Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCXXII. MEHEFIN, 1865. [Llypb XIX. %x%ttyohm. DEILIAID BED7DD. LLTTHTR VI. TYSTIOLAETHAU AC AWGBYMIADAU Y TESTAMENT NEWYDD. Anwyl Gyfaill,—Yn ein llythyr olaf, ni a gymerasom yn ganiatäol y bwriadai lesu Grist i'w siars ddiweddaf i'r dysg- yblion gael ei hiawnddeall ganddynt, ac felly ei fod o leiaf wedi cymeryd i'w ystyriaeth yr holl amgylchiadau pwysig a'r arferion crefyddol ag oedd o Ddwyf- ol ordeiniad, ac wedi gadael argraff ddwfh arnynt yn ífurfiad eu syniadau crefyddoh ac mewn canlyniad i hyny ei fod wedi geirio ei siars iddynt yn y fath fodd ag a gyflwynai iddynt hwy yr unig ystyr a ddymunai efe. Ni ddarfu i mi geisio dwyn rhesymau cywrain o blaid y golygiad hwn, oblegid ymddan- gosai i mi yn gasgíiad anocheladwy oddiwrth y gwirioneddau mwyaf adna- byddus a phwysig, megys hollwybod- aeth Crist, ei onestrwydd perffaith, ynghyd a'r dyddordeb angerddol a deimlai yn yr amcan o ennill iddo ei hun yr eglwys hono a " bwrcasodd â'i briod waed." Yn ein hymgais i gael gafael ar ystâd meddwl y dysgyblion, arweiniwyd ni i sylwi ar eu dull arferol o ddysgyblu neu broselytio, deddf yr en- waediad, ynghyd a cbyfammod Abra- ham i'r hwn y perthynai. Gwyddem fod gan y rhai a goleddant syniadau gwahanol i'r eiddom ni ar y pwnc hwn, wrthwynebiad mawr i neb ymresymu allan o'r Hen Destament ar y testun. Gwyddem hefyd fod ysgrifenwyr han- ner-anflyddol yr oes hon yn hoôî ysgaru rhwng y ddau Destament; a thra y tal- ant ryw gymaint o warogaeth i gyn- nwysiad y Testament Newydd, anghyd- nabyddant yn hollol yr Hen. Ond er hyn ni'n rhwystrwyd. Yr oedd ym- chwil i'r Hen Destament yn anghen- rhaid arnom yn ol ein gosodiad cyntaf, yr hwn a ystyriem ni yn anorchfygoí er ennill cymeradwyaeth y meddwl cydwybodol a'i darllenai; oblegid mi a obeithiaf na thybiwch fi yn euog o wen- iaeth pan ddy wedaf mai dyna fy nghred am danoch. Credem hefyd fod yr ym- drech i ysgaru y ddau Destament, er mwyn anrhydedáu y naill ar draul di- ystyru y llall, nid yn unig yn ddirmyg ar eu Hawdwr, ond yn un o'r pethau mwyaf afresymol ac anathronyddol, er cymaint ydyw bôst mewn athroniaeth y neb a ymddygant felly. Ystyriem yn wastad nad oedd unrhyw athron- iaeth deilwng o'r enw yn dysgu ignorio unrhyw ffaith, yn enwedig ffaith mor bwysig a bod dynolryw wedi byw ac wedi bod dan ddysgyblaeth amrywiol yr Anfeidrol Ddoeth am filoedd o flyn- yddoedd cyn dechreuad y cyfhod ymha un yr ysgrifenwyd y Testament New- ydd, a'r hyn a wnaeth y cyfnod hwn yn beth posibl. Meddiennid ni hefyd gan argyhoeddiad dwfn o unoliaeth hanfodol yr Hen Destament a'r Newydd, gan nad oes gan Dduw ond un drem o iachawd- wriaeth hollddigonol ar gyfer y byd mewn gwahanol oesau, a bod egwyddor- ion crefydd o anghenrheidrwydd yr un, er holl amrywiaeth amgylchiadau. I'r efrydydd ymchwilgar y mae hyn yn