Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. XXXI.] GORPHEÎTAF, 1849. [Llyfr III. äögfografliaö. Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL JOÎíES. BHAH V. Yn eîn rhifyn diweddaf ni a adawsom wrthddrych ein Cofiant yn Rosset, He y go- sodasid ef i lafurio dros Genadaeth Gartrefol y Gogledd, hyd oni chaffai ef, fel" yin- geledd gymhwys," un a fyddai ýn debygol o fod yn gynnorthwy iddo fel Cenadwr yn Cassia. Wrth olrhain ei hanes, fel y mae wedi ei roddi yn ei ddyddlyfr, o ddydd i ddydd, ni a gawn ei fod wedi llafurio gyda diwydrwydd cydwybodol a diflino. Cynaüai y moddion cyhoeddus a neillduol yn ei gartref ei hun, gyda chysondeb di- ball,—ymwelai yn fynych â'r ardaloedd cymydogaethol i'r un pwrpas,—ac ni adawai i ddiwrnod, braidd, fyned heibio, heb alw gyda rhai o'r teuluoedd cyfagos i'w bres- wylfod, i yraddyddan â hwynt am y pethau a berthynent i'w heddwch. Defnyddiai ei oriau hamddenol i fyfyrio-ac ymbarotoi at ei orchwylion cyhoeddus, ac fel cynt, arferai neillduo diwrnod, yn awr ac yn y man, i weddio ac ymprydio er llesiant ys- brydol iddo ei hun, ac i geisio arweiniad yr Arglwydd gyda golwg ar ei symudiadau dyfodoL Mynych y cyfarfyddai âg esiamplau gresynol o anwybodaeth a difaterwch, y rhai a gyffröent ei dosturi a'i zel; a chafodd ei loni a'i galonogi trwy ddeall iV ym- ddyddanion personol, yn gystal a'i lafur cyhoeddus, fod yn fendithiol er troi rhai pcchaduriaid o gyfeiliorni eu ffyrdd. Rhag ofn i ni fyned y waith hon etto i ormod meithder, ni wnawn ond dau ddyfyniad o'i ddyddlyfr, y rhai sydd fel y canlyn :— " Mai 30. Treuliais y dydd hwn gartref, gan mwyaf, mewn ympryd a gweddi. Yn y bore derbyniaîs lythyr yn fy hysbysu am lwyddiant fy chwaer yn------, yn achos yr hon y bum yn dra phryderus. Gan fy mod wedi gweddio llawer drosti, ac addunedu i'r Arglwydd, os byddai iddo ef ei bendithio a'i llwyddo, yr ymroddwn yn fwy Uwyr i'w wasanaeth, pan dder- byniais y newydd cysurus, teimlais ynof awydd i benderfynu cysegru holl alluoedd fy enaid a'm corff yn gwbl i'w ogoniant ef. Mae ei addunedau ef arnaf; gan hyny, bydded i mi geisio ei ras i'm galluogi i'w talu y'ngŵydd ei holl bobl. " Wedi pennodi y prydnawn i ddarllen y Bibl a gweddio, dewisais ail Epistol Paul at Timotheus, fel cyfran i'w darllen, a chefais lawer o adeiladaeth wrth ddarllen amryw bennod- au, ond yn benaf yr ail bennod, adnodau 3 a 4. Daeth y geiriau hyn i fy meddwl gyda grym a hyfrydwch neilldaol, yr hyn a barodd benderfyniad adnewyddol ynof i fod yn filwr da i'r Arglwydd Iesu Grist, pa le bynag yr arweiniai ef fi. Er fy mod yn fynych yn ofhi rhag cyfarfod â chaledi ac adfydau, yr oeddwn, y pryd hyny, yn gallu edrych ar ba beth bynag a ddeuai i'm rhan yn y íFordd hono, wrth ei ddilyn ef, yn bethau ag yr oeddwn yn gwbl foddlon i'w dyoddef yn ol y nerth a roddai i mi. Tr adnod flaenaf o'r bennod hefyd a barodd lawer o gysur i mi, gyda golwg ar fy ngalwad i fod ya filwr i Grist,—' Tydi, gan hyny, fy mab, ym- nertha yn y gras sydd yn Nghrist Iesu.' Mae swydd milwyr gwladol yn un o galedi, ac etto y maent hwy yn foddlon, er mwyn rhywbeth dibwys, i aberthu eu bywyd yn ngwasan- aeth tywysogion daearoL Gyda pha faint mwy o fywiogrwydd a gwroldeb y dylwn i fod yn gysegredig i wasanaeth y Gwaredwr dwyfol a bendigedig! Bu adnodau 11, 12, ac 13 hefyd yn foddion i galonogi fy meddwl yn y golygiad hwn. Dylwn gywilyddio oblegyd fy hwyr- frydigrwydd, a'm llwfrdra, a'm bydoîrwydd, pan yn meddwì am yr alwedigaeth o fod yn ' lilwr y groes,' yn mysg y paganiaid. Ond bendigedig fyddo Duw am y geiriau hyn, y Ctj^res Newyud. s