Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 497.] MAWRTH, 1872. [Llyfr XLIT. Y PERYGL 0 WRTHGILIO YN HWYRDDYDD BYWYD. GAN Y PARCH. JOHN OWEN, GYNT 0 TY'NLLWYN. 2 CRONICL xxiv. 2: "A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad." Paham y mae cymaint o'r Bibl yn hanesiol, sydd ofyniad a gyfyd yn naturiol yn y meddwl ymehwilgar wrth edrych dros ei gynnwysiad. Pa- ham y mae cymaint o'r BibÌ yn hanes- iol ] paham na buasai mwy o hóno yn athrawiaethol fel y llythyrau at y Rhufeiniaid a'r Hebrëaid—yn ymarfer- ol fel llyfr y Diarebion—ac yn brofiad- dl fel y Salmau? Digon tebyg fod gofyniadau o'r fath wedi tramwy trwy iiloedd o feddyliau er pan argraffwyd y Bibl gyntaf. Yr ateb yw hyn: mae i hanesiaeth ddau amcan : 1. Dwyn ffeithiau i sylw. 2. Rhoddi mantais i dynu addysgiadau oddiwrth y ffeithiau hyny. Y peth olaf y w prif wasanaeth hanesiaeth i'r byd : dysgu pa fodd i wneyd trwy sylwi, wrth ddarllen hanes rhai eraill, pa fodd y gwuaethent hwy. Annogai y diweddar Mr. Humphreys o'r Dyffryn, ddyn ieuanc i ddarllen cymaint ag a allai o hanesiaeth, oblegid meddai, " Help mawr i ti i ddeall pa fodd i fyw, yw gwybod pa fodd y darfu y rhai fu yn y byd o'th flaen fyw." Un peth arbenig tuag at gyrhaedd hyn y\v astudio cymeriadau ; y cymeriadau a ddygir i'n sylw yn yr hanes a ddarllenwn. Ceir yn y pennodau hyn amryw o'r cyfryw. Ac' y mae cymeriadau yr holl freninoedd hyn yn werth edrych i fewn iddynt am ryw addysg. Rhenir y breninoedd o linach Dafydd i dri dosbarth : rhai amlwg fel dynion duw- iol, rhai amlwg fel dynion annuwiol, a rhai y gedy y Bibl ni mewn tywyll- wch am danynt gyda golwg ar dduw- ioldeb ac annuwioldeb. Yr oedd yr olaf yn ddosbarth Hi'osog. Ai nid felly y mae'r dyddiau yma yn Nghymru ? Yn amser ein tadau, os oedd mwy o ddyn- ion amlwg mewn annuwioldeb nag sydd yn awr, yr oedd mwy hefyd o ddynion hynod mewn duwioldeb. Yn ein dyddiau ni, fel y bu am y breninoedd hyn, mae y dosbarth anamlwg yn lliosog. Mae rhywbeth yn ochelgar yn y modd y sonia y Bibl am danynt, fel un yn ceisio dyweyd ereu byth y gall am un arall, a chadw at y gwir. Dywedir am Amas'ia, " Efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Ar- glwydd, eto nid fel Dafydd." Mewn man arall, "Ond nid â chalon ber- ffaith." Coffhëir llawer o bethau da a wnaeth Rehoboam, Abiah, Joas, Amas- iah, Uziah, a Jotham ; eto ni ddywedir fod yr un o honynt wedi gwneuthur yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Ar- glwydd yn ol yr hyn a wnaethai Dafydd. * Os oedd gan rai o honynt wir grefydd, nid oedd yn un amlwg. 0 bawb o'r dosbarth hwn, Joas oedd y gwaethaf—y mwyaf annhebyg i un â chrefydd ynddo. Ÿn niwedd ei oes yr aeth felly. Ni fu y rhan gyntaf o oes neb o'r breninoedd yn well na'r eiddo Joas, ond yr oedd ei ddiwedd yn llawer iawn gwaeth na'i ddechreuad. Mae yn hyn yn gyffelyb i ambell ddiwrnod ar amser cynauaf: yr haul yn codi y boreu heb yr un cwmwl, y cìiwrnod yn dal yn ei ddysgleirdeb hyd ddeg, deuddeg, a thri o'r gloch. Ond wedi i hîn hyfryd yr oriau blaenorol wasan- aethu mor ragorol tuag at gynauafu y cnwd, cododd yn ddisymwth un o ddryghinoedd mwyaf y tymmor. A