Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCXVIII. CHWEFROR, 1865. [Llyfr XIX. líx%tfyẃw. YR OES A'I DYLEDSWYDDAÜ. GAN Y PARCH. JOHN PUGH, B.A. Pan nodwyd y testun uchod, yr oedd i yr ysgrifenydd yn tybied y buasai yn cael amryw fisoedd i'w droi yn ôl ac ! ymlaen yn ei feddwl cyn dechreu ys- j grifenu arno. Ond wedi derbyn nodyn j deisyfiol oddiwrth y Oolygydd, a chan ! deimlo rhwymau brawdoliaeth, nid ; oedd dim i'w wneyd ond dechreu I ysgrifenu, a gwneyd y defnydd goreu o'r > yspaid byr a ganiatëid. Eto, pe byddai ; i un awgrymu ei fod yn holiol anmhar- j od i ddyweyd dim am yr Oes a'i Dyled- '■ swyddau, byddai hyny mor anghywir â i phe dywedai nas gall roddi unrhyw ddesgrifiad o'r tŷ yr hwn y mae yn ym- I wibio trwy ei ystafelloedd bob dydd, I neu nas gall roddi un hanes am y teulu | yr hwn y mae wedi bod mewn cysyllt- iad âg ef am flynyddoedd. Y mae mor anghenrheidiol i ddyn,pan yn troimewn rhyw gyichoedd, sylwi ar neillduolion ei oes ag ydyw fod y llonglywydd wrth forio yn craffu ar sefyllfa y ser yn yr wybren. Mae y cyfryngau yn lìiosog trwy ba rai y gallwn ddyfod yn gydna- byddus âg ansawdd ac â dullwedd ein hoes. Yr ydym yn cael mantais i hyn yma trwy gyfrinachau, llythyrau, cym- deithasau, teithiau, newyddiaduron, misolion, adroddiadau, pregethau, a phrofiadau eglwysig. Ac y mae Gair Duw yn gyfarwyddwr anffaeledig gyda golwg ar ein dyledswyddau. Pe buasai yr ysgrifenydd yn ymattal, gan ystyried yn unig y cymhwysderau anghenrheid- iol i drin y pwnc hwn yn briodol, buasai ar unwaith yn cael ei dueddu i droi ymaith oddiwrtho. Ond eto teimlai fesur o galondid i fyned ymlaen wrth ystyried ei fod 501 bwnc y gellir gwneyd defnydd da 0 hono trwy sefyll uwch ei ben gyda graddau 0 symledd iceddwl. Nid ydym eto yn gweled yn eglur beth fydd cwmpas y sylwadau a wneir ar y pwnc ; er hyny gellid meddwl y byddai ceisio crynhoi y cwbl i un erthygl yn rhywbeth tebyg i'r hyn a ddywedir am yr Atheniad hwnw, yr hwn pan oedd o gylch gwneyd arwerthiad cyhoeddus o'i dŷ, a ddygodd briddfaen yn ei logell i'r farchnadfa fel dangoseg i'r bobl pa fath dŷ ydoedd. Er fod y manteision i dd}'fod yn gyd- nabyddus â'r oes yn gyflëus i bawb, eto dichon i ddynion amrywio yn fawr yn eu barn am ei gwir nodweddiadau. Mae am- rywiaeth oedran ac amgylchiadau, ac yn enwedig gwahaniaeth yn ansawTdd neu gyfansoddiad meddwl dynion, yn peri eu bod yn gwahaniaethu yn fawr yn eu syn- iadau am yr un pethau. Pan dderbynir atebiad oddiwrth ambell un i'r cwest- iwn, "Beth ydyw o'r gloch?" rhaid cyf- rif yn ddioed pa faint ydyw efe yn rhy fuan; a phan dderbynir atebiad i'r un cwestiwn oddiwrth rywun arall, rhaid cyfrif drachefn pa faint ydyw yntau yn rhy araf. Yn y cyffelyb fodd pan ddy- wedo ambell un ei farn am yr oes, rhaid ystyried pa faint ydyw efe yn rhy fuan: dichon ei fod o ran tymher yn rhy hyderus a brwdfrydig i roddi dangos- iad teg o bethau. A phan ddywedo ambell un arall ei farn, rhaid ystyried pa faint ydyw yntau yn rhy araf: dichon ei fod o ran ei ysbryd yn rhy drymaidd a phruddglwyfus i osod allan yn gywir y gwirionedd. Os bydd rhai