Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 495.] IONAWR, 1872. [Llyfr XLII. PERYGL CELLWAIR A'R HUDOLIAETH I BECHOD. PREGETH A DRADDODWYD YN NGHYJIDEITHASFA TREFFYNNON, RHAGFYR C, 1871. GAN Y PAHCH. OWEN THOMAS, LIYERPOOL. Diarebion vi. 27, 2S : " A dáiclion gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad? A ddiclion gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed ? " Un o nodweddau amlwg yr Ysgryth- yrau sanctaidd, ac sydd mewn modd arbenig yn eu cyfaddasu i wasanaethu amcanion neillduol yr Anfeidrol yn y rhoddiad o honynt i'r byd, ydyw y defhydd gwastadol a wneir ynddynt o wirionedclau cyffredin, hoílol adna- byddus i ddynion gyda golwg ar bethau y byd a'r bywyd hwn, er egluro yr egwyddorion mawrion moesol ac ys- brydol, âg y mae y fath bwys ynddynt iddynt yn eu cysylltiad â Duw, ac yn eu perthynas â'r byd tragy wyddol. Yn y nodwedd hwn arnynt, y maent yn cyfateb i'r hyn a ellír olygu fel deddf naturiol meddwl dyn i ddysgu unrhyw beth. Y ddeddf hono ydyw, ei fod yn dysgu y dyeithr trwy yr adnabyddus. Y mae yn myned at y pell tiwy yr agos; -ac at yr agos trwy y nês. Y mae yn esgyn at y Dwyfol trwy y dynol, ac yn ymddyrchafu trwy yr elfenol a'r aniserol at yr hyn sydd ys- brydol a thragywyddol. Ác, yn gan- lynol, y mae dysgeidiaeth yr Ýsgryth- yrau, yn y nodwedd y cyfeîriasom ato, yn fwy pendant ac eglur i'r fath grëadur ag ydyw dyn nag y gallasai iod mewn umhyw wêdd arall. Ac nid hyny yn unig, ond y mae cy- mhwysder arbenig yn y nodwedd hwn sydd yar eu dysgeidiaeth, i wneuthur eu haddysg yn fwy effeithiol; i beri iddi ennill y sylw yn rhwyddach a llwyrach, gadael argraff ddyfnach a mwy arosol ar y côf, a sicrhàu dylan- wad cryfach ar y galon a'r fuchedd. Y mae y gwirionedd, fel hyn, yn gwisgo y fath wêdd ag y rhaid i ddyn íod yn hynod o esgeulus i fethu dirnad ei ystyr, ac yn nodedig o galed i beidio teimlo oddiwrth bwysfawrogrwjTdd ei gjmnwysiad. A dyma y nodwedd, fel y canfyddwch i gyd, sydd iddo yn y geiriau a ddarllenwyd genym yn awr yn destun: "A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes heb losgi ei ddillad? A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor ac heb losgi ei draed ì" Mae y geiriau hyn yn amlwg wedi eu bwriadu er cymhell yn fwy effeith- iol ar feddwl y gŵr ieuanc, sydd yma yn bendant yn cael ei anerch, yr anghenrheidrwydd am ymgadw yn hollol oddiwrth achlysuron y pechod gwaradwyddus sydd yma yn union- gyrchol yn cael ei wahardd. " Y pechod hwnw, fel y gwelir, ydy w puteindra: pechocl ag y mae oeclran ac amgylch- iadau y fath un yn ei wneuthur yn arbenig yn agored iddo, a phechod, ysywaeth! ag y mae miloedd lawer o ieuenctyd yn cael eu hysglyfaethu ganddo. Mae y gŵr doetlí, yn y lle cyntaf, yn ei gyfarwyddo at yr am- ddiffyn goreu icìdo rhag pob tuedcl at y pechod hwn. Y mae yn cael hyny mewn adgof o, sylw ar, a chydym- ffurfiad â'r, addysg deuluaidd a gawsai yn more ei oes : "Fy mab, cadw orchy- myn dv dad, ac nac ymado à chyfraith dy faní." Wrth " orchymyn" y tad, a "chyfraith" y fani, yma, yr ydym i ddeall, midybiwn,oddiwrth ỳr adnodau canlynol, y gyfraith Ddwyfol, yn y dadguddiad oedd gan y genedl y pryd hyny o hóni; ar hon yr oedd rhieni duwiol, yn ol gorchymyn yr Arglwydd,