrthynt fod eu hymddygiadau yn gywüyddus iawn—fod gwasanaeth Duw yn cael ei warthruddo ganddynt, a bod eu pechodau mor rhyfygus, fel yr oeddynt yn annyhuddadwy—nas gellid gwneyd iawn drostynt. " Ond ni wran- dawsant ar lais eu tad, am y mynai yr Arglwydd eu lladd hwynt." Trwy hir bechu, yr oeddynt wedi myned yn an- nheimladwy o bechod—wedi myned mor ofnadwy o annuwiol fel nad oedd y gobaith lleiaf iddynt byth ddiwygio— wedi myned mor haerllug, digywilydd, rhyfygus, ac anfoesol, fel nad" oedd gan Dduw ddim i'w wneyd ond eu bwrw ymaith! Gwrthododd yr Arglwydd hwynt, a phenderfynodd ddwyn barn drom arnynt yn gosb am eu hannuw- ioldeb, ac yn rhybudd i ninnau. Anfonodd yr Arglwydd brophwyd at Eli i ddadgan iddo ei fawr anfoddlon- rwydd, a'r farn oedd i ddisgyn ar ei deulu. Y mae Eli yn cael ei gyhuddo o bechodau y meibion, o herwydd nad