Skip to main content

Y DBYSOBFA. Rhif. XXV.] IONAWR, 1849. [Lìtfb III 23gfografiíaìí. MRS. DAYIES, O'R GARNACHENWEN, SIR BENFRO.* Mae ysgrifenu hanes y rhai sydd yn meirw yn beth tra chyffredin yn y byd crefyddol y dyddiau hyn ; ond y mae yn ammheus a ydyw yn fuddiol i gyhóeddi hanesion maith am bersonau anghyhoedd. Ond nid un felly oedd y gwrthddrych sydd genym yn awr o dan ein sylw. Un o'r rhai hynod yn mhlith y dysgyblion oedd hon, a bydd ei henw yn arogli yn hyfryd i'r oesoedd dyfodol. Yr oedd Mrs. Davies yn unig fereh ei thad a'i mam, a'i henw morwynawl yd- oedd Blanch Maria Rogers. Yr oedd Mr. a Mrs. Rogers yn bobl gyfrifol iawn ; yn grefyddol, haelionus, a gweithgar, gyda'r achos erefyddol yn Trefin. Yr oedd eu tý, sefy Garnachenwen, yn artref ymgeleddgar a chysurus i bregethwyr yr efengyl; ac felly daeth gwrthddrych ein cofiant yn adnabyddus i'r holl bregethwyr oedd yn teithio'r wlad yn yr amseroedd hyny. Yr ydym o dan anfantais i roddi hanes am ddechreuad ei cbrefydd, oblegyd y mae ei holl gyfoedion a fu yn cyd- ddechreu â hi wedi dianc o'n gafael. Goroesodd hi hwynt oll. Ond gan nad pa ba bryd yn ei hocs y cafodd grefydd, dangosodd y canlyniad ei bod yn grefydd dda. " Oblegid wrth ei ffrwyth yr adnabyddir y pren." Ond sicr yw ei bod wedi dechreu yn íled gynar ; meddylir mai oddeutu pymtheg oed. Nid ydym yn rhyfygu dywedyd fod Sfe- Davies, mwy nac eraill o'r duwiolion, heb ei gwendidau a'i cholliadau ; ond ^fcamheu y gellir "priodoli iddi eiriau yr apostol, Phil. iii: ei bod yn awyddus, " ||||newn un modd y gallai gyrhaedd ad- gyfodiad y meirw," a'i bod yn ddifrifol yn '^eyrchu at y nôd, am gamp uchel alwed- igaeth Duw yn Nghrist Iesu." Yr oedd hi yn awyddus i weithredoedd da, ac yn gofalu am ílaenori ynddynt. Rhagorodd ar ei hynafiaid yn mhell. Ac yr oedd y cylch yn mha un yr oedd hi yn troi yn dra eang a helaeth. Ychydig cyn diwedd y ddwyfed ganrif ar bymtheg, yr oedd y Parch. D. Jones, Llangan, wedi dyfod i anneddu yn gyfagos i Abergwaen; ond byddai yn treulio rhyw gymaint o amser bob blwyddyn yn Sir Morganwg; a phan y byddai yn dychwelyd, byddai yn pregethu yn yr hen lanoedd Plwyfoi (ag oedd braidd wedi eu cwbi adael) yn yr ardaloedd hyn, heblaw yn addoldai y Methodistiaid. A bydd- ai yr ychydig foneddigion ag oedd yn preswylio yn y cymydogaethau yn dyfod i wrandaw yr hen offeiriad, yn enwedig i'r llanoedd. Yn eu plith yr oedd gwraig foneddig, o'r enw Mrs. ÎTeedham, gweddw gwr lled gyfrifol, yr hwn a fuasai yn swyddog milwraidd yn y fyddin. Cafodd y gair afael ar ei meddwl, ac fel Saul yn gwasgu at y dysgyblion, dechreuodd Mrs. Needham wasgu at IV1 iss Rogers o'r Garnachenwen. Cofgan ysgrifenydd y llinellau hyn glywed Mrs. Davies yn adrodd helynt gyntaf yr hen foneddiges, a hyny ar y noswaith ag yr oeddid yn dodi corff Mrs. Needham yn ei harch. ' Pan ddechreuodd hi gymdeithasu a mi (ebe hi), ni wyddwn yn iawn pa beth i wneyd o honi. Nid oedd genyf lawer o flas ar ei chymdeithas. Yr oedd hi yn siarad llawer am grefydd, ond yn hynod dywyll ac Arminaidd o ran ei golygiadau. Dygwyddodd ar ryw dro, pan oedd hi yma, fod Traethawd Dr. Owen ar Psalm 130, ar y bwrdd. Edrychodd iddo, a gofynodd am ei fenthyg; ac yn wir nid oeddwn yn barod iawn i'w roddi. Dywedais ynof fy hun, Ni wnai dî fawr ddefnydd o hwnyna. Ond fodd bynag, rhwng bodd ac anfodd (ond heb amlygu dim o hyny iddi hi), hi a'i cafodd ef. Darllenodd ef yn fanwl ac yn ystyriol. A phan dychwelodd hi y llyfr yn ei ol, yr * Ysgrifenwyd y Bywgraffiad hwn ar ddymuniad Cyfarfod Misol Sir Benfro ; ac yn annibynol ar hyny, yr oedd duwioldeb a defnyddioldeb arbenig Mrs. Davies, yn rhyglyddu Ue blaenllaw i'w choffa yn y Drysorfa. * Ctfres Newydd. b