Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif. 498.] EBRILL, 1872. [Llyfr XLIII. EIN FFURFLYWODRAETH EGLWYSIG. GAX Y PARCH. JOSEPH JONES, PONT MENAI. PENNOD IV. "Wedi ein hanalluogi gan amgylchiadau anorfod i gwblhâu, ar y pryd, ein nod- iadau ar y testun uchod, agychwynwyd yn y Drysorfa am 1870, ni buasid yn mecídwl am ail ymgymeryd â'r ymdrin- iaeth oni bae í'od dau neu dri o'r pynciau yr oeddid wedi bwriadu o'r dechreu eu trafod wedi eu codi i sylw mwy na chyffredin mewn dadleuon diweddar. Testun y bennod ddiweddaf* oedd Swyddogaethau Eglwysig y Cyfundeb; ac amcanwyd dangos oddiwrth ddad- ganiadau pendant y rheolau sydd o bryd i bryd wedi eu tynu allan er ein cyfarwyddyd, yn gystal ag oddiwrth arferion ein rhagflaenwyr o'r dechreu, fod holl weithrediadau yr eglwysi i gaeí eu dwyn ymlaen o dan olygiaeth a thrwy gydweithrediad y ddwy" swydd- ogaeth a gydnabyddir yn gyffredin genym. Yn bresennol, cymerwn olwg ar y gwahanol gylchoedd sydd yn ffurfio maes llafur ein swyddogion, sef yr eglwys, y Cyfarfod Misol, a'r Gym- <leithasfa; ac os temtir ni i wneyd ambell awgrymiad gyda golwg ar ber- ffeithiad ein trefniadau yn rhai o'r cysylltiadau hyn, bydd y darllenydd deallus yn gwybod pa faint o bris i'w roddi ar hyny. YR EGLWYS. 0 bosibl fod cydsyniad cyffredinol yn ein mysg ynghylch dau beth o barth i waith eglwys, sef mai mewn cyn- nulliad cyffredinol o'r holl aelodau y gorphwys yr awdurdod terfynol i * Gwel y Drysoefa ain Meheün, 1870. benderfynu pob peth o bwys, ac mai gwaith neillduol y swyddogion, heb- ìaw bugeilio yr eglwys a gofalu am ei hachosion amgylchiadol, ydyw rhag- drefnu y materion sydd i'w cyfeirio i farn y frawdoliaeth, arolygu yr ym- driniaeth â hwynt, a dwyn y pender- fyniadau y deuir iddynt i weithrediad. Önd y mae gweinyddiad y drefn hon, o anghenrheidrwydd, yn gofyn bocl discretionary power helaeth yn cael ei ymddiried i'r swyddogion ; ac y mae iawn ddefnyddiad y gaílu hwn o'r pwys mwyaf i heddwch a chysur a gwir lwyddiant pob egTwys. Pwy na ddymunai fod pob petheuach yn y cysylltiadau amgylchiadol yn cael eu cyfìwyno i farn y lliaws? A phwy, ond yr ymyrwr mwyaf dibetrus, a chwennychai weled pob achos o ddysg- yblaeth, pa mor ddibwys, delicate, neu ddyrus y byddo, yn cael ei gyfeirio i ddyfarniad y cynnulliad cymysg, o ran oed a phrofiad, sydd yn cyfansoddi y cyffredin o'n heglwysi ? Byddai yn anhawdd dyfeisio moddion mwy effeithiol i ddifuddio ein cyfarfodydd eglwysig na gwneuthur y cyfryw beth. Rhaid tynu y llinell rhwng y pethau y dylid eu trîn gan yr holl frawdoliaeth â'r pethau y byddai yn ddoethach eu trafod mewn cylch mwy neillduol, yn rhywle ; a gwaith y swyddogion, wrth reswm, ydyw tynu y llinell hono ; a lle y bydd cylch o swyddogion nad ellir rhoi yr ymddiried hwnw ynddynt, rhaid bod y cyfryw yn anghymhwys i fod yn swyddogion o gwbl. Ond y mae gweinyddiad boddhäol o'r ymddiried hwn yn gofyn fod y cyd-