Skip to main content

Y DBYSORFA. Rmr. XXVIII.] EBRILL, 1849. [Llyfb III. <$Eíögrafóafe. Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL JONES. KHAN II. ÎNi a ddygasom hanes D. Jones yn y rhifyn diweddaf hyd at ei ddewis'ad i fod yn flaenor eglwysig yn y flwyddyn 1839, ac awn rhagom yn awr i roddi ychydig hys- bysrwydd am dano fel pregethwr a chenadwr, gan ddefnyddio, fel o'r blaen, yr ys- grifau a adawodd ef ar ei ol. Am ei gymhelliadau i waith y weinidogaeth, efe a roddodd yr adroddiad a gan- lyn i'r eglwys yn Cilcain, yn mis Chwefror, 1841, pan ddygpwyd ei achos dansylw yn ol trefniad Cyfarfod Misol y Sir ; ac adroddai sylwedd yr unrhyw hanes yn y Gymdeithasfa rag-ddywededig, sef yn y Wyddgrug, Mawrth, 1842 :— " Pa bryd a pha fodd y dechreuodd y dymuniad, neu'r awydd at waith y weinidogaeth ar fy meddwl, nis gallaf ddywedyd yn hollol; ond gwn ei fod er's amryw flynyddau, oddeutu 10 mlynedd neu ychwaneg. Er pan oeddwn yn bur ieuanc, oddeutu 15 oed, cofiwyf i mi ymgyfammodi i fod yn eiddo yr Arglwydd tra byddwn byw, ac at ei wasanaeth. Yn fuan wed'yn, daeth ar fy meddwl yn Ued ddwys ddechreu ar y gwaith o bregethu. Dyma rai adnodau fuont ar fy meddwl gyda golwg ar hyny. " Pregethu Crist o ewyllys da." Medd- yliwn fod fy nymuniad inau felly. (Ac felly yn awr, dymunwn ddywedyd yn dda am Iesu Grist.) Hefyd, fel y dywed yr Apostol Paul, "yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab." Cael bod felly oeddwn yn ei fawr ewyllysio. Oad etto byddai rhai adnodau yn peri ofn arnaf i ymosod at y gwaith, rhag mai nid yr Arglwydd oedd yn gweithio hyny ar fy meddwl, megys y rhai hyn:— " Ni phrysurais rhag bod yn fugail ar Jdy ol di, ac ni ddymunais y dydd drwg." Byddwn yn meddwl fod rhyw ' ddydd drwg' i gyfarfod â phobl gyd à'r weinidogaeth, ac ofnwn fyned iddo heb genyf ddim fm cysuro, ond mai myfi fy hun a'm dygasai fy hun iddo. Hefyd, " Eithr yn ol eu chwantau eu hunain y pentyrant iddynt eu hunain athrawon ; gan fod eu clustiau yn merwino," 2 Tim. 4. 3. hefyd, Act. 8. 21. Bu amryw o'r brodyr crefyddol, gartref ac oddi cartref, yn crybwyll wrthyf am y gwaith o bregethu er's amryw flynyddau, ac yn rhoddi annogaethau i mi ato, ac eraill yn fy annog i gymeryd pwyll, ac oedi hyny nes deuwn yn hynach. Felly gan nad oedd fy meddwl ddim mor benderfynol, ac oherwydd rhai amgylchiadaa yn yr eglwys gartref, ac yn nhrefn rhagluniaeth tu ag ataf fi, oedwyd hyd yn hyn. Er y dymunwn yn awr fy mod wedi gwneuthur mwy nag a wneuthum yr amser a aeth heibio, etto nid yw edifar genyf fy mod wedi aros hyd yma, gan nad wyf yn barnu i'r Arglwydd ddangos mewn modd neillduol fy nyledswydd i ddechreu'yn gynt. Y pethau sydd yn bresenol yn cymhell fy meddwl at hyiì, ydynt y rhai canlynol yn benaf; " 1. Gallaf ddywedyd fy mod yn cael hyfrydwch mawr, i'e, y penaf, gyda chrefyJd fy hun, ac mewn darllen a chwilio i wirioneddau y Bibl, fel mai fy mhenderfyniad, o'ni rhan fy hun, yw cloddio yn y maes hwn tra byddwyf byw ; a phan fyddaf yn cael mwyaf o hyfrydwch a budd i mi fy hun yn y pethau hyn, bydd awydd arnaf i wneyd ereill yn hysbys o honynt. Cyfres Newydd. l