Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. OCXXIV. AWST, 1865. [Llyfr XIX. Wtut^oòm, YB OES A'I DYLEDSWYDDAU". GAN Y PARCH. JOHN PUGH, B.A. Nid ar unwaith y gallwn ddyfod yn gydnabyddus â rhyw wrthddrych a gyflwynir i'n sylw. Yn gyffredin, rhaid edrych rai gweithiau yn ngwyneb yr un dyn cyn y galiwn fod yn sicr ein bod yn ei adnabod ; rhaid tramwyo ychwan- eg nag unwaith trwy yr un aräal tuag at ddeall ei hansawdd; ac anghenrheid- iol yw byw dros ryw yspaid ymysg pobl tuag at feddu syniad cywir am eu nodweddiadau. Felly hefyd y mae sylwi unwaith ac eilwaith a thrachefn, yn rhoddi graddau o fantais i ffurfio barn gy wir am yr Oes a'i Dyledswyddau. Yr ydys ar achlysuron blaenorol wedi sylwi fod yr oes yn arbenig, I. Am ei chynnydd mawr mewn gwahanol gang- enau gwybodaeth. II. Am amledd ac amrywiaeth ei manteision crefyddol. III. Am ei hysbryd masnachol ac antur- iaethus. IV. Am ei bywiogrwydd mewn gweithrediadau Cristionogol. Bellach cawn gymeryd golwg ar rai pethau yn ychwanegol. V. Mae tn oeb hynod am ei HAWYDDFRYD I GYRHAEDD A MWYN- HAU EI HIAWNDERAU A'l RHYDD- FREINTIAU. Mae yr ysbryd hwn wedi rhedeg i raddau mwy neu lai trwy holl gylchoedd cymdeithas. Pan dafler càreg i lỳn o ddwfr, gwelir cylchoedd bychain yn dechreu cael eu ffurfio y naül ar ol y HalL ac yn myned fwyfwy nes ymledu dros wyneb yr holl lỳn; felly hefyd y mae yr ysbryd dan sylw yn dylanwadu ar ddynion yn gyffredinol. Y mae i'w ganfod yn nghylch bach y teulu j y mae yn ymledu at wahanol gymdeithasau crefyddol a chyffredin; mae yn dylan- wadu ar weithí äoedd mawrion ; mae yn cynhyrfu gwahanol daleithiau, ac yn ymledu yn gyflym dros y byd. Amlygir yn ein hoes anfoddlonrwydd i ddefodau a threfniadau sydd yn tueädu i rwystro dynion addoli Duw mewn modd a gymeradwyir gan eu barn a'u cydwybodau eu hunain. Ac y mae hyn yn dangos awydd am ryddid crefyddol. Teimlir mewn gwahanol wledydd anes- mwythder dan bob iau ag sydd yn effaith mympwy a thra-arglwyddiaeth ; a gelwir am gyfreithiau wedi eu sylfaenu ar reswm a chyfiawnder. Trwy hyn amlygir awyddfryd am ryddid gwladol. Un rheswm dros y cyffro cyffredinol hwn ydyw cynnydd mewn gwybodaeth a diwylliant. Mae yn ffaith nas gellir ei gwadu, mai po fwyaf y byddo dynion yn cael eu goleuo a'u coethi, mai mwyaf äiddig ydynt dan bob iau resymo^ a mwyaf amyneddgar ydynt yn wyneb pob blinder anocheladwy. Tra y mae yr anwybodus a'r anwar, y rhai sydd heb weled pethau yn eu cysylltiad â'u gilydd, yn ymgynhyrfu yn ddiachos a direol yn erbyn dynion ac amgylchiad- au, y mae y dosbarth goleuedig, gan eu bod yn gweled rheswm dros yr anfan- teision a gyfarfyddant, yn amlygu tawelwch meddwl, gan ddysgwyl yn amyneddgar am ymwared. Yr ydys yn cael profion o hyn yn barhâus mewn gwahanol amgylchiadau. O'r tu arall, y mae gwybodaeth a diwylliant yn tueddu dynion i ddiystyru awdurdod a