Skip to main content

Y DRYSORFA. Riiif. XXIX.] MAI, 1849. [Llyfb III. aSyfograföaö. Y DIWEDDAR BARCII. DANIEL JONES. Yn ein rhifyn diweddaf ni a roddasom hanes awdurdodiad D. Jones i bregethu, a'i waith yn dechreu ar y gorchwyl hwnw : a dengys y nodiadau a ddodai o bryd i bryd yn ei ddyddlyfr fod cynghor Paul i Timotheus (2 Epistol ii. 15) yn wastad o flaen ei feddwl íël ei reol a'i arwyddair—" Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofed- ig gan Dduw, yn weithiwr difefl, yn iawn gyfranu gair y gwirionedd." Pe b'ai ein terfynau yn caniatâu buasai yn hyfryd genym ddyfynu rhai o'r sylwadau y cyfeiriwyd atynt, ond rhaid boddloni ar un fel enghraifft. " Gwaith Duw yw yr hyn y mae a wnelwyf âg ef. I Dduw yr wyf yn gyfrifol am fy ym- ddygiad,—iddo ef y mae'n rhaid i mi roddi cyfrif am fy ngoruchwyliaeth; ac os galluogir fi i fod yn ffyddlon, efe a ddyry i mi yn y diwedd " daledigaeth y gobrwy." Er ei bod yn hyfryd cael cymeradwyaeth dynion wrth geisio gwneuthur daioni, etto y maent hwy yn greaduriaid cyfnewidiol, a gallant yn fuan drui fíbrdd arall ; a dymunwn edrych ar gymeradwyaeth dyn- ion da yn ddiwerth mewn cydmhariaeth i fod " yn brofedig gan Dduw." 0! Arglwydd fy Nuw, nid wyf fì ond creadur pechadurus ae euog,—nid wyf deilwng i'm galw yn fab i ti, nac yn was ychwaith; ond bydded i ti yn dy fawr drugaredd faddeu fy holl bechodau, dileu fy holl gamweddau drwy waed fy íesu anwyl, heb gyfrif i mi fy mhechodau, a'm gwneyd yn dragywyddol gymeradwy yn yr Anwylyd, dy Fab Iesu Grist. Bydded i ti fy ngalluogi a'm cadw yn wastad i wneuthur y pethau a ryngant fodd i ti. Boed i mi gasâu pob ffbrdd gau; a bydded i waith gweinidogaeth yr efengyl sydd wedi cael ei ymddiried i mi, gael ei deimlo genyf yn ei fawr bwysigrwydd, fel y byddo i mi fod yn foddlon i dreulio ac ymdreulio er ei fwyn. Galluoga fi i ymwadu â mi fy hun,—cosbi fy nghorff a'i ddwyn yn gaeth, a goddef gystudd (caledi) fel milwr da i lesu Grist, heb geisio fy llesâd fy hun ond pethau Crist Iesu, a ilesâd llaweroedd fel eu hachuber. Nid wyf ddigonol i wneuthur na meddwl dim da o honof fy hun ; gan hyny fy Nuw graslawn! nid oes genyf ond deisyfu ac attolygu dy drugaredd di i weithio ynof ewyìlysio a gweithredu, o'th ewyllys da. I'th ofal grasol di y dymunwn gytlwyno fy hun, yn awr, ac am byth, heb edrych arnaf fy hun yn eiddo i mi fy hun ond fel dy was di. Gwna i mi yn well nag y gallaf fi ofyn, O ! fy Nhad nefol, yn ol lluosogrwydd dy dosturiaeth- au, trwy Iesu Grist fy Ngwaredwr, Amen." Yn mis Mawrth 1842 derbyniwyd ef yn aelod o'r Gymdeithasfa Chwarterol, a chan ei fod wedi dechreu pregethu oddiar awyddfryd at y gwaith cenadol, fel y crybwyllwyd o'r blaen, barnodd amryw o'r brodyr a'i clywsent ef yn rhoi hanes ei gymhelliadau at y gwaith hwnw y byddai yn well ei ryddâu ar unwaith oddiwrth ei orchwylion dyddiol, a'i anfon i Athrofa y Bala i dderbyn yr addysg anghenrheidiol iddo fel Ymgeisydd Cenadol; ac arwyddodd y Gymdeithasfa eu cymeradwyaeth o hyny yn unfrydol. Yn ganlynol efe a ddechreuodd yn ddioedi ymbarotoi i fyned i'r Bala, ac wedi cael caniatâd Person y plwyf a rhai o'r plwyfolion i roddi yr Y"sgol a gedwid ganddo i fynu y Pasg ganlynol, efe a wnaeth hyny ; a dyma'r hanes a rydd ara ei ymadawiad â'r rhai oeddynt dan ei ofal,— " Ar ddiwedd yr ysgol dywedai» wrth y plant fy mod yn bwriadu tori i fynu yr ysgol, a« yna rhoddais iddynt rai cynghorion fel am y tro olaf, a gweddiais gyda hwynt. Yr oedd yr holl blant bron, mawr a bach, yn wylo, a chefais waith mawr i ymattal fy hunan. Dydd yw hwn y cofiaf am dano yn hir, pryd y rhoddais i fynu fy swydd o addysgu y plant oeddynt dan fy ngofal, tua 70 mewn rhifedi. Yr oeddwn yn teimlo serchawgrwydd crỳf tuag atynt, a dy- muniad am eu llesâd, a chwanegwyd hyn wrth weled arwyddion eu serch ataf fi. Mae genyf achos mawr i alaru oblegyd fy meiau a'm pcchodau aml tra bum gyda'r p^ant hyn, ac oddi- eithr i mi gael maddeuant gan fy Nhad nefol, ni allaf godi fy mhen yn y farn heb gywiîydd Ctfees Newtpü. m