Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehif. XXVI.] CHWEFROR, 1849. [Llyfb IIL 33gfograflxa&, WILLIAM THOMAS, O'R PIL. Y mae coffadwriaeth'llawer o'r hen bobl, a'r tadau Methodistaidd, fuont â'u hys» gwyddau o dan yr arch yn nghychwyniad y Cyfundeb hwn, bron wedi suddo i dra- gywyddol ebargofiant. Yr ychydig am danynt, sydd yn aros yn unig yn nghof yr hen íforddolion, y rhai sydd fel torchwy yn cydio yr oes hono â hon wrth eu gilydd. Yn mhlith y lluaws sydd a'u coffadwriaeth yn fendigedig yn meddyliau yr hen drigolion sydd yn ngweddill gan angeu, y mae fy ewythr William, Tydraw ; cymeriad moesol a chrefyddol yr hwn, sydd yn arogli yn beraidd yn mhlith y byw, tra y mae ei gorff wedi hen bydru yn y bedd. Nid annyoddefol, fe allai, fyddai hanes hwn ac arall, o'r hen bobí dda, i ddarllenwyr y Drysorfa, beth bynag am olygwyr yn awr ac cilwaith. Ganwyd y patriarch uchod, yn y flwyddyn 1723, mewn lle a elwir y Dyffryn Uchaf, yn mlwyf Margam, Sir Forganwg. Pan yn 16eg oed, sef 1739, yr ymweloäd yr Arglwydd ag ef drwy weinidogaeth Mr. Howel Harris, ac effeithiwyd cyfnewid- iad o bwys yn ei holl fucheddiad. Er hyny, fel y dywed ef ei hun, " Llafuriais yn galed am bedair blynedd am fywyd drwy gyfamod Eden ; ond ni roddodd neb i mi." Yr Arglwydd a ymwelodd ag ef drachefn, wrth wrando pregeth mewn man a elwir y Chwarela Calch, gerllaw Castellnedd, yr hyn fu yn foddion i ddinystrio ei bedair blynedd llafurwaith caled, a pheri iddo dderbyn iachawdwriaeth, fel ei holl dadau, <* heb arian ac heb werth." Eb efe, " Iesu yw'r gwr y mentraf arno, Doed o honof yr hyn a ddelo." Nid oedd un offeiriad, fel y'i gelwir, mewn undeb a'r Methodistiaid yn Morganwg» yn y dyddiau hyny ; o ganlyniad, byddai Mr. Thomas yn myned ar ei draed i Lan" geitho, at y Parch. I). Rowlands i gyinuno, ac weithiau i Gapel Llanllian, at y Parch* Howel Daries. Byddai yn dechreu ei daith i Langeitho nos Sadwrn, ac yn dychwel- yd adre erbyn pryd gwaith boreu ddydd Llun. Yr oedd hyny o gwmpas chwech ugain milltir yn ol ac yn mlaen. Yr oedd angenrheidrwydd, chwi welwch, i deithio yn mhell yn yr amseroedd hyny, gan mor anaml ydoedd y cyfleustra ; ac, yr oedd ffyddlondeb yr heu bobl yn ganfyddadwy yn hyn. Yr oedd teithio mor galed, ac mor belled, yn dangos yn eglur fod gwneyd côf am Iesu o fawr bwys gan eu heneicî- iau. Oes Fethodistaidd oedd hono o angenrheidrwydd ; ac y mae yr hcn boblach yn rhy J[dueddol i feddwl mai felly y dylai fod o hyd. Ac, oherwydd methu symud gyda rhediadau yr oes yr ydym yn byw, fe'u gweîir yn edrych càn hylled â dylluan ar dywyniad haul. Ond, i ddychwelyd at Wilìiam Thomas, o'r Pil. Yn nihen ychydig, ymrwymodd â raerch deg, mewn "glân briodas." Ac, yn wir, priodas lled fendigedig y trodd allan, er gwaethaf holl ddarogan bawlyd y hyd. Buont yn byw rhyw ychydig wedi hyn yn y DyfTryn Uvvchaf, y ìle y dywedir y byddai rhyw ddrwg ysbryd yn disgyn ar amserau, i aflonyddu a chynhyrfu dv.fr y teulu cariadus. Y Ctfres Newydd. ■ E