Skip to main content

Y DRYSORFA. Hhif. XXXH.] AWST, 1849. [Lmtb III. î3pfograföaö. Y DIWEDDAE BARCH. DAäHffiL JOÎTES. BHAN VI. Yr ydym yn awr, yn ol ein haddewid y mis diweddaf, am osod ger bron ein dar- llenwyr hanes mordaith Mr. Jones i Calcutta, a hyn a wnawn, fel o'r blaen, trwy ddyfynu rhanau o'r nodiadau a ysgrifenodd ef ei hun yn ei ddyddlyfr, ac os gallwn fyned gydag ef rywfaint pellach na " dinas y palasau," ni a awn, efallai, hyd Fryniau Cassia. Ar ol adrodd hanes^ cychwyniad y " Cordelia," (Medi 13eg,) efe a ychwanegai fel y canlyn :— " Am beth amser ni a arosasom yn mhen ol y llong, yn codi arwyddion ar |ein rcyfeil]ion ar y lan, nes oeddym wedi myned yn rhy bell i ni adnabod ein gilydd. Am y gweddill o'r bore arosasom, gan mwyaf, ar y deck, yn darllen, a chymeryd golwg ymadawol á glanaa Siroedd Laucaster a Chaer, a rhai o Fryniau Siroedd Fflint a Dinbych. * Yn ystod y pryd- nawn, trodd y gwynt yn wrthwynebus, ac o ganlyniad, nid oeddym, yn yr hwyr, wedi cyr- haedd ond i olwg yr Òrmshead, yn Ue bod, fel y dysgwyliasai y Cadben yn y bore, yn ago* i Gaergybi." " 19eg. Tr oedd yn dymhestlog iawn heddyw bore, a'r salwch yn parâu. Methais gysgu, a tbeimlais yn o frawychus wrth wrando ar ruad y gwynt, a thrwst y Uong yn eael ei thafla gan y tonau. . . Yn ystod y dyddiau a'r nosweithiau diweddaf, bu fy ysbryd yn chwilìo yn ddyfal, ac ni theimlais ond ychydig (os dim) cysur crefyddol, yr hyn a achosid, fe allai, gan natur y selni digyflfelyb hwn, sef salwch y môr. Unwaith, pan yn o gysglyd, a'r llong a'r morwyr mewn Uafur mawr gan wyntoedd gwrthwynebus, daeth hanes Jona i ij meddwl, ac ymlidiodd gwsg oddiwrth fý amrantau. Wrth adgofio y manau hyfryd yn ngwlad fy ngenedigaeth a adawswn, a meddwl fy mod wedi dwyn fy hunan a'm gwraig i'r stâd yma, teimlais yn gyfyng arnaf o'r ddeutu, rhwng edifeirwch a gobaith. Eithr gwelais nad cariad at yr Iesu, na dymuniad am iachawdwriaeth eneidiau paganiaid, ydoedd gwreiddyn hyn, ond ofnais mai anniddigrwydd ac ansefydlogrwydd fy meddwl oedd wedi ei achosi. Pe buasai yr Arglwydd wedi gweled yn dda beri i'r llong droi yn ol y pryd hwnw, buaswn wedi ei theimlo yn anhaws ail-gychwyn, a meddyliais y buaswn wedi gwerthfawrogi yn fwy nag erioed hapusrwyddfy ngwladfy hun a'i rhagorfreintiau. O'r diwedd, cefais fy nghalonogi beth wrth feddwl am arweiniadau Ehagluniaeth hyd yn hyn, ac yn debyg i lawer tro o'r blaen, cefais fesur o esmwythâd wrth geisio nesâu at Orseddfainc y gras, gan ofyn i'r Ar- glwydd wneuthur â mi yn ol ei ewyllys ei hun, a'm danfon Ue bynag y gwelai ef yn dda. Yn hyn ni adawyd fi heb ryw radd o hyder na fwriai yr Arglwydd fi i'r dyfnder, os oeddwn wedi cyfeiliorni yn fy syniadau blaenoroh Fy iaith ger bron yr Arglwydd ydoedd yn debyg i'r eiddo Hezecia yn Esa, 38. 18, 19. Cawsom ddyledswydd deuluaidd yn y Cabin heno am y tro cyntaf, er gyda anhawsder. Darllenais ranau o Sahn 118, a theimlais fod adnodau 13—21 yn bur briodol i'm hachos L" "21ain. Yr ail Sabboth i ni fod ar y môr: yn analluog i godi ond^ap ychydig amser, gan mor wanaidd yr oeddwn. Clywais y Cadben a'r Is-lywydd yn darllen rhanau o Wasanaeth Eglwys Loegr, a rhan o un o Bregethau Walter Cradock, yn y bore, ond heb fod yn abl myned fy hunan. Yr oedd yn ofidus genyf fy mod heb allu gwnenthur dim y'ngwasanaeth yr Arglwydd heddyw, ac ofnais rhag nad oedd yr holl hyfrydwch a brofaswn mewn gwasan- aeth crefyddol cyhoeddus yn ddim heblaw hyfrydwch mewn swn geiriau, heb fod yr enaid yn Cyfees Newyjud. X