Skip to main content

Y DRYÖÜUFA. Rhif. CCXXVII.] TACHWEDD, 1865. [Llyfiì XIX. 2Dríutfyota. DYFODOL METHODISTIAETH. GAN Y PARCH. DANIEL ROWLANDS, A.M. Ond er y cwbl yr ydym ymliell oddi- wrth feddwl fod unriiyw achos i ni anobeithio wrth edrych i'r amser a ddaw. Mae yn wir ibd yn anmhosibl i un dyn ystyriol edrych yn wyneb yr ystyriaethau a ddygasom ger bron fel pethau sydd yn dangos ein bod ar ein prawí', ac ystyriaethau eraill cyffelyb iddynt, heb deimlo fod llawer o gyfrif- oldeb yn gorphwys arnom y dyddiau hyn, ac y gallai ein hanffyddlondeb ar y fath adeg bwysig esgor ar ganlyniadau alaethus yn y dyfodol. Ond o'r ochr arall, os "megys y derbyniasom Grist Iesu yr Arglwydd" y bydd i ni "rodio ynddo," os ceir ein harweinwyr yn y gwahanol ardaloedd yn rhai "a fedrant ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur," ac os ceir ni ymhob ffordd rywbeth yn debyg mewn cymhwysder i'n hamseroedd, i'r hyn ydoedd ein tadau i'w hamseroedd hwy, ni raid i ni bryderu, nac am ein bodolaetli nac am ein defnyddioldeb, yn yr amser i ddyfod. Mae yn wir fod yn naturiol i ddynion ediych yn liawn ddigon ffafriol ar sefydliadau y maent wedi eu magu yn eu mynwes, ac y mae eu traddodiadau wedi gosod eu hargraff arnynt o'u mebyd. Ac y mae yn naturiol iawn i ninnau edrych felly ar ein Methodistiaeth. Pan gofiwn am yr hanes a gawn am sefyllfa pethau yn Nghymru cyn i'r Diwygiad Methodist- aidd wawrio; pan gofiwn am "ardderch- og lu" y tystion cyntaf yn myned allan â'u calon yn liawn o dân Duw, "heb wneuthur cyfrif o ddim, na bod yn werthfawr ganddynt eu heinioes eu hun chwaith, am y gorphenent eu gyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniasent gau yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw;" pan feddyliwn am eu canlynwyr, y naill oes ar ol y llall, yn weinidogion a blaenor- iaid, yn ymroddi gyda'r fath hunan- aberthiad gogoneddus i wasanaethu eu Duw a'u cenedl, a hyny weithiau yn nan- nedd erlidigaeth, a phob amser yn nghan- ol anhawsderau; pan feddyliwn hefyd am y swm anferth o weithgarwch cref- yddol a ddeffrö wyd trwy eu hymdrechion hwy ymhlith y genedl yn gyflredinol, a'r gwahauiaeth rhwng Cymru yn 1865 a 1736 ; ac ynglŷn âhyn oll, pan gofiwn i ni ein hunain gael ein geni, a'n magu, a'n dwyn i fyny, yn nghanol y bywyd nerthol hwn, ac mai gofal dyfnaf y rhai anwyl sydd jti awr "ger bron gorsedd- fainc Duw," yn "gorphwys oddiwrth eu llâfur," ydoedd fod i ninnau hefyd fìlwrio yn ngwasanaeth yr lesu filwr- iaeth dda, a marw yn yr arfogaeth,— pan feddyliwn am y pethau hyn, a ydyw yn rhyfedd ein boä yn ymlyngar wrth ein Methodistiaeth ? Yr ydym yn clywed eraill weithiau yn ymffrostio yn eu sefydliadau neu eu cyfundebau; ac wrth eu gweled yn gwneyd y fath ymdrech wrth geisio cyfiawnhâu eu hymffrost, nid ydym ambell dro h deimlo eu bod mewn cymhariaeth yn