Skip to main content

Y DRYSORFA. Ruif. XXX.] MEHEFIN", 1849. [Lltfr III. Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL JOXES. RHA.N IV. Yn olein haddewid yn y rhifyn diweddaf, ni a ddodwn ger bron ein darllenwyr yn awr, bigion o ddyddlyfr Mr. Jones, y rhai a ysgrifenodd ar y daith gyntaf a gymerodd drwy ranau o Ddeheubarth Cymru. Cychwynodd Awst 1, 1843, y'nghwmni y Parch. O. Jones, Manchester, y pryd hyny o'r Wyddgrug; ac yn niwedd y 3ydd dydd, ysgrifenai fel hyn;— " Ni bu genyra ond un odfa y dydd hwn, a hyny yn yr hwyr, yr hon ydoedd y gyntaf erioed ì mi yn Neheudir Cymru. Wrth deithio y íFordd i ddyfod yma, meddyliwn am deiíhiau yr hen dadau, y rhai a ddeuent o'r De i'r Gogledd i bregethu jt efengyl, pan ydoedd trigolion ein Siroedd ni yn gorwedd mewa mawr dywyllwch ; ac yn lle cael eu croesawu am eu llafur, yn cael eu herlid a'n hanmharchu. Ehyfedd y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle erbyn yn bresenol! Yn awr, mae yr efengyl wedi gwreiddio a llwyddo yn y Gogledd yn gymaint, os nad mwy nag yn y Deheudir, a'r Deheudir yn cael medi o ffrwyth llafur yr hen áadau hyny, trwy fod gweision enwog i Grist o'r Gogledd wedi bod yn Uwyddianus eu gweinidogaeth yn y Deheudir. Priodol y gallwn ni, trigolion Siroedd y Gogledd, ddywedyd mai dyledwyr pobì y Deheudir ydym am efengyl Crist; ac ui ddylem fod heb ymdrech i dalu ein dyled. Os bu yr hen dadau ag ydynt wedi myned i'r nefoedd o blith y Methodistiaid yn y Deheudir mor ffyddlon a llafurus yn yr amser hwnw dan y fath anfanteision, pa mor zelog a fiyddlon a ddylem ni yn awr fod, y rhai ydym wedi cael y fath helaeth ragorfreintiau ! Ac hefyd, gan fod dyfodiad gweision Crist o'r De wedi bod yn foddion i blanu eglwysi Methodistaidd yn y Gogledd, a'r rhai hyny yn awr mor flodeuog ag eiddo y Deheudir, pwy a ŵyr na bydd y Gor- safau Cenadol yr ydys yn awr wedi eu sefydlu mewn ^gwledydd tramor, mor llwyddianus mewn crefydd ag ydyw Cymru wedi bod hyd yma, os nad yn fwy felly ! Braint henafiaid y Deheu- dir oedd dyfod i bregeth» i'r Gogledd; ein dyledswydd ninau yw talu y caredigrwydd yn ol, ac ymdrechu i anfon yr efengyl i wledydd lle nad yw etto. Yr Arglwydd a nertho ei bobl i lafurio yn ffyddlawn gyda'i waith y'mhob lle, ac a roddo ei fendith ar eu llafur, er helaethiad teyrnas ei Fab.—Yr odfa heno ydoedd yn lled siriol, a'r gwrandawyr yn ymddangos yn gwrandaw gyda hyfrydwch—Cynulleidfa dda, ac arwyddion fod yr achos yn gysurus. O Arglwydd ! rho nerth i fod yma yn ddefnyddiol er gogoneddu dy enw, ac achub ac adeiladu pechaduriaid. Taith ] 8 milldir.'' ** 6ed.—Yn y wlad hon, fel yn fy ngwlad fy hun, mae dau fath o bobl, a dau achos yn myned yn mlaen; pobl yr Ayglwydd ydyw y nifer leiaf, a gwaith y rhai hyn yn fynych ydyw gofidio oherwydd anwiredd y ddinas. Wrth deithio i'r odfa gyntaf y boreu, dangoswyd ì mi ddarn mawr a braf o'r wlad mae y Sosiniaid yn ei msddianu. Wrth edryck a deall hyay, teimlwn eiddigedd ynof dros ogoniant Person ein Harglwydd Iesu Grist. Cynnorth- wyed yr Arglwydd íi, gydag iawn ddyben, i sefyll dros y gwìrionedd am y Gwaredwr a'i waith, ac i amcanu dyrchafu ei enw gyda fy holl rym a'm doethineb tra ar y ddaear." " 8fed a 9fed. Y dyddiau hyn cefais y fraint o fod yn Nghymdeithasfa Cydweli. O ran fy nheimladau fy hun, yr «edd yn llawen genyf fod yno yn gweled, ac yn clywed y pethau oeddynt yn myned y'mlaen. Wrth glywed rhai o'r hen bregethwyr yn adrodd eu profiadau, a'r Ueill yn ymddyddan â hwy, ofnwn nad oedd genyf ddim gwir grefydd, ac mai gwaith heb ei osod gan yr Arglwydd im, yr wyf yn ceisio ei wneuthur, sef pregethu yr efengyl. Dywedid mai y prawf goreu o dduwioldeb un ydyw, eymundeb parâol ei eoaid â Duw. Dangosent amrywiöl Cffres NfîwruD. o