Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. v.] MAI, 1831. [Llyfr i. BYWGRAFFIAD. COFIANT MR. JOSIAH DAYIES, O LUNDAIN. Wrth ddarllen yr annercbiad serchawg, a'r cỳnghor difrifol, buddiol, a theilwng o sylw ein cydwladwyr, o eiddo y Parch. I. E. a ymddangosodd yu Rhif. I o'r Drysorfa, fel cyfarchiadrhag- ymadroddol iddo, yn ein hannog at bethau buddiol: ac o'r tu arall i ochelyd pethau afreidiol, diles, ac anadeíladol; a hefyd gocheliad, i beidio dilyn esampl- au llawer o ysgrifenwyr, sydd yn ehedeg i ryw uwchder anghyr- haeddadwy i'r cyffredinolrwydd; ond yn hytrach i gadw mor agos ag y gellir at iaith bur y Bibl; a thrwy hyny cadw at yr hyn y'n cynghorir gan yr apostol, sef, "Gwneler pob peth er adeilad- aeth.'' Tybiais, o ganlyniad y byddai derbyniad i ychydig lin- ellau oddiwrth y gwaelaf o'ch Gohebwyr; sef, Hanes byr o ddyddiau olaf, ynghyd amarwol- aeth orfoleddus, un o'n hanwyl frodyr, a gafodd " fynediad hel- aeth i mewn i drag'wyddol deyrn- as ei Arglwydd,'' sef, Mr. Josiah Davies, yr hwn a anwyd yn agos i Lanbrynmair, Swydd Drefal- dwyn, yn y flwyddyn 1785 ; ac unwyd ef â chwlwm priodasol gydag Eleanor Elias, o'r gym- mydogaeth hono, yn mis Meh. 1815, ac arweiniwyd hwynt gan ragluniaeth ddaionus a doeth y Goruchaf, i breswylio yn nhy Capel y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig, yn Wilderness Row, Llundain. Oddiyno y sym- mudwyd hwynt (pan orphenwyd adeiladu yr addoldy newydd) i Jewin Crescmt, Aldersgate, lle y mae gweddw ein brawd trangcedig yn parâu, yn ol ei harfer, i " weini i gyfreidiau y Saint," a'r gweinidogion sydd yn llafurio yn ein plith. Cymmerwyd Mr. D. yn afiach mewn canlyniad i oerni a gafodd yn Mis Tach. 1829, yr hyn a gyn- nyddodd, ac a derfynodd mewn darfodedigaeth graddol. Aeth i'r wlad mis Mai diweddaf, i'r dyben (fel y disgwyliodd ef) i gael gwellhad o'i afiechyd; ond ni thyciodd hyny, a gorfu iddo, yn mhen rhai misoedd, ddych- welyd adref wedi llesgâu yn ddirfawr; ac ni -bu nemawr o ddyddiau gartref, cyn iddo gael ei gyfyngu i'w ystafell wely. Nid oedd J. D. trwy holl ystod ei oes grefyddol (oddeutu 17mlynedd) yu cadw llawer o swn ynghylch crefydd, ond yr oedd arwyddion amlwg arno bob amser fod ei sylfaen yn dda, er mae'n debyg, na ammneuodd neb erioed yn fwy nag y darfu iddo ef; a bod ffrwyth i'w gael arno "ỳn ei bryd, a'i ddalen ni wywodd/ Amcanai bob amser i fod yn fanwl ac yn gysson gyda y "pethau trymaf o'r gyfraith'* trwy " lynu wrth ddarllen/achwilio yr ysgrythyrau er mwyn y perl a gynwysir yn- ddynt. Ac wrth ymdrechu â Duw mewn dirgelfanau, cafodd fynych fwynhad a phrofiad hel-