Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFÄ. Rhip. xi.] TACHWEDD, 1831. [Llyfr i. PREGETH Y PARCH. J. SIBREE. Psalm 1. 3, " Cesglwchfy saint ynghyd aitaf fi.'' (Parhadtudalen292.) Yn 3. Mae pobl Diluw yn dwyîi tystiolaeth eu bod yn saint, oddi areu duwiol ymarweddiad. Oddi ar ein duwiol ymarweddìad yr ydym ni i roddi tystiolaeth i'r eglwys ac i'r byd o'n santolaeth ; •' Wrth eu ffrwythau,'' nid wrth eu teimladau, nid wrth eu gwefusau, nid wrth eu proffes gyffredin, ond " wrth eu ffrwythau yr adnabydd- wch hwynt." Yr oedd gwr yn adrodd un tro wrth eich gweinid- og parchedig, y breuddwyd nod- edig a gafodd efe, yr hwn a fu yn achos o'i dröedigaeth at Dduw. " Nid oes genyf fi fawr o ffydd mewn breuddwydion, attebai Mr. Hill, ond mi a ddymunwn gael clywed pa fodd yr ydych yn ym- ddwyn wedi i chwi ddeffroi o gwsg.'' Ie, fy mrodyr nid drwy freuddwydion, ond pethau syl- weddol, y mae ein bucheddnod i gael ei barnu. Y fath warth sydd yn cael ei ddwyn ar grefydd, rai prydiau, pan y gofynir i'r cristion, a hyny yn ymddangos yn amlwg fod amheuaeth ar feddwl y gof- ynydd, "Pa beth yr ydych chwi yn ei wneuthur mwy nag eraill?" Y briwiau dyfnaf a ellir roddi i grist'nogaeth, nid ydynt y rhai hyny a roddir gánsaethauamlwg annuwiolion, ac addefiad cy- hoeddus angredinwyr, panytefìir y rhai'n atti nid rhaid iddi ond codi y darian i fynu, maent yn syrthio wrth ei thraed: ond er hyny pan y byddo hi yn codi ei sylŵedd parchedig i fynu mae creithiau yn ymddangos oddi ar amry w friwiau. Os gofynir iddi, "beth ydyw y gwelì'au hyn.'' Hi a ettyb, " dyma y rhai y'm cìwyf- wyd â hwynt yn nhŷ fy nghar- edigion." Mae dynion y byd yn disgwyl i'r saint ymddwyn yn Unol â'u proffes, fel y gweddai i saint: mae ganddynt hawl iofyn hyny. Mae achos i obeithio y bydd i'r byd gadw golwg wiliad- wrus ar y rhai sydd yn gwneud proffes eu bod yn saint; sef yn gwneud proffes neillduol o gref- ydd. Golygiad fel hyn abâr i ni wylio a gweddio; ac os byddwn yn ymddwyn yn unol a'n proffes; oni byddwn yn eu twyllo, nyni a allwn beri i'r rhai a fyddo yn sylwi arnom ddywedyd#*'A\\n gyd â chwi: canys cly wsom fod Duw gyd a chwi," a bod gwir- ionedd yn eich proffes. Mae athrawiaeth giâs rai prydiau yn cael ei chyhuddo o duedd i ben- rhydd-did; oleiaf i dybiaeth nad ydyw bur gyfeillgar â sancteidd- rwydd a gweithredoedd da ; ond pe* gallem ni ddwyn y cyfryw wawdwyr a'r rhai hyn i bresenol- deb crist'nogion gwirioneddol, a dywedyd gwelwch mor sanctaidd ydynt; ewch i eu Siopau a'u Masnachdai a gwelwch mor gyf- iawn y maent yn eu holl fasnách, ewch i'w tai, a gwelwch mor lânwaith mor gydunol y maent yn byw ; gwelwch fel y mae gwr yn caru y wraig, a'r wraig yn ym- ostwng i'r gwr, megis i'r Arg- 2T