Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. XXXIV.] HYDREF, 1849. [Llyfr III. 23gfograföaö. Y PARCH, JONATHAÌÍ EDWARDS, PRIF ATIIRAW ATHROFA SKW JERSEY, A3IERICA. Ganwtd Jonathan Edwards yn East Windsor, Talaeth Connecticut, Unol Dal- eithau Ameriea, Hydref 5ed, 1703. Yr oedd ei dad yn wr dysgedig a duwiol, a defnyddiai ran fawr o'i amser, gyda dyfalwch mawr, i addysgu ei blant; ac er nad oedd yr un ganghen o wybodaeth fuddiol oedd yn gyrhaeddadwy y pryd hwnw yn cael ei hesgeuluso, cymerai boen neillduol gyda'u meithriniad crefyddol. Ym- ddengys fod ei zel, ei ddyfalwch, a'i weddiau, wedi cael eu bendithio yn heìaeth, nid yn unig gyda golwg ar wrthddrych ein cofiant, ond ei blant ereill hefyd. Arddangosai Jonathan, pan yn bur ieuanc, alluoedd meddwl annghyfíredinol, a gofalodd ei dad am roddi cyfeiriad doeth a phriodol i'r galluoedd hyny. Pan nad oè*dd ond chwe blwydd oed, dechreuodd astudio yr ìaith Ladinaidd, ac er nad oes dim hanes wedi ei gadw am ei gynydd y pryd hwnw, yr oedd yn amlwg, ar ei íÿnediad i'r Athrofa, iddo fod yn hynod o ddiwyd gyd a'i wersi o dan ofal ei dad, yr hwn a'i dysgai. Derbyniwyd ef fel efrydydd i Athrofa Yale yn 1716, a dilynodd ei orchwylion yno gydag egni a diwydrwydd niawr. Dangosai yr awyddfryd cryfaf i feistroli pob canghen o ddysgeidiaeth a ddygid o dan ei sylw ; ond er cy- maint o hyfrydwch a deimlai yn y pethau hyny, niewn ymchwiliadau moesol a duwinyddol yr oedd yn cael mwyaf o ddifyrwch a boddâd» Pan nad oedd ond pymtheg mlwydd oed, astudiai waith campus Locke ar y Deall Dynol gydag awyddfryd cryf; a dywedai y byddai yn cael ynddo fwy o hyfrydwch nag y gallai y cybydd fwynâu gyda'i godau o arian ac aur. Byddai amryw o weinidogion enwog yn arfer cydgyfarfod yn nhŷ ei dad, a diau fod clywed eu hymddyddanion hwy ar y pynciau mwyaf pwysig a dyddorol mewn duwinyddiaeth, wedi bod yn foddíon i feithrin y tueddfryd cryf oedd yn ei feddwl at arddansoddiaeth, (meta- 2)hysics) a chadarnâu ei farn yn yr athrawiaeth y dysgwyd ef ynddi. Graddolodd yn yr Athrofa yn 1720, cyn bod yn 17 mlwydd oed, ac arosodd yno am ddwy flyn- edd yn ychwaneg, i ymbarotoi at waith y weinidogaeth, a derbyniodd Drwydded i bregethu yn 17*22. Cyn olrhain ei hanes yn mhellach, ni a roddwn ei adroddiad ef ei hun am ansawdd ei feddwl hyd y pryd hwn, gyda golwg är bethau ysbrydol. " Frofaia amryw droion ryw weithrediadau ar fy meddwl, y'nghylch fy enaid, o'm mebyd; ond cyfarfyddais â dwy adeg fwy penodol o argyhoeddiad, cyn i mi brofi y cyfnewidiad hwnw trwy ba un y'm dygpwyd i'r golygiadau a'r teimladau newyddion hynya gefais ar ol hyny. Y tro cyntaf oedd pan oeddwn fachgen, rai blynyddoedd cyn i mi fyned i'r Athrofa, pan oedd rhyw ddeífroad nodedig yn mysg cynulleidfa fy nhad. Bum dan weithrediadau cryfion iawn am lawer o íìseedd, a phethau crefydd ac iachawdwriaeth yr enaid yn gwasgu yn ddwys ar i'y meddwl; ac yr oeddwn yn bur ddyfal gyda dyledswyddau crefyddol. 13yddwn yn arfer gweddio bum' gwaith y dydd yn y dirgel, a threulio llawer o amser mewn ymddyddanion crefyddol gyda bechgyn ereill, nc yn arfer cyfarfod â liwynt i gydweddio. Profais nis gwn pa fath hyfrydwch mewn crefydd. Ymunodd rhai o'm cydysgoleigion a minau i adciladu bwthyn Cyfues Newì-dd. 2 Iì