Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. OCXXVI.] HYDREF, 1865. [Llyfr XIX. %x%úỳẁw. DYFODOL METHODISTIAETH. GAN Y PARCH. DANIEL ROWLANDS, A.M. Wrth ddangos yn ein hysgrif flaenorol fod ein Metnodistiaeth y dyddiau hyn mewn modd arbenig ar ei phrawf, galw- asom sylw at ddau beth yn neillduol sydd yn dangos hyny; yn 1. Fod pob- peth yn heneiddio, ac nad ydym heb le i ofni fod gwywdra henaint mewn lla- wer man wedi ymaflyd i raddau mawr yn ein heglwysi ninnau; yn 2. Fod nerth mawr ein hysgogiad cychwynoL yr ìmpetus a roddwyd i'n Cyfundeb ar y dechre trwy ddiwygiadau nerthol, &c, erbyn hyn i raddau mawr wedi ar- afu, ac fod yn amlwg y rhaid i ninnau bellach, fel eglwysi eraill, ymbarotoi, wrth awgrym ac arweiniad Rhaglun- iaeth, i wynebu ar y gwaith a roddwyd i ni i'w gyílawni. Y mae y ddwy ystyriaeth uchod yn golygu amddifadrwydd mwy ar ein rhan ni o nerth i weithio; ond beth attolwg am yr amgylchiadau dan ba rai y gelwir ni yn y dyddiau hyn i gyf- lawni ein dyledswyddau ? Pe byddai yr amgylchiadau yn ffafriol, fe fyddai hyny yn fantais i'n gwendid, ac yn gwneuthur yn bosibl i ni beidio bod yn golledwyr mawrion, er nad ydym mwy- ach mor ieuanc ag y buom, ac er fod ein hysgogiad cychwynol wedi arafu. Ond prin, fe allai, y gaUwn ddyweyd hyny am yr amgylchiadau yr ydym ynddynt yn bresennol. Mae yn wir, gyda difrifwch crefydd yn tanio ein hjrsbrydoedd oll, y gallent fod yn fan- teisiol iawn i lafur a ffyddlondeb cref- yddol. Ond fel y mae pethau yn bod, y mae ein hamgylcbiaiau y fath ag y gellir dywedyd eu bod hwythau hefya yn tueddu i osod ein Methodistiaeth ar ei phrawf. Y mae hyn yn golygu fod llawer o'n cyfeillion mewn perygl mawr o golli eu crefydd oll; llawer eraiH dan demtasiwn i ymgymeryd â rhyw ffurf o grefydd a fyddo yn esmwythach i gnawd, ac yn fwy cydweddol â balch- der eu calon; a rhai, er parhâu o hon- ynt yn ffyddlawn i Grist, dan fath o anghenrheidrwydd i fwrw eu coelbren gyda rhyw gyfundebau crefyddol eraill. Yn un peth, gellid nodi gwyUtineb mawr ysbryd masnachol y dyddiau hyn fel peth ag y mae i ni berygl neillduol oddiwrtho. Y mae gwahaniaeth dir- fawr rhwng masnach ein dyddiau ni â masnach ein tadau. Yn Ue bod pob cyinydogaeth yn aros fel o'r dechreuad o fewn ei therfynau ei hun, yn byw ar ei hadnoddau ei hunan, a phawb yn teimlo fod cael byw, yn enwedig os yn weddol gysurus, yn ddigon,—y mae pob ardal erbyn hyn wedi ei hagor i'r Dyd, pob teulu yn galw am addurniad- au a moethau y rhaid eu casglu o eithaf y ddaear, a phob un ymron sydd yn ymgymeryd â masnach oll, yn anfodd- lawn ar un nôd Uai na chyrhaedd an- ferth gyfoeth, a hyny mewn ychyd^; amser. Y mae anturiaeth, ehangder, a Uwyddiant masnach y deyrnas hon yn y blynyddoedd diweddaf hyn, yn rhyw- beth aruthrol i feddwl am dano. Y