Skip to main content

Y DRYSORPA. Rhif. CCXXV. MEDI, 1865. [Llyfe XIX. WtMfyẀW. DIM ACHOS CYWILYDDIO O'R EFENGYL. Adeoddiad o Beegeth a dhaddodwyd gan y diweddab, Barch. wllliam roberts, amlwch. Rhufeinliid i. 16, 17: "Canys nid oes arnaf gywilydd o «fengyl Crist; oblegid gallu Dnw yw hi er iachawdwriaeth i bob nn a'r sydd yn credu; i'r Iuddew yn gyntaf, ac hefyd i'r Groegwr. Canys ynddi hi y dadguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megys y mae yn ysgrifenedig, Y cyíìawn a fydd byw trwy flydd.'' Dyben pob amlygiad o feddwl Duw yn y gwirionedd yw dwyn ysbrydoedd dynion i gydffurfio. âg ef, ac ufuddhâu iddo. Wrth wrandaw y dystiolaeth hon o eiddo yr Apostol, "Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Grist," byddai yn werthfawr iawn i gynifer ag sj'dd yma yn bresennol ddyfod i gredu nad ysgrif- enwyd ac nad adroddir hyn er mwyn Pauí yn unig, ond y dysgwylir i bob un à glywo hynyma brofi hyfder i ddy- wedyd yn gyffelyb, Wel, nid oes arnaf finnau ychwaith gywilydd o'r efengyl. Byddaf yn meddwl fod cyffredinolrwydd addysg ysgrythyrol trwy yr Ysgolion Sabbothol, ymdrechiadau teuluaidd, a phregethiad eglur o'r efengyl, wedi dwyn miloedd yn Nghymru i'r fath ystâd cydwybod ac agwedd ysbryd fel y maent yn teimlo y dylent ddilyn Crist, ac nas gallant fod yn hapus tra heb ei broffesu. Gofynwch iddynt, Paham yr ydych heb fod eto yn grist- ionogion trwyadl ? a'r ateb, os dywedent y gwir o'm calon, a fyddai, Ni a fuasem felly oni bae fod arnom gywilydd. Wrth feddwl yn ddifrifol am fy nghyd- •wladwyr, yr wyf yn casglu y buasai cannoedd lawer o'r rhai a alwn ni yn wiandäwyr wedi dyfod i gymundeb eglwysig oni bae fod arnynt gywilydd. Hwyrach fod yma rai yn fy ngwrandaw heddyw y byddai arnynt gywilydd i neb feddwl eu bod yn weddiwyr—nas gallent feddwl am wynebu eu cym- deithion dan y cymeriad o bobl yr Arglwydd. Yr oeddech, fe allai, yn dysgwyl cael tua diwedd y bregeth rywbeth a elwir yn gymhwysiad. Ond yr wyf fi yn ystyried fod cj'ffj^rddiad cymhwysiadol fel hyn mor briodol yn y dechre âg yn y diwedd. Er mwyn Duw, na chaffer chwi yn fyr o ryngu ei fodd ef oddiar gywilydd ymgeisio at hyny! Beth? cywilydd o'r hyn nad oes eisieu cywilyddio o hono! cywil- ydd, gyfaill, i neb feddwl dy fod yn edrych arnat dy hun mor isel nes credu nad oes genyt ar gyfer myned trwy lỳn cysgod angeu ond pwyso ar aberth Mab Duw! Os oedd rhywrai gynt "â'u go- goniant yn eu cywilydd," dyma rai sydd â'u cywilydd yn yr hyn a fuasai yn ogoniant iddynt. Yr oedd yr apostol yn ysgrifenu y geiriau hyn fel gradd o amddiffyniad iddo ei hun yn erbyn cyhuddiadau a roddid yn ei erbyn. "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist." Ar- wydda hyn fod rhywrai yn rhoddi hyny yn siars yn ei erbyn. Yr amgylchiad a'i harweiniasai hwy i ddyweyd hyny ydoedd ei fod ef am flynyddau lawer heb ymweled â'r Cristionogion yn Rhuf- ain, y dref fawr oedd y pryd hwnw yn fwy ei rhwysg a'i henw nag unlle arall^