Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. XXXV.] TACHWEDD, 1849. [Lltfr I II. ÎSgtorjrnfîtaö. Y PARCH, JONATHAN EDWARDS. EHAN II. Ar y 12fefl o Ionawr, 1723, gwnaeth Mr. Edwards gysegriad difrifol ohonoeihun i'r Arglwydd, gan addunedu eymeryd Duw i fod ei holl ran a'i ddedwyddwch, ac i ymladd â'i holl nerth yn erbyn y byd, y cnawd, a'r diafol, hyd ddiwedd ei oes. Yn yr un flwyddyn efe a ymadawodd â New York, a dychwelodd i dŷ ei dad yn Windsor. Yn ystod yr amser y bu yn ymbarotoi i waith y weinidogaeth, a'i aros- iad yn ííew York, ac wedi hyny yn nhŷ ei dad, efe a dynodd i fynu restr o ben- derfyniadau (deg a thriugain mewn rhifedi) gyda golwg ar reolaeth ei ymddygiadau personol, yn ol fel y rhoddai Duw ras iddo i'w cyflawni, amryw o ba rai ydynt dra hynod, yn enwedig wrth ystyried iddynt gael eu flurfio gan un mor ieuanc. Maent yn amlygu treiddgarwch meddwl, dirnadaeth o wirionedd dwyfol, cynydd mewn gras, tra mawr, ynghyda llwyr ymgysegriad i Dduw, a dymuniad gwresog am sancteiddrwydd. Dangosant mor eglur yr ydoedd yn canfod mai eydffurfiad ag ewyllys Duw ydyw sefýllfa uwchaf y creadur, a mor awyddus ydoedd yntau am gyrhaeddyd y sefyllfa hòno. Ni oddeía ein terfynau i ni ddyfynu ond yr ychydig a ganlyn o'r penderfyniadau hyny. " Gan fod yn deimladwy fy mod yn analluog i wneuthur unrhyw beth heb gymhorth Duw, yr wyf yn gostyngedig ddeisyfu arno fy ngalluogi trwy ei ras i gadw y penderfyDÌadau hyn, mor belled ag y maent yn unol â'i ewyllys ef, er mwyn Crist» Penderfynwyf—Y gwnaf pa beth bynag a farnwyf yn fwyaf er gogoniant Duw a'm llesâd, a'm budd, a'm pleser fy hun, ar hyd fy holl hanfodiad, heb un ystyriaeth o'r amser, pa un ai yn bresenol ai ynte ryw fyrdd- iynau o oesoedd ar ol hyn. Penderfynwyf wneuthur pa beth bynagafeddyliaffydd yn ddyled- swydd arnaf, ac ynfwyaf er daioni a budd dynolryw yn gyfFredinol. Penderfynwyf wneuthur felly, pa anhawsderau bynag a ddelont i'm cyfarfod, pa mor luosog bynag, a pha mor fawr by- nag a fyddont. " Penderfynwyf fod yn wastad yn ceisio chwilio allan ryw gynllun neis ddyfais newydd i ddwyn yn mlaen y pethau blaenorol. " Penderfynwyf na vinelwyj'byth unrhyw beth, pa un bynag ai mewn enaid ai corff, ych- ydig neu fwy, ond a duedda at ogoniant Duw, na 6od, na dyoddef hyny, os gallaf unrhyw fodd ei ochelyd. " Penderfynwyf beidio byth a cholli un munud o amser, ond ei ddefnyddio yny ffordd fwyaf buddiol a fyddo yn bosibl. " Penderfynwyf beidio byth a gwneyd dim ag y byddai arnaf ofn ei wneuthur pe byddai yr awr olaf o fy oes. " Penderfynwyf weithredu, yn mhob ystyr, mewn siarad a gwneuthur, fel pe na buasai neb wedi bod mer ddrwg a mi, ac fel pe buaswn wedi cyfiawni yr un pechodau, ueu a chenyf yr un gwendidau a cholliadau* ag ereill; ac na oddefaf i wybodaeth o'u colliadau hwy gynyrchu di m ynof fy hunan ond cywilydd, a bod yn unig yn achlysur i gyffesu fy mhechodau a'm trueni fy hun ger bron Dhw. "Penderfynwyf ofyn i mi fy hun ar ddiwedd bob dydd, wythnos, mis, blwyddyn, y'mha beth y buasai yn bosibl i mi wneuthur yn well mewn unrhyw fodd. " Yr wyf yn fynych yn clywed pobl mewn henaint yn dyweyd pa fodd y byddent byw pe baent yn byw eu hoes drosodd eto, Penderfynwyf y byddaf byw yn gymhwya yn y fatli fodd ag y meddyliwyf y dymunaswn fy mod wedi gwneyd, a thybied i mi fyw i fyned yn hen." Iawn, ni a feddyliem, y gallai ysgrifenydd hanes Mr. Edwards ddyweyd am y penderfyniadau crybwylledig, eu bod, efallai, i bersonau o bob oed, ond yn enw- edig i'r ieuainc, y crynodeb anysbrydoledig goreu o ddyledswydd gristionogol, y cyfarwyddyd goreu i gyrhaeddiadau uehel mewn rhinwedd efengylaidd, y mae meddwl dyn wedi bod yn alluog i'w ffurfio. Y maent hefyd yn taflu goleu mawr ar gymeriad Mr. Edwards; ac ni all neb ryfeddu fod y llanc a fiurfìodd y fath benderfyniadau, megys yn ngwydd Duw, pan nad oedd ond 19 mlwydd oed, wedi Cyfres Newydd. 2 d