Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. XXXVI.] RHAGFYR, 1849. [Lltpe in. 23gtograCKab. Y PARCH, JONATHAN EDWARDS. Gan mor uchel ydoedd cymeriad Mr. Edwards fel pregethwr grymus a llwyddiannus, efe a wahoddwyd yn fynych gan wahanol eglwysi i lafurio am ychydig amser yn eu mysg. Yn ganlynol, wedi cael cydsyniad ei bobl, a darparu cyíìenwad i'w bulpud ei hun yn y cyfamser, byddai yn myned ar deithiau cenadol o'r fath yn aml, a gwobr- wyid ef yn helaeth drwy yr adfywiadau cyffredinol ar grefydd a gymerent le mewn canlyniad i'w lafur. A thra yr oedd efe fel hyn yn ceisio dwyn yn mlaen ledaeniad achos ei Feistr ar led, ei ymdrechiadau yn mysg ei bobl ei hun a ddechreuasant dra- chefn gael eu coroni â llwyddiant annghyffredinol. Yn ngwanwyn 1740canfyddidyn amlwg fod Ysbryd Duw yn gweithio yn mysg y bobl, yn enwedig yr ieuenctid; ac meirn rhai personau neillduol ymddangosai arwyddion boddlonol ogyfnewidiad trwy- adl. Paräodd yr ansawdd hon ar bethau hyd ddiwedd y flwyddyn bron. Yn mis Uydref y flwyddyn hono daeth yr enwog George Whitfield "i ymweled â Mr. Edwards, i Northampton, a phregethodd j*no bum' gwaith; a dilynid ei bregethau â deffroad dwys yn mysg proffeswyr crefydd, ac yn fuan ar ol hyny â chyffroad mawr yn mysg y bobl ieuainc. Cynyddodd hyn yn ystod y gauaf; ac yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol, yr oedd crefydd wedi myned yn wrthrych sylw cyffredin. Cymer- odd Mr. Edwards fantais o'r cyfle i ymddyddan â Whitfield ar ei ben ei hun yn nghylch cyfroadau, gan adrodd ei reeymau dros y farn oedd ganddo fod Mr. Whit- field yn gosod gormod o bwys ar bethau felly. Ymddyddanodd âgef hefydyn mherth- ynas i'w arfer gyffredin o farnu fod pergonau ereill yn annychwdedig, a datganodd ei annghymeradwyaeth hollol o'r cyfry w arferiad. Yr oedd yr holl gydgyfeillach a fu rhyngddynt yn hynod o serchog a charuaidd; ond tueddid Mr. Edwards i feddwl fod Whitfield wedi edrych aruo wedi hyny gyda pheth llai o ymddiried cyfeillgar nag y buasai pe bae ef héb fod yn wrthwynebol iddo ar y ddau hoff bwnc a nodwyd. Yr ydym wedi gweled Mr. Edwards yn Uafurio, " mewn amser, ac allan o amser," er llesàd ei braidd, ac yr oeddynt hwythau yn falch o'u gweinidog. Yr oedd hyd yn hyn wedi by w megys yn eu calonau ; yr oedd wedi gweini iddynt am agos i 24 mlyn- edd, a llawer o honynt a edrychent arno fel eu tad ysbrydol, tra yr oedd pawb mor barchus o hono fel y gellid dyweyd am danynt fel y dywedai Paul am y Galatiaid, y tynasent eu Uygaid, pe byddai boeibl, ac y rhoisent hwy iddo. Ond Ow 1 mor an- wadal yw achosion dynol, ac mor gyfnewidiul yw pethau ameer! Cawn bellach weled y bobl hyn yn troi yn ei erbyn, ac yn gwrthod gwrando yn hwy ar ei lais deniadol, a hyny i gyd oblegyd ei fod yn rhy ffyddlon. Yn y flwyddyn 1744 hysbyswyd i Mr. Edwards fod rhyw bobl ieuainc, perthynol i'w gynulleidfa, a chanddynt iyírau Hygredig yn eu meddiant, y rhai a achosant ymddyddanion masweddgar a halogedig rhyngddynt. Gan farnu fod y mater yn gofyn ymchwiliad, galwodd frodyr yr Eglwys y'nghyd, a gofynodd iddynt ai nid oeddynt yn meddwl y dylid defnyddio rhyw fesurau gyda gol- wg ar y mater; a dywedasant yn unllais y dylid gwneyd, a phenodwyd Cyfeisteddfod i chwilio i mewn i'r amgylchiadau. Ymgyfarfu y Cyfeisteddfod, a darllenodd Mr. Edwards enwau y bobl ieuainc yr ewyllysiai efe eu holi ar yr achos. Yr oedd rhai o'r personau hyny yn cael eu cyhuddo, ac ereill yn dystion, ond anghofiodd Mr. Edwards hysbysu, wrth ddarllen y rhestr, i ba ddosbarth y perthynai pob un; a phan gyhoedd- wyd yr enwau, cafwyd nad oedd ond ychydig o'r prif deuluoedd yny dref hebfod rhai o honynt yn perthynu yh agos iddynt. Lledaenodd y newydd, ac yr oedd y dref yn fuan mewn cynhwrf; gwrtbododd y rbai a alwesid y'mlaen ymddangos, neu pan y daethant, ymddygasant gyda llawer 0 ddigywilydd-der,—dirmygwyd awdurdod yr Cyfbbs jNfiWXl>». 2 G