Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DBYSORFA. Rhif. XXXin.] MEDI, 1849. [Llyfb III. 23gíî3graffiaíí. Y DIWEDDAR BAECH. DANLEL JONES. BHAN VII. Yb ydym wedi dwyn hanes gwrthddrych ein Cofiant hyd at ei fynediad i'r Orsaf Genadol yn Cassia, aign gydunol â'r awgrymiad a roddwyd yn y rhifyn diweddaf, ni a'i dygwn, beilach, a d^rfyniad, Y Sabbath cyntaf ar ol cyrhaedd y Bryniau, y?grifenai Mr. Jones fel y canlyn :— "Mawrth laf. T Sabbath hwn a drenliwyd genym yn wahanol i bob Sabbath o'r bteen ; —y cyntaf ydoedd i nl fod yn bresenol lle yr addolid yr Arglwydd mewn iaith estronoL Yr oedd y tywydd yn hyfryd,—yr Mn yn gymhedrol o oer. Treuliais y rhan gyntaf o'r bopeu mewn darllen y Bibl a myfyrio, yr hyn, y'nghyda bod mor gysurus fy sefyllfa, a barai i mi âeimlo yn dra hapus. Tuag 11 o'r gloch aethum gyda'r brodyr Jones a Lewis ,i'r Ysgoldy, lle yr oedd y'nghylch 40 ©'r Cassiaid (plant a phobl mewn oed) wedi ymgynnulL Ar ol oanu, holwyd hwynt yn y Cassiaeg ar yr hyn a draddodasid yn eu clywedigaeth y Sabbath ö*r. blaen. Mae'r brodyr wedi bod yn arferol, ar foreuau Sabbath, o gyfieithu llyfr Genssis iddynt, a phenod 45ain oedd yr un y bu Mr. Lewis yn cyfieithu a gwneyd sylwadau arnî y Sabbath diweddaf. Yr oedd rhai o'r Cassiaid yn arddangos dyfalwch tra hynod, a chof rhagorol, wrth adrodd cynwysiad y benod heddyw bore. Ar ol hyny, cyfieithodd Mr. Jones y beaod ganlynol, a gwnaeth rhai sylwadau arnynt. Cyn gorphen y gwasanaeth, gofynais ychydig gwestiynau iddynt (ac un o'r brodyr yn cyfieithu rhyngom), y'nghylch y Eibl a threfn îachawdwriaeth, a rhoddasant h-svythau atebion boddlonol, gan ddatgan eu dymaniad calonog i geisio a meddianu yr iachawdwriaeth h@n. Wedi i mi ddywedyd wrthynt mai fy amcan i a mrodyr yn dyfod mor bell oedd, eu dysgu yn ffordd iachawdwriaeth, atebodd un o honynt, gyda lláwer o deimlad, eu bod hwy yn teimlo yn ddiolchgar i Dduw am ein dan&n atyrrt, ac i ninnau am ddyfod i'w haddysgu yn yr hyn yr oeddynt o'r blaen yn anwybodas ynOdo. Dywedai hyn mewn dull mor efFeithiol, fél yr oedd yn anhawdd genym ymattal rhag wylo. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a chanu, ac yr ydoedd ein teimladau yn dra ŵefnogol, er nád oeddwn yn gallu deall ond ychydig o'r hyn a ddywedid. Am 3 yn y prydnawn ni a ymgyfarfuom drachefn (yr oedd y rhan fwyaf o'r Cassiaid wedi aros trwy y dydd heb fwyd), pryd yr holwyd y brodorion o'r seithfed benod o'r Hyfibrddwr, ac y rhoddwyd amryw gyngborion iddynt gan y brodyr. Yn y cyfarfod hwn mi a adroddais yr aduodau a roddwyd i nü gan blant yr eglwysi yn Ninbych a Llwynedd i'w hadrodd wrthynt. Derbyn- iwyd liwynt gyda llawenydd a óUolchgarwchgan y Cassiaid, y rhai, hefyd, a addawsant anfon adnodau yn ol i blant Cymru. Er fodíy rhifedi yma yn fychan, mewn cymhariaeth, etto wrth ystyried pa fath ydoedd eu cyflwr y<äiydig amser yn ol, mae genym achos i ddiolch i Dduw a chymeryd cysur. Mae'r hyn a -\<mKá yma yn ddiau yn fwy nag y gallai dyn byth effeithio; ac am yr arwyddion a roddodd o'i fiafr ■*$. fendith ar lafur ein brodyr, teimlwyf rwymau arnaf i glodfori yr Arglwydd, yn gystal ag i geisio paràd ei ffafr i ni ragllaw." Ymosoflodd D. J. yn ddioedi ar y gorchwyl o ddysgu yr iaith Cassiaeg, yr hyn a gafòdd (fel y tystiai yn ei lythyrau at ei gyfeillionj, yn un pur hyfryd. Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ei fynediad i'r wlad, yr oedd wedi %^sgu cymaint arni, fel ag ì allu ymddyddan â'r Cassiaid ar faterion creíyddol, ac yn mis Medi dechreu* odd íyned ar nosweithiau Sabbath i un o'r pentrefi i'r dyben hwnw, a chafodd ei CÝÄS ÄÍBWTDD. ' Z