Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehif. iii.J MEDI, 1832. [Llyfr ii. COFNODÂ17 O BBEGETE ^ draddododd y Parch. Ebenezer Richards, Tregaron, yn Nghapel Rhos Esmor, am 1 d'r gloch prydnhawn dydd Sadwrn, Tachwedd 27in, 1830. " A ehyfran ym mysg y rbai a sancteiddiwyd trwy y ffydd sydd ynof fi."— Actauxxvi. 18. Mae y geiriau hyn yn rhan o efFeithiau bendithiol yr efengyl yn adnod y testyn.—Öddiwrth y testyn sylwodd ar y matterion canlynol:— I. Mewn perthynas i'r enw y gelwir gwaredigion yr Arglwydd amo, sef y rhai a sancteiddiwyd. II. Am etifeddiaeth y rhai a sancteiddiwyd, ac a elwir yn y testyn, yn gyfran. III. Y modd roae dyfod i hawl o'r etifeddiaeth hon, sef trwy y ffydd sydd y'Nghrist. I. Mewn perthynas i'r enwad a roddir yn y testyn ar waredig- ion yr Arglwydd, "y rhai a sancteiddiwyd."—Oddi ar hyn sylwodd, Yn gyntaf, Beth a fedd- ylir wrth sancteiddrwydd yn yr Ysgrytbyr. Weithiau, wrth y y gair sancteiddio, mae i ddyall, cydnabod sancteiddrwydd mewn rhyw un. Ac felly, wrlh sanct- eiddio yr Arglwydd, meddylir,ei gydnabod, ei addoli, a'i folianu fel Duw perffailh sanctaidd. Gorchymynir i ni, yn 1 Pedr iii. 10., sancteiddio yr Arglwydd Dduw yn ein calonau; a pha îodd y dichon creaduriaid aflan a halogedig fel ni, sancteiddio yr hwn sydd yn berffaith mewn samcteiddrwydd, ac nad oes neb saiictaidd fel efe, ond trwy ei gydnabod, &c. fel y mae yn sanctaidd. Bryd arall, wrth sancteiddio, meddylir, neillduo neu , gyssegru unrhy w beth at wasanaeth, ac i ddybenion sanct- aidd; ac yn yr ystyr hwn yr yd- oedd llestri y deml yn sanctaidd, yr hyn a barodd y mawr niweid i Belsassar a'i bobl wneuthur un ymdriniad a hwy. Drachefn, wrth sancteiddio, meddylir, neill- duo peth oddi wrth aflendid ac ansancteiddrwydd, a'i lanhau. Ac hefyd, wrth sancteiddrwydd, mewn rhai manau o'r Ysgrythyr y deallir, sancteiddrwydd cyfran- ogol, yr hyn hefyd, mae yn de- bygol, a feddylirwrtho yn y tes- tyn, trwy yr hwn y sancíeiddir pechaduriaid aflan. Yn ail, Mai gwaith yr Ar- glwydd yn unig yw sancteiddio pechaduriaid. Priodoliry gwaith hwn, yn yr Ysgrythyr, weithiau i'r tri pherson yn y Duwdod, sef i'r Tad, 1 Thes. v. 23. i'r Mab, Eph. v. 25,26, ond yn (wvaf neill- duol i'r Ysgryd G!an, l Pedr i. 3; ac felly oddi eithr cael y person hwn at y gwaith o sanct- eiddio pechaduriaid, mae yn ddi- amheu mai cwbl ofer fydd pob moddion ac ymdrechiadau o eiddo pawb i sancteiddio un pechadur. Feddyfeisiwyd llawer o bethau gan Baganiaid, Pab- yddion, ac eraill, ì'r dyben o sancteiddio, megis' ymprydiau, penydiau, &c.; ond mae y cwbl yn hollol annigonol i sancteiddio nèb heb yr Yspryd Glan. Yn drydydd, Mae sancteiddio yn waith ar yr holl ddyn. Nid 2K