Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCXIX. MAWRTH, 1865. [Llyfr XIX. $jX%Ú§QÙKVí. Y BEDYDD CRISTIONOGOL. LLTTHYR V. DEILIAID BEDYDD—Y COMMISIWN—CYFAMMOD ABRAHAM. Anwyl Gyfaill,—Dysgwyliaf eicla bod bellach yn barod ac awyddus i íÿned ynilaen gyda'r pwnc y dechreuasom ys- grifenu arno mewn ufudd-dod i'ch cais. Cawsoch fisoedd o seibiant, fel y gallech yn y cyfamser wneuthur ymchwiliadau i faterion eraill, y rhai a gynnygid i'ch I sylw gan aingylchiadau penodol, neu y I rhai gan dueddfryd naturiol eich medd- j wl y teiiulech ddyddordeb neillduol '■ ynddynt. Ystyriem hyny yn anghen- J rheidìol, oblegid nid ar Fedydd yn unig j y bydd byw dyn. Gyda newydd-deb j ysbryd, mi a obeithiaf, eich bod yn awr, ! gan hyny, yn barod i ailymafíyd yn y ! pwnc; oblegid nid da ydyw i ẁr ieu- | anc ollwng o'i afael unrhyw bwnc cyn ei chwilio yn fanwl drwyddo oll. Heb- law yr anfantais a dardd oddiar anmher- ffeithrwydd y ddirnadaeth o'r pwnc ei hun, y mae yr arferiad hwn yn dwyn gwendid i mewn i'r cymeriad—gwendid a amlyga ei hun drachefn mewn am- j ryw ddulliau, gyda gwahanol bethau, er mynych a mawr ofid. Adwaenom bregethwr a fiinid gan dueddfryd i roddi llyfr heibio cyn gorphen ei ddar- llen. I'r dyben o lwyr orchfygu am byth y tueddiad, penderfynodd y mynai, os cai einioes ac iechyd, ddarllen drwyddo yn ddiorphwys yr Encyclopocdia Britannica neu y Metropolitana. (Nid yw o gy- maint pwys pa un, oblegid y mae y naill waith a'r llall dros ugain cyfrol fawr guarto—hyny y w, cymaint â Bibl mawr Peter Wilîiams.) Gŵr annysg- edig ydoedd, ac felly nid oedd bosibl ei fod yn deall hanner yr hyn a ddarllenai; ond pa waeth am hyny ? mynodd ddar- llen pob llinell o hono. Buasai yn ddi- fyrwch genym weled y brawd yn dwyn ei benyd Pabaidd o herwydd y pechod parod i'w amgylchu; a chyda'r un di- fyrwch, mae'n bosibl, y derbyniasem hefyd ychydig addysg. Temtasiwn fawr dyn ieuanc sychedig am wybodaeth ydyw y demtasiwn i geisio dysgu a dar- llen y cwbl ar unwaith, fel y behemoth yn Llyfr Job, "Yr hwn a obeithiai y tynai efe yr Iorddonen i'w safn;" ac felly fethu dysgu na darllen dim i bwrpas. Y feddyginiaeth oreu ar gyfer hyn ydyw i ddyn benderfynu y rhaid iddo fod yn auwybodus am liaws o bethau, hyd yn nôd pe cai fyw i oedran Methuselab, ac am hyny mai gwell ydyw iddo ymbwyllo i drefnusrwydd a diwydrwydd, heb wylltineb direol, gan gymeryd pob cwestiwn yn ei amser a'i drefn briodol, ac ymdrechu meistroli ychydig o bethau yn drwyadl. Wrth roddi y cynghor hwn i chwi, da fyddai i mi ei gymeryd i mi fy hun, oblegid y mae arnaf ei fawr anghen. Ónd pa gy- sylltiad sydd rhwng hyn oll â Bedydd ? Hwyrach eich bod chwi yn methu can- fod dim, ac nid ydwyf finnau yn sicr fy mod yn canfod rhyw lawer. Ond pe na byddai yr un cysylltiad i'w ganfod, y mae genyf esgus yn barod wrth law, sef bod ychydig o "ymdroi yma ac acw " yn rhyddid caniatäol mewn llyth- yr cyfrinachol. Y mae genyf amcan arall, sef ymweithio i dymher weddol o