Skip to main content

X DEYSOEPA Rhif. 613.] TACHWEDD, 1881. [Llyfr LI. DEFOSIWN CREFYDDOL. GAN Y PARCH. ABRAHAM OLIYER, LLANDDEWIBREFI. Defosiwn yw duwioldeb, crefyddol- deb, ymwneyd dyniou â Duw trwy ymarferiadau a dyledswyddau cretydd- ol, ynghyd ag agweddiad addas meddwl a chorff yn y gwasanaeth. "Ysbryd yw Duw;" gan hyny " rhaid i'r rhai a'i haddolant ef ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd." Y mae mawredd, sanct- eiddrwydd, hollwybodaeth, a hollbres- ennoldeb Duw; yn galw arnom i'w "wasanaethu gyda gwylder a pharch- edig ofn." A thuag at ei wasanaethu felly, y mae yn anghenrheidiol i'r corff a'r meddwl fod mewn agwedd briodol, oblegid y dylanwad sydd gan y nailí ar y llall. Y mae y dynoethiad a wnaeth y tad- au Methodistaidd ac eraill o atles pob cyflawniadau crefyddol heb ddylan- wadau a gweithrediadau yr Ysbryd G ân, yn ngwyneb fod y rhan fwyaf yn yr Eglwys Sefydledig ar y pryd yn seilio eu gobaith am fywyd tragywydd- ol ar gyflawuiadau a defodiu allanol crefydd, wedi achlysuro i laweroedd o'r Ymneillduwyr yn Nghymru fyned yn eithafol yr ochr arall, sef i beidio talu sylw priodol i agweddau allanol gyda chrefydd, gan ystyrit-d trefnagweddus- rwydd allanol yn falchder ac nid rhin- wedd, ac yn foddion i yru yr Ysbryd GlâD o'n plith, ac anghofio íbd yr Ys- bryd yn awdwr trefn ac yn gorchymyn trefn. Efe oedd y trefnydd yn y gread- igaeth. Yr oedd y ddaear yn " afiun- iaidd a gwag"—yn un gymysgfa ddi- fywyd a didrefn, nes iddo et ymsymud arni, a chynnyrchu pob bywyd sydd ynddi, a gosod y cwbl yn y drefn oreu oedd yn b. sibl. Yr oedd y neloedd uwch ben yn dywyllwch caddugol, nes iddo ef ei haddurno â goleuni; ac y mae wedi gorchymyn, trwy yr Apostol, i'r eglwys wneuthur "pob peth yn weddaidd ac mewn trefn." Y mae yn rhaid addet fod yr Ymneillduwyr yn Nghymru, yn enwedig yn y Deheudir, ymbell iawn yn ol mewn gweddeidd- dra a threfn yn eu hymarferiadau cret- yddol y dyddiau hyn. Yr ydym ymhell ar ol y Saeson a'r Ysgotiaid yn hynyma. Y mae yn wir ein bod wedi gwella llawer ; ond y mae genym lawer 0 le i wella eto cyn y deuwn i fyny â chenedloedd eraiîl, chwaithach cyr- haedd perffeithrwydd, yn y peth hwn. Er mantais i weled ein diffygion mewn defosiwn crefyddol, ac i ddiwyg- io, ceisiwn sylwi ychydig ar y gwahan- 01 ymarferiadau crefyddol eydd genym ag y mae sail iddynt yn ngair Duw, ynghyd a chamagweddau .llawer wrth ymwneyd â hwynt, a'r fath a ddylai ein hagweddau fod. I. Yr ymarferiad neu y ddyled- SWYDD O WEDDIO. Gweddio yw dyledswydd fwyaf han- fodol crefydd. Y mae yn "rhaid gweddio bob amser, ac heb ddiffygio." "Gweddiwch yn ddibaid." Nid aeth neb ac nid ä neb byth mewn oed i'r nefoedd heb weddio. Dywed Gurnal mai gweddi yw anadl y djn newydd yn y cristion. Y mae mor hawdd byw yn naturiol heb anadlu ag yw byw yn ysbrydol heb weddio. "Gan weddio bob amser â phob rhyw weddi a deis- yfiad yn yr Ysbryd." Y mae'r cristion yn cael neith i gyflawni pob dyled- swydd. Y mae yn anghenrheidiol ym- arfer " pob rhyw weddi," sef pob math o weddiau, er byw yn dduwiol. 1. Gweddi ddirgel. Y mae Iesu Grist vedi gosod arbenigrwydd ar y weddi 2 H